Dyma'r diweddariad diweddaraf gan Gyngor Caerdydd, yn ymwneud â: chynnig gwersi gyrru am ddim i weithwyr gofal newydd; mae gwaith yn dechrau ar yr ysgol gynradd gyntaf i gael ei hadeiladu o dan Gynllun Datblygu Lleol Caerdydd, bydd yr Eglwys Norwyaidd yn ailagor fis nesaf o dan geidwaid newydd; a'r coronafeirws nifer wrth nifer.
Gwersi gyrru am ddim yn cael eu cynnig i weithwyr gofal Newydd
Mae Cyngor Caerdydd wedi datgelu cyfres o fesurau arloesol, gan gynnwys gwersi gyrru am ddim, i ddenu recriwtiaid newydd i'w wasanaethau gofal cymdeithasol.
Mae gan yr awdurdod swyddi gwag ar gyfer gofalwyr drwy ei rwydwaith o gartrefi preswyl a chanolfannau dydd, ynghyd â'r timau sy'n darparu gwasanaethau cymorth i bobl yn eu cartrefi eu hunain.
Ac mewn ymgais i ennyn diddordeb mewn gofal cymdeithasol fel gyrfa, mae Academi Gofalwyr Caerdydd - uned recriwtio a hyfforddi gofal y cyngor - yn cynnig amrywiaeth o gymhellion newydd i ddarpar weithwyr, gan gynnwys:
Dywedodd y Cynghorydd Susan Elsmore, yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles: "Mae pawb yn gwybod bod angen gofalwyr ar frys ar y sector gofal cymdeithasol ledled y wlad, yn enwedig y rhai sy'n gallu gyrru, ac yng Nghaerdydd rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y preswylwyr hynny sydd ei angen yn cael y gofal gorau posibl.
"Mae gan Academi Gofalwyr Caerdydd arbenigedd mawr mewn recriwtio a hyfforddi gofalwyr ac ers mis Hydref y llynedd mae wedi helpu 52 o bobl i gael hyfforddiant ac wedi galluogi 30 o bobl i ddod o hyd i waith. Nawr dylai'r mentrau newydd hyn helpu hyd yn oed mwy i fynd i'r afael â'r prinder staff rydym yn ei wynebu ledled y ddinas."
Ychwanegodd ei chydweithiwr yn y Cabinet, y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Mae'n amlwg mai ymhlith gyrwyr y mae'r galw mwyaf ac rydym am roi help llaw ychwanegol i'r bobl hynny sydd eisoes yn dysgu i gael eu trwydded. Rydym yn barod i dalu am gost y prawf theori a'r prawf gyrru ei hun a thalu am rhwng 10 ac 20 gwers os teimlir mai dyna'r cyfan sydd ei angen."
Mae'r holl rolau sydd ar gael yn talu o leiaf y Cyflog Byw, ymrwymiad gan y Cyngor i'w holl weithwyr.
Er mwyn hyrwyddo rolau'r cyngor, a swyddi gwag eraill gyda rhai o bartneriaid preifat y cyngor yn y sector gofal, bwriedir cynnal cyfres o sesiynau galw heibio 10am-2pm dros yr wythnosau nesaf, gan gynnwys:
Gwaith yn dechrau ar yr ysgol gynradd gyntaf i gael ei hadeiladu dan Gynllun Datblygu Lleol Caerdydd
Mae seremoni torri'r tir arbennig yn nodi dechrau'r gwaith adeiladu ar ysgol gynradd newydd i'w lleoli yn natblygiad St Edern.
Yr ysgol gynradd £6m newydd fydd y gyntaf i gael ei darparu fel rhan o Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) Caerdydd a bydd yn gartref newydd sbon i Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg, a fydd yn adleoli o'i safle presennol yn Llanrhymni.
Torrwyd y tir ar y safle gan Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, Aelod Cabinet Caerdydd dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry, Pennaeth Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg, Jane Marchesi a Chadeirydd y Llywodraethwyr, Gary Twell.
Daeth disgyblion o'r ysgol i'r digwyddiad hefyd ac ymunodd cynrychiolwyr o Halsall Construction a Persimmon Homes Dwyrain Cymru â nhw.
Bydd yr ysgol newydd, a ddarperir gan Halsall Construction ar ran Persimmon Homes, yn gwasanaethu rhannau o Bontprennau a Phentref Llaneirwg a bydd yncael ei lleoli i'r dwyrain o ffordd gyswllt Pontprennau. Bydd yn ysgol 1 dosbarth mynediad, â lle i 210 o ddisgyblion, gan gynnwys meithrinfa ran-amser â 48 lle, gyda'r cyfle i ehangu i 2 ddosbarth mynediad (420 lle) yn y dyfodol. Bydd cyfleuster cymunedol yn gysylltiedig â'r ysgol gyda mynedfa breifat a mynedfa gydgysylltiedig sy'n cynnig buddion i'r gymuned ehangach.
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae torri'r tir yn garreg filltir gyffrous i'r safle ysgol newydd a fydd, ar ôl ei gwblhau, yn darparu amgylchedd dysgu modern o'r radd flaenaf i ysbrydoli staff a disgyblion.
"Mae'r datblygiad tai yn St Edern eisoes yn boblogaidd iawn, gan greu cynnydd sylweddol yn y galw am leoedd ysgol yn yr ardal. Bydd gan yr ysgol newydd ffocws cymunedol sy'n rhoi cyfleoedd i bobl leol gael mynediad at gyfleusterau yn ogystal â sicrhau bod lleoedd ysgol ar gael."
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28687.html
Yr Eglwys Norwyaidd i ailagor y mis nesaf dan geidwaid Newydd
Mae Eglwys Norwyaidd eiconig Caerdydd yn paratoi i ailagor yn gaffi, yn ganolfan gelfyddydau ac yn lleoliad cerddoriaeth y mis nesaf.
Mae'r cam hwn yn dilyn penderfyniad Cyngor Caerdydd i drosglwyddo gweithgareddau Ymddiriedolaeth Elusennol yr Eglwys Norwyaidd i elusen newydd dan arweiniad Cymdeithas Norwyaidd Cymru. Mae hyn yn rhan o nod yr awdurdod o sicrhau dyfodol hirdymor asedau treftadaeth y ddinas.
Cafodd yr adeilad gwyn trawiadol, gerllaw'r Senedd ym Mae Caerdydd a safle bedydd yr awdur Roald Dahl, ei gau ar ddechrau'r pandemig yn 2020, ond bydd yn ailagor ddechrau mis Ebrill dan stiwardiaeth Eglwys Norwyaidd Bae Caerdydd.
Mae ymddiriedolwyr yr elusen newydd yn cynnwys aelodau o Gymdeithas Norwyaidd Cymru ac aelodau o gymuned Norwyaidd y ddinas sydd bellach yn brysur yn paratoi'r eglwys ar gyfer ailagor ac yn creu rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau.
Dywedodd Dr Martin Price, cadeirydd yr elusen newydd: "Mae gan yr eglwys le arbennig yng nghalonnau pobl Caerdydd ac mae gennym gysylltiad agos â Chymdeithas Norwyaidd Cymru. Gyda'n gilydd, byddwn yn sicrhau bod y ganolfan yn adlewyrchu ein dau ddiwylliant."
"Rwyf wrth fy modd yn gwybod y bydd yr Eglwys Norwyaidd yn aros yn elusen sy'n cadw'r dreftadaeth a'r bond diwylliannol gyda Norwy," meddai Dr Tyra Oseng-Rees, cadeirydd Cymdeithas Norwyaidd Cymru.
"Mae gennym eisoes gysylltiadau cryf â Sir Vestland yn Norwy a byddwn yn parhau i sicrhau bod gan bawb sydd â diddordeb yn Norwy le i ymweld ag ef i gael rhyw flas ar Norwy yng Nghymru."
Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Ddiwylliant a Hamdden, ei fod wrth ei fodd bod dyfodol yr Eglwys Norwyaidd bellach yn ddiogel. "Mae'r adeilad wedi bod yn eicon ym Mae Caerdydd ers ei adeiladu ym 1868 ac yn nwylo'r elusen newydd rwy'n hyderus y bydd gan yr eglwys ddyfodol hir a llwyddiannus o'i blaen."
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28675.html
Coronafeirws Nifer wrth Nifer
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 01 Mawrth 2022
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro:
https://bipcaf.gig.cymru/covid-19/rhaglen-brechu-torfol-covid-19/
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (28 Chwefror - 06 Mawrth 2022)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru:
Mae'r data'n gywir ar:
10 Mawrth 2022
Achosion: 805
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 219.4 (Cymru: 202.1 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 2,810
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 765.9
Cyfran bositif: 28.6 (Cymru: 24.7% cyfran bositif)
Achosion COVID-19 a adroddwyd yn ysgolion Caerdydd yn ystod y 7 diwrnod diwethaf (04 Mawrth - 10 Mawrth 2022)
Cyfanswm y nifer a adroddwyd = 492
Yn seiliedig ar y ffigurau diweddaraf, mae ychydig o dan 56,000 o ddisgyblion a myfyrwyr wedi'u cofrestru yn ysgolion Caerdydd.
Cyfanswm nifer staff ysgolion Caerdydd, heb gynnwys staff achlysurol, yw ychydig dros 7,300.