Back
Tasglu Cydraddoldeb Hiliol yn datgelu argymhellion terfynol i Gaerdydd

17.02.2022 

Mae creu rhwydwaith cydraddoldeb i weithwyr ledled y ddinas, sy'n edrych ar gyfleoedd i ddatblygu Paneli Aelodau mwy cynrychioliadol a chynyddu amrywiaeth mewn cyrff llywodraethu ysgolion i gyd wedi cael eu trafod fel rhan o gynlluniau i helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol yng Nghaerdydd.

Mae'r Tasglu Cydraddoldeb Hiliol wedi datgelu eu cynlluniau diweddaraf gan gynnwys:

Cyflogaeth a Gweithlu Cynrychioladol:

  • Mae Cyngor Caerdydd yn falch o fod wedi talu'r Cyflog Byw i'w holl weithwyr ers mis Medi 2012 ac o fod yn Gyflogwr Cyflog Byw achrededig ers mis Tachwedd 2015, bydd Cyngor Caerdydd ynllofnodi'r Compact Swyddi Cymunedol ac yn edrych ar opsiynau i greu 'Rhwydwaith Cydraddoldeb Caerdydd' i gyflogwyr ledled y ddinas gan weithio gyda phartneriaid yn Addewid Caerdydd, CCF a Cyngor i Mewn i Waith.

Addysg a phobl ifanc

  • Cyflwyno Cynllun Peilot Fforwm Rhieni Lywodraethwyr y Dyfodol a fydd yn gyfle i ysgolion feithrin perthynas â rhieni ond hefyd i rieni ddysgu am brosesau llywodraethu a chamu i mewn i rolau llywodraethwyr pan fyddant ar gael.

Llais y Dinesydd

  • Lle y bo'n bosibl, datblygu Paneli Aelodau cynrychioliadol sy'n sicrhau y gall dinasyddion Caerdydd chwarae rhan weithredol drwy roi eu barn arnifer o bynciau ymgynghori ar gyfer y ddinas

Dyma'r drydedd rownd a'r rownd derfynol o gynigion y cytunwyd arnynt gan y Tasglu ym mis Rhagfyr 2021 a chânt eu hanfon i'r Cabinet fel rhan o adroddiad blynyddol ym mis Mawrth. 

Dywedodd Cadeirydd y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol, y Cynghorydd Saeed Ebrahim:  "Diolch i waith caled y Tasglu a'n partneriaid, rydym yn parhau'n ymrwymedig i wella cydraddoldeb.  Mae ein cynigion diweddarafyn edrych ar rai meysydd allweddol ar gyfer y ddinas.

Os ydym am newid sefyllfa cydraddoldeb hiliol, yna mae angen i bobl gael yr un cyfleoedd mewn bywyd, a bydd addysg a gwaith yn ddau faes allweddol lle gallwn helpu i wneud gwahaniaeth i bobl."

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas:  "Mae diwedd y mis hwn yn nodi 18 mis ers sefydlu'r Tasglu Cydraddoldeb Hiliol ac rydym wedi creu llwyfan sy'n helpu i wneud newid gwirioneddol i helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol.

"Mae'r Tasglu Cydraddoldeb Hiliol wedi gwneud nifer o gyflawniadau pwysig ers ei sefydlu ym mis Gorffennaf 2020 gan gynnwys Ysgol Gynradd Mount Stuart yn dod yr ysgol gyntaf yng Nghymru i dreialu Hyfforddiant Gwrth-Hiliaetha grëwyd gan Rachel Clarke, Dirprwy Bennaeth ac wyresPennaeth du cyntaf Cymru a hyrwyddwr cydraddoldeb ac amrywiaeth, Betty Campbell; mae argymhellion wedi'u cymeradwyo i gyrff llywodraethu weithredu 'Llywodraethwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth' ar gyfer pob ysgol gydag arweiniad a chyfleoedd hyfforddi; achefnogi gosod heneb canol dinas Betty Campbell mewn partneriaeth â Straeon Caerdydd a Monumental Welsh Women.

"Yr hyn y mae'r Tasglu Cydraddoldeb Hiliol yn ei wneud amlygu materion sy'n effeithio ar bob un ohonom ac sydd angen gweithredu ar y cyd.   Rydym yn mynd y tu hwnt i'n datganiadau ac yn gwneud newid go iawn, ond mae llawer i'w wneud o hyd." 

Cyhoeddir adroddiad blynyddol y tasglu ym Mawrth 2022.

Straeon Cysylltiedig: