1/3/2022
Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi bod ISG wedi'i ddewis fel y cynigydd a ffefrir ar gyfer dylunio ac adeiladu campws addysg ar y cyd newydd, i'w leoli yn ardal y Tyllgoed yn y ddinas.
Y prosiect fydd y mwyaf, o ran maint a buddsoddiad, o ddatblygiadau addysg Caerdydd a gyflwynir o dan Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Cyngor Caerdydd a Band B Llywodraeth Cymru. Bydd tair ysgol newydd wedi'u lleoli ar un safle, gan ddod yn gartref i Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Glan yr Afon ac Ysgol Uwchradd Woodlands.
Bydd ISG yn ymgymryd â'r broses ddylunio ac adeiladu fanwl ar gyfer y cynllun, gan gynnwys y llety dros dro sy'n gysylltiedig â'r gwaith. Bydd y datblygiad syfrdanol i Gaerdydd yn gosod y safon ar gyfer prosiectau ysgolion yn y dyfodol. Dyma gampws ysgol cyntaf Caerdydd i fod yn Carbon Sero-net a fydd ar waith. Mae hyn yn golygu y bydd y tair ysgol yn adeiladau ynni effeithlon iawn sy'n cael eu pweru o ffynonellau ynni adnewyddadwy, a fydd yn galluogi Caerdydd igyflawni ei Strategaeth Un Blaned sy'n amlinellu uchelgais y ddinas iliniaru newid yn yr hinsawdd.
Mae'r cynigion yn cynnwys:
Bydd y campws hefyd yn cynnig cyfleusterau cynhwysfawr a fydd ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio y tu allan i oriau ysgol.
Dwedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Campws y Tyllgoed fydd campws addysgol cyntaf Caerdydd o'i fath ac mae dyfarnu'r contract dylunio yn garreg filltir gyffrous ar gyfer dyfodol Ysgolion Treganna, Woodland a Riverbank, sydd i gyd yn rhan o'r cynllun unigryw ac uchelgeisiol hwn.
"Bydd y campws yn un o'r sefydliadau addysgol mwyaf datblygedig yn y Deyrnas Unedig, gan ddwyn ynghyd â thair ysgol wahanol iawn gyda'u hunaniaeth eu hunain, ar un safle gan ddarparu cyfuniad penodol o ddysgu a fydd yn caniatáu i bob ysgol rannu cyfleusterau, arbenigedd a chyfleoedd addysgu a darparu profiad eithriadol i fyfyrwyr, staff a'r gymuned.
"Hon yw ein hysgol Carbon Sero-net gyntaf, ac mae'r prosiect hwn yn cefnogi ein hymateb i'r argyfwng newid yn yr hinsawdd ac yn cyd-fynd â gweledigaeth Un Blaned Caerdydd i fod yn Garbon Niwtral erbyn 2030. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag ISG ar ddyluniad y cynllun cyffrous hwn. Bydd nid yn unig yn rhoi mynediad i ddisgyblion at gyfleusterau o'r radd flaenaf ac amgylchedd dysgu o'r ansawdd uchaf ond sydd hefyd yn fuddsoddiad sylweddol yn ardal y Tyllgoed, gan sicrhau y bydd y gymuned leol hefyd yn elwa ar amwynderau rhagorol a modern."
Ychwanegodd Richard Skone, cyfarwyddwr rhanbarthol busnes Adeiladu ISG yng Nghymru: "Mae graddfa ac uchelgais y prosiect arloesol hwn yn drawsnewidiol o safbwynt cyd-leoli addysgol a'i ymrwymiad di-garbon net gweithredol a thargedau ar gyfer lleihau carbon sydd ynghlwm wrth ddatblygiadau. Pan fyddwn hefyd yn canolbwyntio ar yrru etifeddiaeth gwerth cymdeithasol o'r buddsoddiad cymunedol sylweddol hwn, mae campws y Tyllgoed yn ddi-os yn un o'r prosiectau enghreifftiol mwyaf eiddgar a ragwelir ar gyfer datblygiad deallus a moesegol yng Nghymru heddiw."
Ym mis Rhagfyr 2018, cytunodd Cabinet Cyngor Caerdydd ar argymhelliad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion i adeiladu campws addysg yn y Tyllgoed a fyddai'n sicrhau adeiladau addysg newydd i dair ysgol yng Nghaerdydd.
Yn rhan o Fand B Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, nodwyd bod angen rhagor o leoedd mewn ysgolion uwchradd a lleoedd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ar gyfer plant ag anghenion cymhleth,
Ychwanegodd y Cynghorydd Merry: "Yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Gorffennaf 2021, mae adborth gan ddisgyblion, staff, rhieni a'r gymuned leol wedi helpu i lywio'r cynlluniau a chyflawni ein hymrwymiad i roi llais i bobl ifanc ac yn tynnu sylw at strategaeth Dinas sy'n Dda i Blant Caerdydd, lle maelleisiau a hawliau plant yn rhan annatod o'r broses o wneud penderfyniadau.
"Wrth i'r cynlluniau dylunio fynd rhagddynt, rhoddir ystyriaeth i'r ystod amrywiol o anghenion dysgwyr fel eu bod yn teimlo'n ddiogel gydag ymdeimlad clir o hunaniaeth, ac y gallant gydnabod pwysigrwydd perthyn nid yn unig i'w hysgol unigol ond hefyd, i'r campws ehangach.
"Bydd y safbwyntiau a gasglwyd yn helpu'r ysgolion i gynllunio eu cwricwlwm ac adeiladau ysgolion i gefnogi disgyblion i ddod yn uchelgeisiol, yn alluog ac yn barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau tra'n hyrwyddo unigolion iach a hyderus, yn barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas."
Yn amodol ar gynllunio a chaffael, disgwylir i'r gwaith ar y campws newydd ddechrau yn 2023.
I ddysgu mwy am Strategaeth Un Blaned Cyngor Caerdydd ewch iDogfen weledigaeth OPC.pdf (oneplanetcardiff.co.uk)