Back
Cyngor Caerdydd yn datgelu cynllun tai newydd helaeth gwerth £74m


4/3/22 

Mae cynllun uchelgeisiol i adeiladu mwy na 4,000 o gartrefi o ansawdd uchel ledled y ddinas a mynd i'r afael ag amrywiaeth o faterion, gan gynnwys diogelwch tân, atgyweiriadau a digartrefedd, wrth galon un o fentrau craidd diweddaraf Cyngor Caerdydd.

 

Mae Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer 2022-2023, a fydd yn cael ei ystyried gan gabinet y cyngor ar ddydd Iau 10 Mawrth, yn amlinellu cyfres o amcanion eang gan gynnwys:

 

  • Adeiladu tai cyngor newydd;
  • Buddsoddi mewn cartrefi a chyfleusterau cymunedol sy'n bodoli eisoes;
  • Atal digartrefedd;
  • Mynd i'r afael â thlodi a chefnogi pobl i gael gwaith; a
  • Symud tuag at gartrefi di-garbon

 

Y cynnig allweddol yw ymrwymiad i adeiladu mwy na 4,000 o gartrefi newydd mewn ystod eang o leoliadau, gan gynnwys 2,800 o gartrefi cyngor newydd. Dyma'r rhaglen adeiladu tai cyngor fwyaf yng Nghymru - buddsoddiad a fydd yn werth dros £800m yn y pen draw.

 

Wrth ddatgelu'r Cynllun, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:  "Nid dim ond mater o adeiladu cartrefi o safon yw hyn.  Mae mynediad at wasanaethau ac economi leol iach yn hanfodol ar gyfer cymunedau diogel a chryf. Bydd ein rhaglen yn darparu cymdogaethau wedi eu gwell a chymdogaethau newydd lle mae pobl yn falch o fyw."

 

Mae'r rhaglen adeiladu eisoes ar waith yng Nghaerdydd. Erbyn mis Ionawr eleni, roedd 802 o gartrefi newydd eisoes wedi'u creu, gan gynnwys 609 o gartrefi cyngor newydd a 193 o gartrefi ar werth. Mae 410 arall yn cael eu hadeiladu, mae 133 arall allan i dendr  am gontractwyr ac mae gan 423 ganiatâd cynllunio.

 

Mae mesurau eraill a amlinellir yn y Cynllun Busnes yn cynnwys tynnu'r cladin ar stoc y cyngor o flociau fflatiau uchel, datblygiadau arloesol newydd i wneud gwaith atgyweirio ar gartrefi cyngor (gwaith y mae'r pandemig wedi effeithio arno), a gwella ac ymestyn hybiau cymunedol.

 

Yn ogystal, mae'r cyngor yn gweithio i wella insiwleiddio ei stoc tai. Ar hyn o bryd, mae 96% o'i gartrefi yn uwch na safon Llywodraeth Cymru ac mae cynlluniau i ddefnyddio gwres ynni amgen, megis pympiau gwres o'r ddaear neu bympiau gwres ffynhonnell aer, mewn cartrefi yn y dyfodol, ynghyd â gosod cladin a phaneli solar ar bob bloc o fflatiau isel ar waith.

 

Mae'r cyngor hefyd wedi ymrwymo i fynd i'r afael â digartrefedd. Ychwanegodd y Cynghorydd Thorne: "Rydym am weld diwedd ar ddigartrefedd yn y ddinas yn gyfan gwbl, ond lle nad yw hynny'n bosibl rydym am sicrhau ei fod yn brin, yn fyr ac yn rhywbeth na fydd yn ailadrodd."

 

Bydd trigolion hŷn hefyd yn cael budd o dderbyn gwell cyngor ar dai a chynllun £100m i greu 10 adeilad Byw yn y Gymuned newydd. "Bydd hyn yn helpu i greu tua 500 o gartrefi newydd yn benodol ar gyfer tenantiaid hŷn er mwyn sicrhau bod ein poblogaeth yn heneiddio'n dda," meddai'r Cynghorydd Thorne. "Addison House yn Nhredelerch fydd y cyntaf yn 2023, ond mae cynlluniau ychwanegol ar y gweill ym Maelfa a Llaneirwg ac fel rhan o gam cyntaf datblygiad Trem y Môr."

 

Daw'r cyllid i weithredu'r holl fesurau a gynhwysir yn y Cynllun Busnes o nifer o ffynonellau, gan gynnwys Lwfans Atgyweiriadau Mawr Llywodraeth Cymru.

 

 

Mae'r adroddiad llawn ar gael i'w ddarllen yma https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=6663&LLL=1