Back
Ymgynghoriad cyhoeddus ar gynlluniau Caerdydd i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth deallus

04/03/22


Bydd Cyngor Caerdydd yn ymgysylltu â'r cyhoedd
ar sut y gall y ddinas wella'r rhwydwaith trafnidiaeth gan ddefnyddio data a thechnoleg i leihau tagfeydd, gwella teithio ar fysiau ac annog  beicio a cherdded.

Gan ddefnyddio gwybodaeth amser real gallai 'system drafnidiaeth ddeallus' ddefnyddio ystod o fesurau i helpu pobl i wneud penderfyniadau am y ffordd orau o symud o amgylch y ddinas ar ddiwrnod neu amser penodol, gan gynnwys:

  • Cael app defnyddwyr trafnidiaeth i'r cyhoedd
  • Sicrhau bod y gyfnewidfa fysiau newydd yn cael ei hintegreiddio i rwydwaith priffyrdd Caerdydd
  • Datblygu tocynnau integredig rhwng gwahanol fathau o drafnidiaeth
  • Gweithredu coridorau CLYFAR i wella amseroedd teithio ar fysiau a rheoli teithio trawsffiniol o awdurdodau cyfagos
  • Creu ystafell reoli integredig gyda'n partneriaid trafnidiaeth a sector cyhoeddus, ac
  • Uwchraddio systemau a seilwaith telemateg 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Rydym am ofyn i'r cyhoedd am eu barn ar ein strategaeth ddrafft i adeiladu System Drafnidiaeth Ddeallus yng Nghaerdydd.  Mae gennym systemau ar waith eisoes, ond nid ydynt wedi'u hintegreiddio, ac mae llawer yn dod i ddiwedd eu hoes, gan eu bod wedi'u disodli gan dechnoleg fwy newydd.

"Rydym am leihau allyriadau niweidiol, gwella ansawdd aer a gwneud Caerdydd yn ddinas iachach i fyw a gweithio ynddi. Un o'r ffyrdd gorau o wneud hynny yw newid y ffordd rydym yn symud o amgylch y ddinas gan annog trafnidiaeth gyhoeddus, beicio a cherdded fel y ffyrdd gorau o deithio.

"Erbyn 2030, hoffem weld 76% o'r holl deithiau'n cael eu gwneud gan fathau cynaliadwy o drafnidiaeth. I wneud hynny bydd angen i ni ddyblu nifer y bobl sy'n teithio ar feic neu ar fws. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen gwell seilwaith sy'n cael ei reoli gan system drafnidiaeth integredig a deallus. Byddai'n gweithredu fel canolfan nerfol i sicrhau bod coridorau bysiau, llwybrau beicio a chroesfannau a phalmentydd gwell i gerddwyr yn cael eu cydnabod fel rhan allweddol o'r rhwydwaith, ac yn helpu i deithio ar ffyrdd Caerdydd mewn ffordd mor effeithlon â phosibl.

"Drwy ddatblygu'r app defnyddwyr trafnidiaeth, tocynnau integredig a thechnoleg GLYFAR, bydd preswylwyr a chymudwyr yn cael gwell gwybodaeth, fel y gallan nhw eu hunain wneud penderfyniadau gwybodus ar y ffordd orau o deithio ar unrhyw ddiwrnod penodol ar unrhyw adeg benodol.

"Mae ein strategaeth ddrafft yn edrych ar ddefnyddio data a thechnoleg i leihau tagfeydd, cymell teithio llesol i wneud ein rhwydwaith priffyrdd yn fwy effeithlon, a bydd yn helpu i ddelio â digwyddiadau ar y briffordd yn fwy effeithiol.

"Bydd agor yr orsaf fysiau yn 2023 yn sbardun i weithredu gwasanaethau a thechnoleg newydd - felly mae'n bwysig ein bod yn gwneud y gwaith hwn nawr."

Archwilir pedair thema allweddol yn y strategaeth ddrafft: 

  • Canolfan Reoli Newydd gyda gwell technoleg a gweithio'n agosach gyda darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus

Gallai ystafell reoli newydd gynnwys y gwasanaethau brys, cwmnïau bysiau a threnau, swyddogion gorfodi a phartneriaid eraill. Byddai'n helpu i sicrhau y gallai'r holl wasanaethau ymateb a delio â digwyddiadau ar y briffordd yn fwy effeithlon gyda'i gilydd, gan gynnwys llif traffig a thagfeydd. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys rhaglen o uwchraddio i'r Systemau Trafnidiaeth Deallus, gan gynnwys yr ystafell reoli ei hun, yn ogystal ag arwyddion, signalau traffig, gorfodi, yr app parcio a theledu cylch cyfyng.

  • Gwella cyfathrebu â phawb sy'n teithio ar rwydwaith priffyrdd Caerdydd

Mae defnyddio systemau gwybodaeth fyw yn rhan annatod o system drafnidiaeth effeithlon. Gallai app defnyddwyr trafnidiaeth sy'n trawswirio data gwybodaeth ddaearyddol a byw ar y rhwydwaith priffyrdd fod o fudd i'r cyhoedd. Gallai'r rhai sy'n teithio weld yr amser amcangyfrifedig i gyrraedd cyrchfan ddewisol mewn car, trên, bws neu feic, fel y gallant wneud dewis gwybodus ynghylch sut y maent am deithio.

  • Gweithredu coridorau CLYFAR

Byddai coridorau CLYFAR yn gweld ffyrdd prifwythiennol i mewn i'r ddinas yn cael eu hailfodelu i roi blaenoriaeth i ddulliau trafnidiaeth penodol dros fodurwyr. Byddai'r newidiadau rhwydwaith hyn yn defnyddio technoleg ifesur amseroedd ciwio a theithiau i wella effeithlonrwydd y rhwydwaith ar gyfer trafnidiaeth fwy cynaliadwy.Bydd y coridor CLYFAR cyntaf ar yr A470, a fydd yn cael ei ddefnyddio i dreialu'r dull cyn iddo gael ei gyflwyno i rannau eraill o'r ddinas.

  • System Tramwy Torfol wedi'i hintegreiddio'n llawn

Bydd y Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru i ddarparu tocynnau integredig ar gyfer pob math o drafnidiaeth gyhoeddus. Ystyrir hyn yn gam hollbwysig i symud pobl tuag at fathau mwy cynaliadwy o drafnidiaeth ac i ffwrdd o ddibynnu ar y car preifat. Bydd y cyngor hefyd yn archwilio'r defnydd o 'systemau rheoli galw' lle gellid archebu bws, fel tacsi, a'i ddefnyddio mewn ardaloedd trefol ar gyfer teithiau byr. Yn hytrach na bws yn dilyn llwybr penodol, mae'r llwybr y mae'r bws yn ei ddilyn yn seiliedig ar y galw am y gwasanaeth. Pennir y galw hwn drwy ddata a ddarperir i'r gweithredwyr bysiau drwy'r ceisiadau a wneir gan y cyhoedd.

Bydd yr app parcio CLYFAR sydd ar waith ar hyn o bryd hefyd yn cael ei integreiddio i systemau yn y dyfodol i wneud parcio yng nghanol y ddinas mor effeithlon â phosibl.