Back
Gwersi gyrru am ddim yn cael eu cynnig i weithwyr gofal newydd

Mae Cyngor Caerdydd wedi datgelu cyfres o fesurau arloesol, gan gynnwys gwersi gyrru am ddim, i ddenu recriwtiaid newydd i'w wasanaethau gofal cymdeithasol.

Mae gan yr awdurdod swyddi gwag ar gyfer gofalwyr drwy ei rwydwaith o gartrefi preswyl a chanolfannau dydd, ynghyd â'r timau sy'n darparu gwasanaethau cymorth i bobl yn eu cartrefi eu hunain.

Ac mewn ymgais i ennyn diddordeb mewn gofal cymdeithasol fel gyrfa, mae Academi Gofalwyr Caerdydd – uned recriwtio a hyfforddi gofal y cyngor – yn cynnig amrywiaeth o gymhellion newydd i ddarpar weithwyr, gan gynnwys:

  • Hyd at 20 o wersi gyrru am ddim, os oes angen
  • Profion theori a gyrru am ddim
  • Gwiriadau GDG (cefndir yr heddlu) am ddim
  • Hyfforddiant a chymorth personol

Dywedodd y Cynghorydd Susan Elsmore, yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles:  "Mae pawb yn gwybod bod angen gofalwyr ar frys ar y sector gofal cymdeithasol ledled y wlad, yn enwedig y rhai sy'n gallu gyrru, ac yng Nghaerdydd rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y preswylwyr hynny sydd ei angen yn cael y gofal gorau posibl.

"Mae gan Academi Gofalwyr Caerdydd arbenigedd mawr mewn recriwtio a hyfforddi gofalwyr ac ers mis Hydref y llynedd mae wedi helpu 52 o bobl i gael hyfforddiant ac wedi galluogi 30 o bobl i ddod o hyd i waith.  Nawr dylai'r mentrau newydd hyn helpu hyd yn oed mwy i fynd i'r afael â'r prinder staff rydym yn ei wynebu ledled y ddinas."

Ychwanegodd ei chydweithiwr yn y Cabinet, y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad:  "Mae'n amlwg mai ymhlith gyrwyr y mae’r galw mwyaf ac rydym am roi help llaw ychwanegol i’r bobl hynny sydd eisoes yn dysgu i gael eu trwydded.  Rydym yn barod i dalu am gost y prawf theori a'r prawf gyrru ei hun a thalu am rhwng 10 ac 20 gwers os teimlir mai dyna'r cyfan sydd ei angen."

Mae'r holl rolau sydd ar gael yn talu o leiaf y Cyflog Byw, ymrwymiad gan y Cyngor i'w holl weithwyr.
Er mwyn hyrwyddo rolau'r cyngor, a swyddi gwag eraill gyda rhai o bartneriaid preifat y cyngor yn y sector gofal, bwriedir cynnal cyfres o sesiynau galw heibio 10am-2pm dros yr wythnosau nesaf, gan gynnwys:

  • Hyb Trelái – Sioe Deithiol y GIG, 14 Mawrth
  • Canolfan Waith Tŷ Alexandra, Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, Treganna – 10am-hanner dydd a 1pm-3pm, 17 Mawrth 
  • Hyb Llaneirwg, Heol Crucywel – Sioe Deithiol y GIG, 23 Mawrth
  • Eastmoors – Sioe Deithiol y GIG, 28 Mawrth
  • Llyfrgell Ganolog Caerdydd – Sioe Deithiol y GIG, 31 Mawrth