Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 22 Chwefror 2022

22/02/22


Y diweddaraf gan Gyngor Caerdydd, yn cynnwys: gwaith glanhau yn dilyn Storm Eunice; cyfanswm brechiadau ar gyfer Caerdydd a Bro Morgannwg a niferoedd achosion a phrofion Caerdydd.

 

Clirio arôl Storm Eunice

 

Mae timau ymateb brys y tu allan i oriau Cyngor Caerdydd wedi bod yn gweithio gydol y penwythnos i asesu, glanhau a chlirio'r dinistr a achoswyd gan Storm Eunice Ddydd Gwener.

Mae tair storm dan yr enwau - Dudley, Eunice a Franklin - wedi taro Prifddinas Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gydag adrodd am ddifrod helaeth i eiddo preifat, i eiddo'r cyngor, i adeiladau a choed wedi cwympo.

Ers i Storm Eunice daro glannau Cymru Ddydd Gwener, mae'r cyngor wedi derbyn 120 o alwadau gan y cyhoedd am 50 o goed wedi cwympo neu ganghennau crog peryglus sydd wedi effeithio naill ai ar ffyrdd, parciau neu dir tai Caerdydd.

Cafodd yr holl alwadau a dderbyniwyd eu hasesu a'u blaenoriaethu ar sail risg bosibl i fywyd ac mae 109 o'r galwadau hyn bellach wedi'u cwblhau, gydag 11 digwyddiad yn weddill ar hyn o bryd.

Darllenwch fwy yma:Clirio ar ôl Storm Eunice (newyddioncaerdydd.co.uk)


Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 22 Chwefror 2022

 

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:1,073,718(Dos 1: 401,143 Dos 2:  374,822 DOS 3: 8,072 Dosau atgyfnertha: 289,579)

Data Cohort - Diweddarwyd ddiwethaf 14 Chwefror 2022

 

  • 80 a throsodd:22,207 / 95% (Dos 1) 22,050 / 94.3% (Dos 2 a 3*) 20,490 / 92.9% (Dosau atgyfnertha)
  • 75-79: 16,775 / 96.6% (Dos 1) 16,661 / 95.9% (Dos 2 a 3*) 15,449 / 92.7% (Dosau atgyfnertha)
  • 70-74: 21,152 / 95.9% (Dos 1) 21,022 / 95.3% (Dos 2 a 3*) 19,582 / 93.2% (Dosau atgyfnertha)
  • 65-69: 22,732 / 94.2% (Dos 1) 22,499 / 93.2% (Dos 2 a 3*) 20,739 / 92.2% (Dosau atgyfnertha)
  • 60-64: 27,023 / 92.2% (Dos 1) 26,666 / 91% (Dos 2 a 3*) 24,340 / 91.3% (Dosau atgyfnertha)
  • 55-59: 29,701 / 90.2% (Dos 1) 29,237 / 88.8% (Dos 2 a 3*) 26,385 / 90.2% (Dosau atgyfnertha)
  • 50-54: 29,055 / 87.9% (Dos 1) 28,451 / 86.1% (Dos 2 a 3*) 25,104 / 88.2% (Dosau atgyfnertha)
  • 40-49: 56,590 / 81.9% (Dos 1) 54,826 / 79.3% (Dos 2 a 3*) 45,656 / 83.3% (Dosau atgyfnertha)
  • 30-39: 63,313 / 77.1% (Dos 1) 59,732 / 72.8% (Dos 2 a 3*) 43,328 / 72.5% (Dosau atgyfnertha)
  • 18-29: 83,564 / 79.3% (Dos 1) 75,391 / 71.6% (Dos 2 a 3*) 46,872 / 62.2% (Dosau atgyfnertha)
  • 16-17: 4,033 / 71.1% (Dos 1) 2,987 / 52.7% (Dos 2 a 3*) 55 / 1.8% (Dosau atgyfnertha)
  • 13-15: 13,912 / 57.1% (Dos 1) 8,380 / 34.4% (Dos 2 a 3*)

 

  • Yn ddifrifol imiwno-ataliedig:6,947 / 98.1% (Dos 1) 6,238 / 88.1% (Dos 2 a 3*) 18 / 0.3% (Dosau atgyfnertha)
  • Preswylwyr cartrefi gofal:1,987 / 98.6% (Dos 1) 1,971 / 97.8% (Dos 2 a 3*) 1,822 / 92.4% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr cartrefi gofal:3,698 / 99% (Dos 1) 3,644 / 97.6% (Dos 2 a 3*) 2,905 / 79.7% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr Gofal Iechyd:27,198 / 98.2% (Dos 1) 26,934 / 97.2% (Dos 2 a 3*) 24,269 / 90.1% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr Gofal Cymdeithasol**:8,162 / 82.2% (Dosau atgyfnertha)
  • Yn glinigol agored i niwed:10,780 / 94.7% (Dos 1) 10,621 / 93.3% (Dos 2 a 3*) 6,105 / 57.5% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol:46,322 / 90.8% (Dos 1) 45,009 / 88.2% (Dos 2 a 3*) 38,261 / 85% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol(12-15):657 / 63.4% (Dos 1) 470 / 45.4% (Dos 2 a 3*) 44 / 9.4% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol(5-11):481 / 37.5% (Dos 1)

 

*Y rhai sydd wedi derbyn dau ddos o frechlyn COVID-19, ac eithrio'r rhai sy'n ddifrifol imiwn ataliedig yr argymhellir eu bod yn cael tri dos.

 

**­Data gymerwyd o ffynhonnell amgen.

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (11 Chwefror - 17 Chwefror 2022)

 

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

21 Chwefror 2022

Achosion: 1,119

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 305 (Cymru: 330.5 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 3,849

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,049.1

Cyfran bositif: 29.1% (Cymru: 24.5% cyfran bositif)