Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 15 Chwefror 2022

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: rydym am glywed eich barn ar strategaeth gwastraff ddrafft Caerdydd; plannu 1,700 o goed ym Mharc Tremorfa; cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; nifer achosion a phrofion Caerdydd; ardal Chwarae Caeau Llandaf bellach ar agor ar ôl ailwampio'n helaeth.

 

Rydym am glywed eich barn ar strategaeth gwastraff ddrafft Caerdydd

Mae ymgynghoriad cyhoeddus chwe wythnos ar sut y bydd Caerdydd yn cyrraedd targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru erbyn 2025 ac yn gwneud Caerdydd yn un o'r dinasoedd gwyrddaf yn y DU yn agor heddiw.

Ar hyn o bryd, Caerdydd yw'r ddinas ranbarthol fawr sy'n perfformio orau o ran ailgylchu yn y DU. Ers 2018 mae tua 58% o'r gwastraff a gynhyrchir yn y ddinas yn cael ei ailgylchu neu ei gompostio. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i Gaerdydd gynyddu'r gyfradd hon i 64% cyn gynted â phosibl ac i 70% erbyn 2025.

Gofynnir i drigolion roi eu barn ar saith menter allweddol a gynlluniwyd i wella cyfradd ailgylchu a chompostio'r ddinas, gan gynnwys:

  • Gwella ansawdd y deunydd ailgylchu sy'n cael ei gasglu. Gofynnir i breswylwyr roi eu barn ar ddwy system gasglu wahanol - 'casgliad tair ffrwd', gyda chynwysyddion ar wahân yn cael eu darparu ar gyfer papur a cherdyn (ffibrau), metel a phlastigau, a gwydr a jariau; a 'didoli llawn ar garreg y drws' - mae hyn fel arfer yn cynnwys pedwar cynhwysydd o leiaf ar gyfer gwahanol ddeunyddiau.
  • Cynyddu faint o ailgylchu sy'n cael ei wneud. Gofynnir i breswylwyr roi eu barn ar ailgylchu gwastraff bwyd, gwastraff gardd, gwastraff busnes (masnach), a'r defnydd o Ganolfannau Ailgylchu.
  • Cynyddu'r cyfle i drigolion ailgylchu, drwy gasgliadau ailgylchu swmpus, datblygu cyfleusterau cymunedol newydd, a chreu digwyddiadau ailgylchu teithiol yn nes at gartrefi preswylwyr.
  • Defnyddio data i nodi a thargedu meysydd lle mae'r gyfradd ailgylchu yn isel a chyflawni camau targedig, megis gwaith allgymorth yn y cymunedau hyn i gynyddu'r gyfradd ailgylchu.
  • Lleihau plastigau untro drwy fenter Ail-lenwi Cymru lle gall y cyhoedd ail-lenwi poteli dŵr mewn caffis yn rhad ac am ddim.
  • Annog a chefnogi ailddefnyddio ac atgyweirio deunyddiau yn unol â Hierarchaeth Gwastraff yr UE - Arbed, Ailddefnyddio, Ailgylchu. Datblygu mentrau fel Caffi Trwsio Cymru, Benthyg Cymru a'r Caban yn Ffordd Lamby, sef siop ailddefnyddio.
  • Datblygu economi gylchol, defnyddio cerbydau trydan, addysg lleihau gwastraff mewn ysgolion, a chynlluniau dychwelyd blaendal.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28501.html

 

Plannu 1,700 o goed ym Mharc Tremorfa

Mae dros 1,700 o goed wedi'u plannu ym Mharc Tremorfa ar gyfer Canopi Gwyrdd y Frenhines (QGC) mewn digwyddiad arbennig i ddathlu statws Caerdydd fel Dinas Bencampwr.

Gwahoddwyd dros 150 o wirfoddolwyr o'r gymuned leol i "Blannu Coeden ar gyfer y Jiwbilî", mewn partneriaeth â Trees for Cities a'r QGC, ym Mharc Tremorfa ddydd Sadwrn 12 Chwefror.

Cychwynnodd plant ysgol lleol o Ysgol Gynradd Moorland ac Ysgol Gynradd Gatholig St Alban y plannu cyn y digwyddiad gwirfoddoli, gan blannu 250 o goed ddydd Gwener 11 Chwefror.

Bydd y coed yn helpu i gynyddu gorchudd canopi coed yn sylweddol yn y ddinas ac yn cefnogi cynefinoedd a bwyd ar gyfer bywyd gwyllt lleol.

Mae'r digwyddiad plannu coed hefyd yn cyfrannu at brosiect uchelgeisiol Coed Caerdydd y Cyngor, a fydd yn gweld dros 16,000 o goed yn cael eu plannu ar draws y ddinas eleni, dros 3x yn fwy nag a blannwyd gennym yn 2019.

