11/03/22
Mae Cyngor Caerdydd yn bwriadu creu Parth Ieuenctid cyntaf Cymru yn Nhrelái fel rhan o gynlluniau newydd cyffrous ar gyfer gwasanaethau ieuenctid yn y ddinas.
Mae Parthau Ieuenctid - canolfannau pwrpasol o'r radd flaenaf sy'n rhoi cyfle fforddiadwy i bobl ifanc fanteisio ar amrywiaeth eang o weithgareddau chwaraeon, diwylliannol a hamdden - eisoes yn boblogaidd mewn 14 lleoliad ledled Lloegr.
Fe'u sefydlir i ddechrau trwy'r elusen OnSide, gan ddefnyddio cymysgedd o roddion ariannol a grantiau'r llywodraeth ac awdurdodau lleol. Pan fyddant ar waith, caiff y cyfrifoldeb amdanynt ei drosglwyddo i elusennau lleol newydd eu creu.
Mae ffioedd mynediad ar gyfer parth ieuenctid arferol yn costio tua 50 ceiniog y dydd a gall canolfan nodweddiadol roi cyfle i bobl ifanc fwynhau amrywiaeth eang o gyfleusterau gan gynnwys:
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Mae cysyniad y Parth Ieuenctid yn ymddangos fel cyfle cyffrous yr ydym yn awyddus i'w archwilio'n fanwl. Mae gennym eisoes wasanaethau ieuenctid gwych yng Nghaerdydd, a enillodd ganmoliaeth mewn adroddiad diweddar gan Estyn, ond yr ydym bob amser yn chwilio am gyfleoedd i wella ac ehangu'r ddarpariaeth. Mae hwn yn gynnig diddorol iawn sy'n cyd-fynd â'n gwaith Dinas sy'n Dda i Blant UNICEF."
Ychwanegodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau: "Mae'r Parthau Ieuenctid rydym wedi edrych arnynt wedi bod yn llwyddiant mawr, gan gynnig cyfleusterau a gweithgareddau gwych i bobl ifanc. Maent yn annog perchnogaeth leol ac ymdeimlad o falchder ac maent wedi cael eu hystyried yn rym cadarnhaol er lles cymunedau. Rwy'n edrych ymlaen at ddysgu mwy am yr effaith gadarnhaol y maent yn ei chael ar gymunedau a sut y gallwn wneud iddo weithio i Gaerdydd."
Mae ymchwil wedi dangos bod Parthau Ieuenctid yn dod ag amrywiaeth o fuddion i'r gymuned ehangach, gan gynnwys:
I dalu am y Parth Ieuenctid, mae'r Cyngor yn bwriadu cael mynediad i Gronfa Codi'r Gwastad £4.8bn Llywodraeth y DU a'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, a grëwyd i gymryd lle'r £375m yr oedd Cymru'n ei dderbyn bob blwyddyn gan yr UE. Os sicrheir arian, byddai costau adeiladu yn cael eu rhannu'n gyfartal rhwng yr elusen a'r cyngor gyda'r cyngor yn darparu safle i ddod â'r prosiect i'r cam cymeradwyo cynllunio.
Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn trafod cychwyn achos busnes manwl ar gyfer y Parth Ieuenctid a lle y gellid ei leoli yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau, 10 Mawrth.