08/03/22
Bydd Cymru'n herio Ffrainc Ddydd Gwener, 11 Mawrth yn Stadiwm Principality.
Gyda'r gic gyntaf am 8pm - bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau o 4.30pm tan hanner nos i sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu mynd i mewn a dod allan o'r stadiwm yn ddiogel.
Cynghorir y rhai a fydd yn mynychu'r gêm i adael bagiau mawr gartref a thalu sylw i'r rhestr o eitemau a waherddir ynprincipalitystadium.walescyn teithio i'r ddinas.
Cau ffyrdd
Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar o 7am i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.
Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o batrwm cau ffyrdd llawn canol y ddinas, am 4.30pm
Ychwanegiadau:
Canolfan Ddinesig:Rheolir mynediad i ran o'r Ganolfan Ddinesig drwy'r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad i feysydd parcio preifat.
Ymhlith y ffyrdd bydd hyn yn effeithio arnynt mae Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.
Trenau
Mae Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg amserlen lawn Ddydd gwener 11 Mawrth ond oherwydd cic gyntaf hwyr dim ond nifer fach o drenau fydd ar gael wedi'r digywddiad.
Disgwylir i wasanaethau fod yn brysur iawn a chynghorir teithwyr i wirio'r wybodaeth deithio ddiweddaraf ar wefan Trafnidiaeth Cymru, yr ap neu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Cynghorir cwsmeriaid mai dim ond gadael Gorsaf Heol y Frenhines ellir ei wneud wedi 9pm oni bai fod gan deithwyr ofynion mynediad/neu os ydynt yn teithio i Fae Caerdydd.
Mae gorchuddion wyneb yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru (oni bai eich bod wedi'ch eithrio).
Os bydd gennych unrhyw broblemau ar y rheilffordd,siaradwch â'r swyddog tocynnau neu ar gyfer materion mwy difrifol, gallwch anfon neges destun at Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 . Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob tro.
Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig
Cyrraedd yno: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua'r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r ganolfan ddinesig.
Cost: £15 yn daladwy ar y diwrnod yn y maes parcio - mae taliadau cerdyn hefyd ar gael nawr.
Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.
Parcio ar ddydd y Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (Bysus)
Mae £25 yn daladwy ar y diwrnod (arian parod yn unig)
Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.
Cyfleusterau Parcio a Theithio
Bydd cyfleuster Parcio a Theithio'r digwyddiad yn Neuadd y Sir ym Mae Caerdydd. Mae'r cyfleuster yn hawdd i'w gyrraedd o'r M4, drwy adael wrth gyffordd 33, a theithio i lawr y ffordd gyswllt (A4232).
Bydd bysiau'n rhedeg i ganol y ddinas ac oddi yno bob 15 munud. Cost: £10 yn daladwy ar y diwrnod - mae taliadau cerdyn ar gael nawr hefyd.
Mae'r maes parcio'n agor am ganol ddydd a bydd y bws cyntaf yn gadael yn fuan ar ôl iddo agor. Bydd y bws olaf o ganol y ddinas am hanner nos a bydd y maes parcio'n cau am 00.30am
Parcio ar gyfer y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Gerddi Sophia (ceir)
(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).
Parcio ar gyfer y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.
Cost: £15 yn daladwy ar y diwrnod yn y maes parcio - mae taliadau cerdyn ar gael nawr hefyd.
Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am hanner nos.
Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy'n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.
Bws
Bysus lleol:
Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau
Ewch i wefan y gweithredwr bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.
Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i: Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)
Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i:https://www.cardiffbus.com/principality-stadium
Am ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i:https://www.natgroup.co.uk/
National Express:
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.
Allwch chi feicio neu gerdded?
Gall y rheini sy'n byw yng Nghaerdydd feicio neu gerdded.Mae ymchwil yn dangos bod 52% o'r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn braf mewn 20 munud.
Gwyddom hefyd fod 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd yn dymuno gwneud hynny.
Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau mawr.
Parcio i Siopwyr
Argymhellir i siopwyr ddefnyddio'r safleoedd Parcio a Theithio penodol ym Mhentwyn neu Neuadd y Sir. Neu mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion)
Parcio i Bobl Anabl
Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.
Gweler argaeledd ar wefannau unigol.
Tacsis
Bydd safle tacsi Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau am 4.30pm ac yn ailagor am hanner nos.