04/03/22
Yn ôl adroddiad diweddaraf yr awdurdod ar y polisi tâl, mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau'n cael ei gau yng Nghyngor Caerdydd.
Am y tro cyntaf, roedd y gyfradd fesul awr gyfartalog a delir i weithwyr benywaidd yn uwch na'r gyfradd a delir i ddynion (£15.83-£15.33). Roedd hyn yn welliant ar y flwyddyn flaenorol (£13.68-£14.04), ond mae'r gyfradd ganolog (man canolog yr holl fandiau cyflog a delir i staff) yn dal yn uwch i ddynion (£14.11-£13.21).
Mae'r adroddiad - a ystyrir yn allweddol i ymrwymiad y Cyngor i gyflog cyfartal - yn awgrymu bod y gwelliant yn dangos:
Croesawodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad yr adroddiad. "Rydym yn credu'n gryf y dylai ein holl weithwyr gael eu gwobrwyo'n deg a heb wahaniaethu am y gwaith y maent yn ei wneud," dywedodd.
"Felly, rwy'n falch iawn o weld bod y bwlch cyflog rhwng menywod a dynion yn cael ei gau ond mae'n bwysig bod nifer y menywod sy'n cael swyddi â chyflogau gwell yn parhau i godi.
"Rwyf hefyd wedi fy nghalonogi o weld ein bod wedi ailddatgan ein hymrwymiad i dalu i bawb y Cyflog Byw 'Gwirioneddol' o leiaf, sydd ar hyn o bryd yn £9.90 yr awr yng Nghymru, gan adeiladu ar ein gwaith i wneud Caerdydd yn 'Ddinas Cyflog Byw' swyddogol."
"Bydd yr adroddiad manwl, sydd hefyd yn cynnwys amlinelliad o'r strwythur cyflog, y tâl gweithredol, y polisi pensiynau a'r dull o ymdrin â thaliadau dileu swyddi, yn cael ei drafod gan Gabinet y Cyngor mewn cyfarfod ddydd Iau 10 Mawrth.