Back
Gwobr Aur i Gyngor Caerdydd am waith cynhwysiant LHDTC+

23.2.22

Y Mis Hanes LHDTC+ hwn, mae Cyngor Caerdydd wedi cael ei gydnabod gyda'r wobr uchaf o ran eiymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle.

Mae'r Cyngor wedi cyflawni Statws Aur Stonewall, yr elusen sy'ncynrychioli hawliau lesbiaidd, hoyw, deurywiol, cwiar a thrawsryweddol (LHDTC+).Daw'r wobr fel rhan o ymgyrch Dewch â'ch Hun i'r Gweithle Stonewall sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd amgylcheddau gwaith cynhwysol.

Mae'r wobr wedi'i rhoi i gydnabod y gwaith rhagorol i ymgorffori cydraddoldeb, gwerthfawrogi amrywiaeth a dangos cynwysoldeb o brosesau ymgeisio i gyflogaeth o fewn y sefydliad.

Mae mynd i'r afael â rhagfarn anymwybodol drwy ddefnyddio CVau dienw a heb gyfeiriad wrth recriwtio, darparuamrywiaeth o hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywiaeth i weithwyr a bod yn aelod sefydledig o rwydwaith Cynghorau Balch yn Ne Cymru drwy'r Rhwydwaith Gweithwyr LHDTC+, i gyd wedi cael eu harddangos gan y Cyngor ac wedi'umeincnodi yn erbyn yr arfer gorau diweddaraf ar gyfer cynhwysiant LHDTC+.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver (fe/ef), yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Rwy'n falch iawn bod y Cyngor wedi ennill Gwobr Cyflogwr Aur Stonewall.

"Mae Caerdydd yn ddinas llawn amrywiaeth. Rydym yn croesawu ac yn dathlu'r amrywiaeth honno ac rydym wedi ymrwymo i adeiladu cymdeithas deg lle mae ein holl ddinasyddion yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau sy'n diwallu eu hanghenion.

"Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynhwysiant ar gyfer ein defnyddwyr gwasanaeth ac fel amgylchedd croesawgar ar gyfer staff LHDTC+ presennol ac yn y dyfodol.

"Rydym bob amser yn gweithio i wella'n barhaus ein cynhwysiant a'n dathliad o bobl a hunaniaeth LHDTC+."

Dywedodd Liz Ward, Cyfarwyddwr Rhaglenni Stonewall (hi), "Rydym yn treulio cymaint o'n hamser yn y gwaith, a gall ein gyrfa fod yn rhan enfawr o'r ffordd rydym yn diffinio ein hunain. Dylai pob un person lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws a chwiar allu bod nhw eu hunain yn y gweithle. O ddeall sut y bydd polisïau Adnoddau Dynol, megis absenoldeb rhiant, yn effeithio arnynt, i gael sicrwydd y gallant siarad yn agored am eu bywydau a'u partneriaid ger y peiriant coffi, gall effaith gweithleoedd cynhwysol newid bywydau.

"Mae'n wych bod Cyngor Caerdydd wedi ennill aur am eu hymdrechion a'u hymrwymiad i greu amgylchedd gwaith cynhwysol, ac edrychwn ymlaen at weld a chefnogi gweddill eu taith gynhwysiant."

Mae rhestr 100 Cyflogwr Gorau Stonewall eleni i'w gweld arwefan Stonewall, yn ogystal â gwybodaeth bellach am bwysigrwydd cynhwysiant LHDTC+.