9//3/22
Mae gwefan Gwasanaeth Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd wedi cael ei hailwampio.
Mae'r wefan yn www.hybiaucaerdydd.co.uk, sy'n darparu'r holl wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau a gweithgareddau sy'n digwydd mewn canolfannau a llyfrgelloedd ledled y ddinas, yn ogystal â sesiynau ar-lein, wedi'i hadnewyddu i'w gwneud yn haws i gwsmeriaid gael gafael ar wybodaeth, i gyd mewn un lle.
Mae adrannau newydd ar y wefan yn cynnwys gwybodaeth am wasanaethau cynghori y cyngor megis Cyngor i Mewn i Waith a Chyngor Ariannol, yn ogystal â Gwasanaeth Cymorth Lles newydd y Cyngor, sy'n ceisio hybu iechyd a lles y gymuned a lleddfu rhai o effeithiau negyddol pandemig COVID-19 drwy ddarparu cyfleoedd i helpu cymaint o bobl â phosibl.
Mae gan bob hyb a llyfrgell yn y ddinas ei thudalen ei hun ar y safle erbyn hyn, sy'n darparu gwybodaeth am ba wasanaethau a chyfleusterau sydd ar gael yn y lleoliad, digwyddiadau, oriau agor a manylion cyswllt.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae gwefan hybiau Caerdydd yn edrych yn wych ar ôl ei hadnewyddu - yn fwy disglair ac yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol am wasanaethau, gweithgareddau a digwyddiadau yn ein rhwydwaith gwych o hybiau a llyfrgelloedd ledled y ddinas.
"Rydym yn gobeithio y bydd y newidiadau o gymorth i gwsmeriaid a byddwn yn eu hannog i edrych yn fanylach ar yr hyn sydd ar gael yn eu cyfleuster lleol."
I gael gwybodaeth a chyngor ar wasanaethau hybiau a llyfrgelloedd, edrychwch ar y wefan ar ei newydd wedd yma: