Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: gwaith yn dechrau ar osod cladin ar Fflatiau Lydstep; contractwr wedi'i ddewis i ddylunio campws addysg arloesol newydd yn y Tyllgoed; cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; a nifer achosion a phrofion Caerdydd.
Gwaith yn dechrau ar osod cladin ar Fflatiau Lydstep
Mae cynllun i osod cladin ar dri bloc o fflatiau uchel yn y ddinas yn mynd rhagddo.
Mae gwaith wedi dechrau ar y tri bloc yn Fflatiau Lydstep yn Ystum Taf, ar ôl tynnu'r cladin yn sgil trychineb Grenfell.
Bydd y prosiect, sy'n cael ei gyflawni gan ISG Ltd, yn gweld cladin safon A1 newydd yn cael ei osod ar y tri adeilad yn ogystal â gosod ffenestri newydd, uwchraddio balconïau gan gynnwys gosod balwstradau, arwyneb newydd a drysau balconi newydd ar gyfer y 126 o aelwydydd sy'n byw yno.
Bydd pob eiddo hefyd yn elwa ar system awyru echdynnol newydd ar gyfer y gegin a'r ystafell ymolchi a hefyd ffliw newydd i'r boeler.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Rwyf mor falch, fel y mae holl drigolion Lydstep, bod gwaith wedi dechrau i newid y cladin a gafodd ei dynnu am nad oedd yn bodloni'r safonau diogelwch tân presennol. Mae'r cladin yr ydym yn ei ddefnyddio ar y tri bloc o'r lefel uchaf o ran diogelwch tân.
"Mae cynnydd sylweddol mewn costau oherwydd Brexit a phwysau chwyddiant yn y diwydiant adeiladu wedi effeithio ar gynnydd y gwaith hwn, ynghyd ag effaith y fframwaith profi a rheoleiddio helaeth ar gyfer datrysiadau cladin.
"Drwy gydol y cyfnod hwn rydym wedi bod mor ddiolchgar i'r trigolion am eu hamynedd wrth i ni weithio ar ddod o hyd i'r ateb cywir ar gyfer y tri bloc ac mae'n wych gweld contractwyr ar y safle a'r gwaith yn mynd rhagddo."
Disgwylir i'r cynllun gymryd tua 70 wythnos i gwblhau'r tri bloc. Mae'r Cyngor hefyd yn bwriadu disodli cladin yn Loudoun House a Nelson House yn Butetown a bydd cynigion ar gyfer y cynlluniau hyn yn cael eu hystyried yn ddiweddarach.
Contractwr wedi'i ddewis i ddylunio campws addysg arloesol newydd yn y Tyllgoed
Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi bod ISG wedi'i ddewis fel y cynigydd a ffefrir ar gyfer dylunio ac adeiladu campws addysg ar y cyd newydd, i'w leoli yn ardal y Tyllgoed yn y ddinas.
Y prosiect fydd y mwyaf, o ran maint a buddsoddiad, o ddatblygiadau addysg Caerdydd a gyflwynir o dan Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Cyngor Caerdydd a Band B Llywodraeth Cymru. Bydd tair ysgol newydd wedi'u lleoli ar un safle, gan ddod yn gartref i Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Glan yr Afon ac Ysgol Uwchradd Woodlands.
Bydd ISG yn ymgymryd â'r broses ddylunio ac adeiladu fanwl ar gyfer y cynllun, gan gynnwys y llety dros dro sy'n gysylltiedig â'r gwaith. Bydd y datblygiad syfrdanol i Gaerdydd yn gosod y safon ar gyfer prosiectau ysgolion yn y dyfodol. Dyma gampws ysgol cyntaf Caerdydd i fod yn Carbon Sero-net a fydd ar waith. Mae hyn yn golygu y bydd y tair ysgol yn adeiladau ynni effeithlon iawn sy'n cael eu pweru o ffynonellau ynni adnewyddadwy, a fydd yn galluogi Caerdydd i gyflawni ei Strategaeth Un Blaned sy'n amlinellu uchelgais y ddinas i liniaru newid yn yr hinsawdd.
Mae'r cynigion yn cynnwys:
Bydd y campws hefyd yn cynnig cyfleusterau cynhwysfawr a fydd ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio y tu allan i oriau ysgol.
Dwedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Campws y Tyllgoed fydd campws addysgol cyntaf Caerdydd o'i fath ac mae dyfarnu'r contract dylunio yn garreg filltir gyffrous ar gyfer dyfodol Ysgolion Treganna, Woodland a Riverbank, sydd i gyd yn rhan o'r cynllun unigryw ac uchelgeisiol hwn.
"Bydd y campws yn un o'r sefydliadau addysgol mwyaf datblygedig yn y Deyrnas Unedig, gan ddwyn ynghyd â thair ysgol wahanol iawn gyda'u hunaniaeth eu hunain, ar un safle gan ddarparu cyfuniad penodol o ddysgu a fydd yn caniatáu i bob ysgol rannu cyfleusterau, arbenigedd a chyfleoedd addysgu a darparu profiad eithriadol i fyfyrwyr, staff a'r gymuned."
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28596.html
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 15 Chwefror 2022
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 1,073,718 (Dos 1: 401,143 Dos 2: 374,822 DOS 3: 8,072 Dosau atgyfnertha: 289,579)
Data Cohort - Diweddarwyd ddiwethaf 14 Chwefror 2022
*Y rhai sydd wedi derbyn dau ddos o frechlyn COVID-19, ac eithrio'r rhai sy'n ddifrifol imiwn ataliedig yr argymhellir eu bod yn cael tri dos.
**Data gymerwyd o ffynhonnell amgen.
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (18 Chwefror - 24 Chwefror 2022)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
28 Chwefror 2022
Achosion: 730
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 199.0 (Cymru: 158.8 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 2,768
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 754.4
Cyfran bositif: 26.4 (Cymru: 21.5% cyfran bositif)