Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 25 Chwefror 2022

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: Gwobr Aur i Gyngor Caerdydd am waith cynhwysiant LHDTC+; Datgelu barn y cyhoedd am gynlluniau Caerdydd i roi hwb i gyfleoedd addysg Gymraeg; cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; a nifer achosion a phrofion Caerdydd.

 

Gwobr Aur i Gyngor Caerdydd am waith cynhwysiant LHDTC+

Y Mis Hanes LHDTC+ hwn, mae Cyngor Caerdydd wedi cael ei gydnabod gyda'r wobr uchaf o ran ei ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle.

Mae'r Cyngor wedi cyflawni Statws Aur Stonewall, yr elusen sy'n cynrychioli hawliau lesbiaidd, hoyw, deurywiol, cwiar a thrawsryweddol (LHDTC+). Daw'r wobr fel rhan o ymgyrch Dewch â'ch Hun i'r Gweithle Stonewall sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd amgylcheddau gwaith cynhwysol.

Mae'r wobr wedi'i rhoi i gydnabod y gwaith rhagorol i ymgorffori cydraddoldeb, gwerthfawrogi amrywiaeth a dangos cynwysoldeb o brosesau ymgeisio i gyflogaeth o fewn y sefydliad.

Mae mynd i'r afael â rhagfarn anymwybodol drwy ddefnyddio CVau dienw a heb gyfeiriad wrth recriwtio, darparu amrywiaeth o hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywiaeth i weithwyr a bod yn aelod sefydledig o rwydwaith Cynghorau Balch yn Ne Cymru drwy'r Rhwydwaith Gweithwyr LHDTC+, i gyd wedi cael eu harddangos gan y Cyngor ac wedi'u meincnodi yn erbyn yr arfer gorau diweddaraf ar gyfer cynhwysiant LHDTC+.

Cododd Cyngor Caerdydd 74 o leoedd yn sgoriau Stonewall eleni, gan ddringo i 113fed yn gyffredinol yn y mynegai cyffredinol.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28577.html

 

Datgelu barn y cyhoedd am gynlluniau Caerdydd i roi hwb i gyfleoedd addysg Gymraeg

Mae dros 3000 o'r cyhoedd wedi cael dweud eu dweud ar strategaeth 10 mlynedd Caerdydd i hybu nifer y plant a'r bobl ifanc sy'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Roedd y rhai a ymatebodd i raddau helaeth o blaid egwyddorion a gweledigaeth Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) 2022-2032 Caerdydd a gynlluniwyd i helpu Llywodraeth Cymru i wireddu ei tharged o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050. Bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried adroddiad sy'n trafod yr ymatebion pan fydd yn cyfarfod nesaf Ddydd Iau 18 Chwefror 2022.

Gwneir argymhellion i gyflwyno'r strategaeth i'w chymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Merry: "Rwy'n falch bod cymaint o bobl wedi ymgysylltu â'r ymgynghoriad ac mae'n galonogol clywed bod y rhan fwyaf o ymatebion a gafwyd yn cefnogi'r egwyddorion a'r weledigaeth a amlinellir yn y strategaeth.  Mae llawer o safbwyntiau'n cydnabod Cynllun cadarnhaol ac uchelgeisiol Caerdydd i ddatblygu Caerdydd ddwyieithog lle mae'r Gymraeg yn iaith fyw a bywiog.

"Drwy gynyddu'r ddarpariaeth addysg Gymraeg yn gynaliadwy tuag at y targedau a nodir yn Gymraeg 2050, mae'n adlewyrchu ein huchelgais bod pob person ifanc yn cael cyfle i glywed, siarad a mwynhau'r Gymraeg. Y gobaith yw y bydd hyn yn caniatáu i bobl ifanc gofleidio'r iaith yn llawn fel rhan o'n gwead cenedlaethol a chydnabod ei lle yn nghalon Caerdydd, prifddinas Cymru."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28572.html

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 15 Chwefror 2022

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  1,073,718 (Dos 1: 401,143 Dos 2:  374,822 DOS 3: 8,072 Dosau atgyfnertha: 289,579)

