Mae'r cam hwn yn dilyn penderfyniad Cyngor Caerdydd i drosglwyddo gweithgareddau Ymddiriedolaeth Elusennol yr Eglwys Norwyaidd i elusen newydd dan arweiniad Cymdeithas Norwyaidd Cymru. Mae hyn yn rhan o nod yr awdurdod o sicrhau dyfodol hirdymor asedau treftadaeth y ddinas.
Cafodd yr adeilad gwyn trawiadol, gerllaw’r Senedd ym Mae Caerdydd a safle bedydd yr awdur Roald Dahl, ei gau ar ddechrau'r pandemig yn 2020, ond bydd yn ailagor ddechrau mis Ebrill dan stiwardiaeth Eglwys Norwyaidd Bae Caerdydd.
Mae ymddiriedolwyr yr elusen newydd yn cynnwys aelodau o Gymdeithas Norwyaidd Cymru ac aelodau o gymuned Norwyaidd y ddinas sydd bellach yn brysur yn paratoi'r eglwys ar gyfer ailagor ac yn creu rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau.
Dywedodd Dr Martin Price, cadeirydd yr elusen newydd: "Mae gan yr eglwys le arbennig yng nghalonnau pobl Caerdydd ac mae gennym gysylltiad agos â Chymdeithas Norwyaidd Cymru. Gyda'n gilydd, byddwn yn sicrhau bod y ganolfan yn adlewyrchu ein dau ddiwylliant."
"Rwyf wrth fy modd yn gwybod y bydd yr Eglwys Norwyaidd yn aros yn elusen sy'n cadw'r dreftadaeth a'r bond diwylliannol gyda Norwy," meddai Dr Tyra Oseng-Rees, cadeirydd Cymdeithas Norwyaidd Cymru.
"Mae gennym eisoes gysylltiadau cryf â Sir Vestland yn Norwy a byddwn yn parhau i sicrhau bod gan bawb sydd â diddordeb yn Norwy le i ymweld ag ef i gael rhyw flas ar Norwy yng Nghymru."
Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Ddiwylliant a Hamdden, ei fod wrth ei fodd bod dyfodol yr Eglwys Norwyaidd bellach yn ddiogel. "Mae'r adeilad wedi bod yn eicon ym Mae Caerdydd ers ei adeiladu ym 1868 ac yn nwylo'r elusen newydd rwy'n hyderus y bydd gan yr eglwys ddyfodol hir a llwyddiannus o'i blaen."
Gareth Roberts yw rheolwr newydd y ganolfan ac mae'n disgwyl i’r adeilad fod ar waith ddechrau mis Ebrill. "Rydyn ni’n mynd i adfywio'r lle yma’n sylweddol," dywedodd. "Bydd gennym gaffi wedi'i ailgynllunio a byddwn yn gwneud defnydd gwych o'r amwynderau eraill sydd gennym i gynnal dosbarthiadau a gweithdai.
"Mae'r acwsteg yma yn anhygoel ac mae Côr CF1, un o gorau mwyaf llwyddiannus Cymru, eisoes yn defnyddio'r eglwys ar gyfer ymarferion ac rydym yn gobeithio cynnal llawer o gerddoriaeth fyw a pherfformiadau eraill yma yn y dyfodol."
Er mwyn helpu i ariannu'r ganolfan, mae'r elusen newydd yn gobeithio cael gafael ar arian grant lle bo hynny'n bosibl ond mae'n disgwyl i refeniw sylweddol ddod o gyngherddau, llogi'r safle ac, wrth gwrs, y caffi.
"Bydd thema Gymreig gref i'r caffi," dywedodd Gareth. "Byddwn yn defnyddio llawer o gynhwysion a gynhyrchir yn lleol ond bydd llawer o fwyd gydag elfen Nordig hefyd a byddwn yn cynnwys prydau Norwyaidd bob dydd.