18/02/22
Mae cynigion diweddaraf Cyngor Caerdydd i lunio'r ffordd y gall yr awdurdod helpu i greu prifddinas 'Wyrddach, Decach a Chryfach'.
Mae Cynllun Corfforaethol y Cyngor yn nodi'r holl gamau y bydd y cyngor yn eu cymryd i wella bywydau ei drigolion ac yn mesur sut mae wedi perfformio yn erbyn ei dargedau dros y pum mlynedd diwethaf. Bydd y cynllun yn mynd i gyfarfod nesaf Cabinet yr awdurdod ddydd Iau, 24 Chwefror, ac os cytunir arno, bydd yn cael ei gymryd i'r Cyngor Llawn ar 3 Mawrth i'w gymeradwyo.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Pan gafodd ei hethol yn 2017, nododd fy ngweinyddiaeth 'Uchelgais Prifddinas' - cynllun pum mlynedd i Gaerdydd ddod yn brifddinas wyrddach, decach a chryfach. Mae'r Cynllun Corfforaethol hwn yn dangos y cynnydd rydym wedi'i wneud, meysydd lle mae gennym fwy o waith i'w wneud, a sut byddwn yn cyflawni'r camau nesaf i'n preswylwyr.
"Fel unrhyw gynllun busnes da, mae'n nodi ble rydyn ni eisiau mynd a'n strategaethau ar gyfer cyrraedd y nod hwnnw. Mae'n fesuradwy, yn fforddiadwy o fewn ein cyllideb, ac yn casglu data perfformiad allweddol i sicrhau ein bod ar y trywydd iawn i wireddu ein gweledigaeth."
Mae Cynllun Corfforaethol llawn Caerdydd ar gael i'w weld yma (https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=6662&Ver=4) ond mae blaenoriaethau allweddol yn cynnwys:
Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas: "Dros y pum mlynedd diwethaf, mae'r cyngor hwn wedi cymryd camau breision ymlaen ar draws nifer eang o feysydd. Mae plant a phobl ifanc wedi bod wrth wraidd ein cynlluniau wrth i ni weithio tuag at ddod yn Ddinas sy'n Dda i Blant UNICEF. Fel rhan o'r dull hwn, rydym yn amlwg wedi blaenoriaethu buddsoddiad mewn ysgolion a gwella canlyniadau i blant a phobl ifanc. Ers 2017, mae ein Gwasanaeth Addysg wedi gweld gwelliannau sylweddol a pharhaus - gydag ysgolion newydd yn cael eu darparu ar draws y ddinas a pherfformiad ymhlith y gorau yng Nghymru. Roedd adroddiad arolygu diweddaraf Estyn yn cydnabod y "weledigaeth feiddgar ac uchelgeisiol i ddysgwyr", y gwaith a wnaed i wneud "addysg yn fater i bawb yng Nghaerdydd" a'r gwasanaeth rhagorol sy'n cael ei ddarparu.
"Ond nid ydym wedi canolbwyntio ar ysgolion yn unig. Fel rhan o un o raglenni adeiladu tai cyngor mwyaf uchelgeisiol y DU, rydym wedi adeiladu'r tai cyngor cyntaf yng Nghaerdydd ers cenhedlaeth ac rydym bellach wedi codi ein dyheadau i ddarparu 4,000 o dai Cyngor newydd erbyn 2030, sy'n gynnydd o'n targed cynharach o 2,000.
"Rydym yn parhau i gefnogi'r gwaith o gyflawni prosiectau Papur Gwyn Trafnidiaeth allweddol, gan gynnwys ehangu cynlluniau'r Metro ar gyfer llwybrau a gorsafoedd tram-drenau newydd ledled y ddinas ac mae ein gwaith i gefnogi economi Caerdydd yn parhau i roi cyfleoedd i bobl Caerdydd a'r rhanbarth ehangach. Bu cynnydd net o 7,000 mewn cyflogaeth yng Nghaerdydd yn ystod y pum mlynedd cyn i'r pandemig gyrraedd yn 2020, gan gyfrif am 77.8% o'r cynnydd net ledled Cymru gyfan. Gyda bron pedair o bob pum swydd newydd net yng Nghymru wedi'u creu yng Nghaerdydd, mae'r gwaith hwn o arwyddocâd economaidd cenedlaethol.
"Yn amlwg, rydym wedi gwneud cynnydd mawr ers lansio ein gweledigaeth gyntaf yn 2017, ac mae hyn wedi'i gyflawni er gwaethaf effaith y pandemig, a'r gwaith rydym wedi'i wneud mewn ymateb iddo. O ganlyniad i'r rhaglen frechu, gallwn ddechrau gobeithio mai'r gwaethaf o'r pandemig y tu ôl i ni, ac felly bydd y Cyngor yn troi ei sylw at arwain adferiad ehangach i'r ddinas - gan bennu ein huchelgeisiau ar gyfer Caerdydd hyd yn oed yn uwch. Rwy'n hyderus o hyd y gallwn symud ymlaen yn gryfach ar ôl Covid-19, a sicrhau dyfodol gwell i'n dinasyddion, i'n busnesau, i'r Brifddinas-ranbarth ac i Gymru."
Fel rhan o gynllun busnes y Cyngor, mae Cyngor Caerdydd hefyd wedi datgelu cyllideb a gynlluniwyd i greu swyddi newydd, adeiladu cartrefi cyngor newydd, a gwella cyfleoedd i blant a phobl ifanc, wrth ddiogelu'r 'argyfwng costau byw'.
Mae Cabinet Cyngor Caerdydd yn cyflwyno cynigion a allai gynnwys miliynau'n cael eu gwario i helpu'r rhai sydd â'r angen mwyaf wrth i'r ddinas geisio gadael effeithiau gwaethaf pandemig COVID-19 y tu ôl iddi.
Mae'r cynigion yn rhan o adroddiad cyllideb 2022/23 a gaiff ei gyflwyno i'r Cabinet i'w gymeradwyo ddydd Iau, 24 Chwefror. Os cytunir arnynt, bydd y Cyngor Llawn yn pleidleisio ar gynigion y gyllideb yn ei gyfarfod nesaf ar 3 Mawrth.
Os bydd y Cyngor yn cymeradwyo cynigion y Gyllideb, byddai ysgolion Caerdydd yn cael £9.3m yn ychwanegol; gwasanaethau oedolion a phlant £23.9m yn ychwanegol; a gwasanaethau ieuenctid a gwariant ar bobl ifanc £2.4m yn ychwanegol. Byddai'r Dreth Gyngor yn cael ei phennu'n 1.9%, yn is na'r cynnydd o 3.5% y llynedd (sy'n cyfateb i 48c yr wythnos ar gyfer aelwyd Band D).
Gallwch ddarllen mwy am gyllideb y Cyngor ar gyfer 2022/23 yma (https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=6662&Ver=4)
Mae cam nesaf y Cynllun Corfforaethol yn cwmpasu 2022-25. Mae'n cael ei ystyried yn flynyddol gan y Cyngor Llawn. Mae'r ddogfen yn amlinellu blaenoriaethau polisi a pherfformiad strategol y sefydliad ac yn cyflawni cyfrifoldebau'r Cyngor o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.