Back
Ymateb i Storm Eunice

18/02/22 

Cafodd Rhybudd Coch y Swyddfa Dywydd am wyntoedd cryfion a ddaeth yn sgil storm Eunice ei godi am hanner dydd heddiw, ond bydd Rhybudd Oren yn parhau mewn grym tan 9pm heno.

Rhoddwyd gweithdrefnau rheoli argyfwng y cyngor ar waith ddoe a heddiw, er mwyn helpu i gadw'r cyhoedd a'r gweithlu'n ddiogel, a cheisio cyfyngu ar y tarfu a achoswyd gan Storm Eunice gymaint ag y bo modd

A picture containing text, sky, outdoor, personDescription automatically generated

Derbyniodd y Cyngor nifer o adroddiadau am goed a oedd wedi cwympo a difrod i adeiladau. Mae criwiau'r cyngor wedi'u paratoi'n llawn ac wedi ymateb i ddigwyddiadau gydol y dydd. Mae'r gwaith glanhau yn parhau.

TextDescription automatically generated

Roedd gweithwyr rheng flaen allan yn darparu cymorth a chefnogaeth i breswylwyr agored i niwed, gan sicrhau bod y gwasanaethau hanfodol hyn yn parhau. Mae canolfannau hamdden Llanisien a'r Dwyrain yn gweithredu fel 'gweithfannau achlysurol' i weithlu symudol y Cyngor eu defnyddio yn ystod y dydd ac ymlaen i heno.

Er bod disgwyl i'r Rhybudd Oren gael ei godi heno, mae'r rhagolygon ar gyfer y penwythnos ar gyfer mwy o dywydd ansefydlog, gyda chawodydd glaw trwm ac awelon cryf yn y rhagolygon.   Mae'r digwyddiad Daw'r Gwanwyn ar Ddwy Olwyn a oedd i fod i gael ei gynnal ym Mharc Fictoria yfory wedi'i ohirio, ac mae dyddiad arall yn cael ei drefnu. Mae'r ddau ddigwyddiadau yn Hyb STAR Ddydd Sadwrn, 26 Chwefror, a Chastell Caerdydd ar Ddydd Sadwrn, 5 Mawrth yn dal i ddigwydd.

I gael diweddariadau rheolaidd, dilynwch Gyngor Caerdydd ar y cyfryngau cymdeithasol, ewch i  www.newyddioncaerdydd.co.uk  a  www.caerdydd.gov.uk