17.02.2022
Mae'rDreamachineyn fath newydd pwerus o brofiad trochi sy'n archwilio potensial di-derfyn y meddwl dynol.
Wedi'i greu gan Collective Act, mae'n dwyn ynghyd artistiaid sydd wedi ennill Gwobr Turner, y cyfansoddwr Jon Hopkins a enwebwyd am Grammy a Gwobr Mercury, a thîm o dechnolegwyr, gwyddonwyr ac athronwyr blaenllaw. Caiff ei lansio yn Llundainym mis Mai 2022,gyda chyflwyniadau wedi hynny ym Melfast, Caerdydd a Chaeredin, wedi ei gomisiynu a'i gyflwyno fel rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU.
Mae Dreamachine wedi'i ysbrydoli gan ddyfais eithriadol ond gweddol anhysbys gan yr artist-ddyfeisiwr Brion Gysin. Defnyddiodd ei ddyfais cartref arbrofol olau fflachio i greu rhithiau byw, patrymau caleidosgopaidd a ffrwydradau o liw ym meddwl y gwyliwr. Wedi'i gynllunio i fod y 'gwaith celf cyntaf i gael ei brofi gyda'ch llygaid ynghau', roedd gan Gysin weledigaeth ar gyfer ei ddyfais i ddisodli'r teledu ym mhob cartref yn America. Yn hytrach na defnyddwyr goddefol y cyfryngau torfol, byddai gwylwyr y Dreamachine yn creu eu profiadau sinematig eu hunain.
Dros drigain mlynedd ar ôl ei ddyfais wreiddiol, mae Collective Act wedi dwyn ynghyd dîm rhyngddisgyblaethol o feddyliau blaenllaw o feysydd pensaernïaeth, technoleg, cerddoriaeth, niwrowyddoniaeth ac athroniaeth i ail-ddychmygu'r Dreamachine yn radical fel math newydd pwerus o brofiad cyfunol; gan osod cynsail ar gyfer ffyrdd newydd o gydweithio ar draws y gwyddorau a'r celfyddydau i ddod â'r syniad uchelgeisiol hwn yn fyw.
Bydd pob profiad o'r Dreamachine yn gwbl unigol. Bydd byd caleidosgopaidd Dreamachine yr 21ain ganrif yn arwain cynulleidfaoedd drwy brofiad trochol o olau a sain, mor fywiog a llachar ag unrhyw efelychiad digidol, ond a grëwyd gan ac sy'n unigryw i chi. Yn brofiad cyfoethog a chymunedol, bydd y rhaglen unigryw hon yn rhoi ffordd gwbl newydd i gynulleidfaoedd ailgysylltu â'u hunain, ac â'i gilydd.
Bydd Dreamachine yn cael ei gyflwyno yn Llundain, Caerdydd, Belfast a Chaeredin rhwng Mai a Hydref 2022. Fe'i cyflwynir gyda chefnogaeth Chyngor Dinas Caerdydd, Gŵyl Wyddoniaeth Gogledd Iwerddon, W5 Belfast, Gŵyl Ryngwladol Caeredin a Gŵyl Wyddoniaeth Caeredin. Cyhoeddir lleoliadau, dyddiadau a manylion tocynnau ddiwedd mis Mawrth 2022.
Ochr yn ochr â'r profiad byw, gwahoddir cynulleidfaoedd ledled y DU i gymryd rhan fel cydweithredwyr gweithredol yn un o'r prosiectau ymchwil gwyddonol mwyaf o'i fath. Gwyddoniaeth dinasyddion ar raddfa ddigynsail, bydd y 'Cyfrifiad Canfyddiad' yn taflu goleuni ar ddirgelwch sydd o bwys: amrywiaeth anweledig bydoedd mewnol yn y genedl.
Bydd rhaglen ysgolion hefyd ledled y DU a ddatblygwyd gan A New Direction mewn partneriaeth â Chymdeithas Wyddoniaeth Prydain ac UNICEF UK, yn cysylltu miloedd o ysgolion a disgyblion â'r cwestiynau, y syniadau a'r themâu a archwilir drwy gyfrwng y Dreamachine, gan wahodd pobl ifanc ym mhob gwlad i ymuno â'i gilydd i archwilio ein cysylltiad dynol mwyaf sylfaenol: rhyfeddod sut yr ydym yn gweld, ac yn creu, y byd o'n cwmpas.
Caerdydd yw'r ddinas gyntaf yng Nghymru i gymryd rhan ym menter DU gyfan UNICEF, Dinasoedd a Chymunedau sy'n Dda i Blant . Ein huchelgais yw i Gaerdydd gael ei hadnabod fel dinas sy'n dda i blant: dinas â phobl ifanc wrth ei gwraidd, lle mae hawliau plant a phobl ifanc yn cael eu parchu, a lle sy'n wych i gael eich magu.Bydd y prosiect hwn yn rhoi'r cyfle i blant a phobl ifanc Caerdydd ymgolli'n llwyr mewn profiad a fydd yn ysbrydoli cwestiynau, yn hybu creadigrwydd ac yn cynnig oriau o hwyl.
Mae Dreamachine yn un o 10 prosiect creadigol mawr a gomisiynwyd fel rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU. Arddangosfa fwyaf uchelgeisiol y DU o gydweithio creadigol - yn cwmpasu gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, y celfyddydau a mathemateg - ac yn cynnwys digwyddiadau ar raddfa fawr ac am ddim, gosodiadau a phrofiadau digidol sy'n hygyrch ym mhob cwr o'r byd, a rhaglen ddysgu helaeth sy'n cyrraedd miliynau o blant ysgol.
Caiff UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU ei ariannu a'i gefnogi gan bedair llywodraeth y DU ac fe'i comisiynir a'i gyflwyno mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Belfast, Cymru Greadigol a EventScotland.
Bydd tocynnau am ddim ar gael i'w harchebu drwywww.dreamachine.worldo ddiwedd mis Mawrth 2022, pan fydd dyddiadau a lleoliadau ledled y DU yn cael eu cyhoeddi.
Mwy ymawww.dreamachine.world
Ffotograff: Brenna Duncan