Back
Cadarnhau achos o ffliw adar yng Nghaerdydd wedi i ŵydd gael ei chanfod yn farw

04/03/22 

Mae arbenigwyr bywyd gwyllt yng Nghyngor Caerdydd wedi gofyn i'r cyhoedd osgoi cyffwrdd neu fwydo adar yn Llyn Parc y Rhath ar ôl canfod bod gŵydd wedi marw o ffliw adar. 

A picture containing sky, tree, mountain, outdoorDescription automatically generated

Cafodd corff gŵydd lwyd ei drosglwyddo i wardeiniaid y parc ar 24 Chwefror a chadarnhaodd profion yr wythnos hon y feirws H5N1. Cafodd chwe chorff aderyn arall eu canfod yn y parc yr wythnos hon ac mae'r staff yn credu mai'r un math o ffliw sydd ar fai.

Nid yw ffliw adar yn anarferol ac mae'n fwyaf cyffredin yn ystod y gaeaf pan all adar sy'n mudo gyrraedd y DU ei throsglwyddo. Mae'n ymledu o aderyn i aderyn drwy gyswllt uniongyrchol neu drwy hylifau'r corff ac ysgarthion halogedig.  Gellir ei ledaenu hefyd drwy borthiant a dŵr halogedig, neu gan gerbydau, dillad ac esgidiau brwnt.  

Mae'n effeithio'n bennaf ar adar ac mae'n anghyffredin iawn i'r feirws gael ei drosglwyddo o adar i bobl, neu famaliaid eraill. Mae'r risg i iechyd y cyhoedd yn isel iawn, ond fel mesur rhagofalus, mae'r Cyngor yn gofyn i bob aelod o'r cyhoedd beidio â bwydo'r adar â llaw yn unrhyw un o'i barciau neu barciau gwledig.

Fis diwethaf, profodd alarch a ganfuwyd yn farw yn Llyn The Knap yn y Barri yn bositif am ffliw adar ac adroddwyd am fwy na dwsin o gyrff meirw eraill.

Os byddwch yn dod o hyd i adar dŵr gwyllt  (elyrch, gwyddau neu hwyaid) wedi marw neu adar gwyllt eraill wedi marw, fel gwylanod neu adar ysglyfaethus, dylech roi gwybod i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar 03459 33 55 77. 

Dylid hefyd roi gwybod am unrhyw adar sy'n amlwg yn sâl drwy'r rhif hwn ac ni ddylid cyffwrdd â nhw na'u trin.