07.03.2022
Heddiw, mae Cyngor Caerdydd wedi llofnodi'r Cytundeb Swyddi Cymunedol (CSC) a fydd yn helpu i hyrwyddo cyfleoedd gwaith yn y gymuned ac yn cefnogi pobl leol i ymgeisio.
Fel cyflogwr sy'n recriwtio gan ddefnyddio CVs heb enw a chyfeiriad wrth recriwtio, sy'n mynd i'r afael â rhagfarn anymwybodol drwy gyflwyno hyfforddiant i gyfwelwyr ac sydd wedi ymrwymo i dalu'r Cyflog Byw ers mis Medi 2012,ydym wedi bod yn adeiladu ar yr ymrwymiadau hyn am y 5 mlynedd diwethaf.
Ar ben hynny, rydym yn ymrwymo i feithrin perthnasoedd a chefnogaeth i aelodau'r gymuned allu cyrchu cyfleoedd gwaith o fewn y cyngor.
Nod y Compact yw dod â phobl leol a chyflogwyr at ei gilydd i fynd i'r afael â thlodi, diweithdra a thangynrychiolaeth yn y gweithle drwy:
Mae hyn yn rhan o'n hymrwymiad i fynd i'r afael â chydraddoldeb hiliol yng Nghaerdydd o gynigion gan y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol.
Mwyyma.
Dilynwch #RETCDF ar Facebook, Twitter ac Instagram ar gyfer uchafbwyntiau a chyfweliadau gydag aelodau'r Tasglu Cydraddoldeb Hiliol, yn cydnabod y gwaith sy'ncael ei wneud i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau hil yng Nghaerdydd.
Straeon Cysylltiedig: