Back
Wyth o ysgolion Caerdydd yn ymgiprys dros goron drafod

1/3/2022
 
Mae disgyblion o ysgolion uwchradd ledled Caerdydd yn cael eu hannog i efelychu doniau dadlau pobl fel Barack Obama a dod yn anerchwyr y dyfodol.

Am y tro cyntaf yng Nghymru, mae Cyngor Caerdydd a FinTech Cymru yn lansio rhaglen DebateMate Schools, sydd â'r nod o ddatblygu sgiliau annerch disgyblion ac ymwybyddiaeth o'r sector Technoleg Ariannol, mewn cyfres o gystadlaethau trafod fydd yn arwain at rownd derfynol fawreddog yn ddiweddarach eleni.

Yn rhan o'r rhaglen, bydd pob un o'r ysgolion - Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Uwchradd Cathays, Ysgol Uwchradd Willows, Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant, Campws Cymunedol Uwchradd y Dwyrain, Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf ac Ysgol Uwchradd Fitzalan - yn cychwyn ar raglen 12 wythnos, fydd yn cynnwys gweithdy trafod neu ddadlau awr o hyd bob wythnos.

Bydd yr ysgolion i gyd yn cael mentoriaid DebateMate sy'n fyfyrwyr o brifysgolion ledled Caerdydd ac yn wythnosau 8 a 12 bydd cystadlaethau trafod wedi'u trefnu. Bydd y pynciau'n gysylltiedig â FinTech Cymru, sefydliad aelodaeth nid er elw sy'n cydgysylltu'r ecosystem sy'n gosod Cymru ar lwyfan Technoleg Ariannol fyd-eang ac un o noddwyr y rhaglen, ynghyd ag Addewid Caerdydd Cyngor Caerdydd, a Cyfoethogi Caerdydd.

Bydd cyfanswm o 16 o fentoriaid yn rhan o'r cynllun, a hyd at 290 o ddisgyblion yn cymryd rhan. Byddan nhw i gyd yn gobeithio efelychu camp disgyblion Ysgol Uwchradd Willows, Marzooq Subhani a Crystal Tran, a ddewiswyd i gynrychioli'r DU mewn cystadleuaeth ddadlau yn Dubai yn gynharach y mis hwn ar ôl ennill cystadleuaeth genedlaethol.

Dywedodd Sarah Williams-Gardener, Prif Swyddog Gweithredol FinTech Cymru: "Mae ysbrydoli ein pobl ifanc ar gam pwysig yn eu haddysg, gyda modelau rôl amrywiol a mewnwelediad i gyfleoedd gyrfa Technoleg Ariannol mewn sectorau cyffrous newydd, yn genhadaeth bersonol gen i.

Mae'r cyfleoedd gwaith mewn Technoleg Ariannol yn esblygu'n barhaus felly mae'n hanfodol ein bod yn gweld cydweithio rhwng y byd gwaith ac addysg. Gan weithio gydag Addewid Caerdydd a Cyfoethogi Caerdydd yng Nghaerdydd, mae Fintech Cymru yn falch o allu lansio'r gystadleuaeth ddadlau hon a fydd yn ennyn diddordeb disgyblion, gan eu haddysgu ar bynciau cyfredol yn ymwneud ag arian a chyllid, ac yn ymgysylltu â darparwyr gwasanaethau ariannol blaenllaw yng Nghymru sydd hefyd yn darparu sgiliau busnes cyffredinol, fel negodi, cyflwyno ac ymchwilio.

Mae'r farchnad swyddi Technoleg Ariannol yn fywiog yma yng Nghaerdydd ac rwyf am i bob person ifanc weld y cyfleoedd y mae hyn yn eu cynnig ar gyfer gyrfa a bywyd llewyrchus yng Nghymru."

Mae'r fenter newydd yn adeiladu ar ddigwyddiad a gynhaliwyd y llynedd lle cymerodd disgyblion o ysgolion uwchradd Cantonian a Fitzalan ran mewn dadl fyw ym mis Mehefin ar y pwnc: Cryptoarian Da ynteu Ddrwg?, digwyddiad a gyflwynwyd i ysgolion drwy FinTech Cymru.

Bydd Rhaglen DebateMate Schools yn cael ei lansio'n swyddogol mewn digwyddiad yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, fore Gwener nesaf (4 Mawrth) gyda dadl yn cynnwys rhai o'r disgyblion fydd yn cystadlu. 

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau'r Cyngor, "Mae Addewid Caerdydd yn pontio rhwng diwydiant ac ysgolion i helpu i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ymhlith pobl ifanc i sicrhau profiad cadarnhaol yn y byd gwaith ar ôl iddynt adael yr ysgol. Bydd y rhaglen hon yn caniatáu i ddisgyblion ddysgu am elfennau o'r diwydiant Technoleg Ariannol ac yn ysbrydoli disgyblion i ystyried eu gyrfaoedd yn y dyfodol."

Dywedodd Ken Poole, Pennaeth Datblygu Economaidd Cyngor Caerdydd: "Mae'r Rhaglen DebateMate Schools yn ffordd wych o ddatblygu sgiliau trafod ein disgyblion - sgiliau sy'n berthnasol i'r byd gwaith ac i fywyd yn gyffredinol - ac rydym hefyd yn cysylltu'r dadleuon â sector twf yng Nghaerdydd, diwydiant sydd wedi'i gynrychioli'n dda iawn yn y ddinas - Technoleg Ariannol. Bydd y rhaglen, a noddir yn rhannol gan Dîm Datblygu Economaidd Cyngor Caerdydd ac Addewid Caerdydd, yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu sgiliau a gwybodaeth y sector Technoleg Ariannol yn ein hysgolion a'n pobl ifanc".

Bydd rhaglen DebateMate Schools yn ddigwyddiad cyffrous, llawn hwyl ac egni, fydd yn sicrhau bod y myfyrwyr yn rhoi o'u gorau ac yn cael eu cyffroi gan y rhaglen 12 wythnos."

 

Pennawd:  Disgyblion o Ysgolion Uwchradd Cantonian a Fitzalan yn nigwyddiad DebateMate y llynedd gyda Ken Poole, Cyfoethogi Caerdydd a Sarah Williams Gardener, FinTech Cymru