Data Cohort - Diweddarwyd ddiwethaf 14 Chwefror 2022

 

  • 80 a throsodd:22,207 / 95% (Dos 1) 22,050 / 94.3% (Dos 2 a 3*) 20,490 / 92.9% (Dosau atgyfnertha)
  • 75-79: 16,775 / 96.6% (Dos 1) 16,661 / 95.9% (Dos 2 a 3*) 15,449 / 92.7% (Dosau atgyfnertha)
  • 70-74: 21,152 / 95.9% (Dos 1) 21,022 / 95.3% (Dos 2 a 3*) 19,582 / 93.2% (Dosau atgyfnertha)
  • 65-69: 22,732 / 94.2% (Dos 1) 22,499 / 93.2% (Dos 2 a 3*) 20,739 / 92.2% (Dosau atgyfnertha)
  • 60-64: 27,023 / 92.2% (Dos 1) 26,666 / 91% (Dos 2 a 3*) 24,340 / 91.3% (Dosau atgyfnertha)
  • 55-59: 29,701 / 90.2% (Dos 1) 29,237 / 88.8% (Dos 2 a 3*) 26,385 / 90.2% (Dosau atgyfnertha)
  • 50-54: 29,055 / 87.9% (Dos 1) 28,451 / 86.1% (Dos 2 a 3*) 25,104 / 88.2% (Dosau atgyfnertha)
  • 40-49: 56,590 / 81.9% (Dos 1) 54,826 / 79.3% (Dos 2 a 3*) 45,656 / 83.3% (Dosau atgyfnertha)
  • 30-39: 63,313 / 77.1% (Dos 1) 59,732 / 72.8% (Dos 2 a 3*) 43,328 / 72.5% (Dosau atgyfnertha)
  • 18-29: 83,564 / 79.3% (Dos 1) 75,391 / 71.6% (Dos 2 a 3*) 46,872 / 62.2% (Dosau atgyfnertha)
  • 16-17: 4,033 / 71.1% (Dos 1) 2,987 / 52.7% (Dos 2 a 3*) 55 / 1.8% (Dosau atgyfnertha)
  • 13-15: 13,912 / 57.1% (Dos 1) 8,380 / 34.4% (Dos 2 a 3*)

 

  • Yn ddifrifol imiwno-ataliedig:6,947 / 98.1% (Dos 1) 6,238 / 88.1% (Dos 2 a 3*) 18 / 0.3% (Dosau atgyfnertha)
  • Preswylwyr cartrefi gofal:1,987 / 98.6% (Dos 1) 1,971 / 97.8% (Dos 2 a 3*) 1,822 / 92.4% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr cartrefi gofal:3,698 / 99% (Dos 1) 3,644 / 97.6% (Dos 2 a 3*) 2,905 / 79.7% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr Gofal Iechyd:27,198 / 98.2% (Dos 1) 26,934 / 97.2% (Dos 2 a 3*) 24,269 / 90.1% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr Gofal Cymdeithasol**:8,162 / 82.2% (Dosau atgyfnertha)
  • Yn glinigol agored i niwed:10,780 / 94.7% (Dos 1) 10,621 / 93.3% (Dos 2 a 3*) 6,105 / 57.5% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol:46,322 / 90.8% (Dos 1) 45,009 / 88.2% (Dos 2 a 3*) 38,261 / 85% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol(12-15):657 / 63.4% (Dos 1) 470 / 45.4% (Dos 2 a 3*) 44 / 9.4% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol(5-11):481 / 37.5% (Dos 1)

*Y rhai sydd wedi derbyn dau ddos o frechlyn COVID-19, ac eithrio'r rhai sy'n ddifrifol imiwn ataliedig yr argymhellir eu bod yn cael tri dos.

**­Data gymerwyd o ffynhonnell amgen.

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (14 Chwefror - 20 Chwefror 2022)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

24 Chwefror 2022

 

Achosion: 953

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 259.7 (Cymru: 202.3 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 3,360

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 915.8

Cyfran bositif: 28.4 (Cymru: 23.5% cyfran bositif)