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 15 Chwefror 2022

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  1,073,718 (Dos 1: 401,143 Dos 2:  374,822 DOS 3: 8,072 Dosau atgyfnertha: 289,579)

Data Cohort - Diweddarwyd ddiwethaf 14 Chwefror 2022

 

  • 80 a throsodd:22,207 / 95% (Dos 1) 22,050 / 94.3% (Dos 2 a 3*) 20,490 / 92.9% (Dosau atgyfnertha)
  • 75-79: 16,775 / 96.6% (Dos 1) 16,661 / 95.9% (Dos 2 a 3*) 15,449 / 92.7% (Dosau atgyfnertha)
  • 70-74: 21,152 / 95.9% (Dos 1) 21,022 / 95.3% (Dos 2 a 3*) 19,582 / 93.2% (Dosau atgyfnertha)
  • 65-69: 22,732 / 94.2% (Dos 1) 22,499 / 93.2% (Dos 2 a 3*) 20,739 / 92.2% (Dosau atgyfnertha)
  • 60-64: 27,023 / 92.2% (Dos 1) 26,666 / 91% (Dos 2 a 3*) 24,340 / 91.3% (Dosau atgyfnertha)
  • 55-59: 29,701 / 90.2% (Dos 1) 29,237 / 88.8% (Dos 2 a 3*) 26,385 / 90.2% (Dosau atgyfnertha)
  • 50-54: 29,055 / 87.9% (Dos 1) 28,451 / 86.1% (Dos 2 a 3*) 25,104 / 88.2% (Dosau atgyfnertha)
  • 40-49: 56,590 / 81.9% (Dos 1) 54,826 / 79.3% (Dos 2 a 3*) 45,656 / 83.3% (Dosau atgyfnertha)
  • 30-39: 63,313 / 77.1% (Dos 1) 59,732 / 72.8% (Dos 2 a 3*) 43,328 / 72.5% (Dosau atgyfnertha)
  • 18-29: 83,564 / 79.3% (Dos 1) 75,391 / 71.6% (Dos 2 a 3*) 46,872 / 62.2% (Dosau atgyfnertha)
  • 16-17: 4,033 / 71.1% (Dos 1) 2,987 / 52.7% (Dos 2 a 3*) 55 / 1.8% (Dosau atgyfnertha)
  • 13-15: 13,912 / 57.1% (Dos 1) 8,380 / 34.4% (Dos 2 a 3*)

 

  • Yn ddifrifol imiwno-ataliedig:6,947 / 98.1% (Dos 1) 6,238 / 88.1% (Dos 2 a 3*) 18 / 0.3% (Dosau atgyfnertha)
  • Preswylwyr cartrefi gofal:1,987 / 98.6% (Dos 1) 1,971 / 97.8% (Dos 2 a 3*) 1,822 / 92.4% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr cartrefi gofal:3,698 / 99% (Dos 1) 3,644 / 97.6% (Dos 2 a 3*) 2,905 / 79.7% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr Gofal Iechyd:27,198 / 98.2% (Dos 1) 26,934 / 97.2% (Dos 2 a 3*) 24,269 / 90.1% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr Gofal Cymdeithasol**:8,162 / 82.2% (Dosau atgyfnertha)
  • Yn glinigol agored i niwed:10,780 / 94.7% (Dos 1) 10,621 / 93.3% (Dos 2 a 3*) 6,105 / 57.5% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol:46,322 / 90.8% (Dos 1) 45,009 / 88.2% (Dos 2 a 3*) 38,261 / 85% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol(12-15):657 / 63.4% (Dos 1) 470 / 45.4% (Dos 2 a 3*) 44 / 9.4% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol(5-11):481 / 37.5% (Dos 1)

*Y rhai sydd wedi derbyn dau ddos o frechlyn COVID-19, ac eithrio'r rhai sy'n ddifrifol imiwn ataliedig yr argymhellir eu bod yn cael tri dos.

**­Data gymerwyd o ffynhonnell amgen.

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (04 Chwefror - 10 Chwefror 2022)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

14 Chwefror 2022

 

Achosion: 1,434

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 390.8 (Cymru: 326.8 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 4,451

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,213.1

Cyfran bositif: 32.2 (Cymru: 28.6% cyfran bositif)

 

Ardal Chwarae Caeau Llandaf bellach ar agor ar ôl ailwampio'n helaeth

Ddydd Gwener agorodd Plant Ysgol Gynradd Llandaf yr Eglwys yng Nghymru Ardal Chwarae Caeau Llandaf yn swyddogol, lle mae croeso i blant archwilio a chwarae yn dilyn gwaith ailwampio sylweddol.

Dechreuodd y gwaith yn Ardal Chwarae Caeau Llandaf ym mis Hydref 2021 a'i gwblhau ddydd Gwener 11 Chwefror.

Yn gynharach eleni, gwahoddodd Adran Parciau Caerdydd ysgolion o ledled y ddinas i roi eu barn a'u syniadau ar sut y gellid datblygu'r ardal chwarae.

Cyflwynodd disgyblion o Ysgol Gynradd Creigiau, Ysgol Gynradd Kitchener, Ysgol Gynradd Millbank, Ysgol Gynradd Severn, Ysgol Gynradd Sant Cuthbert, Ysgol Gynradd Dewi Sant, Ysgol Gynradd Santes Monica, yn ogystal â chynigion ar wahân gan blant eraill, eu lluniau a'u syniadau.

Yn dilyn syniadau'r plant, datblygodd cyngor Caerdydd yr arglawdd canolog yn nodwedd chwarae newydd - gan gynyddu'r uchder ac ychwanegu arwyneb rwber newydd.

Mae'r plant hefyd yn gallu mwynhau:

  • 3 llithren fawr newydd
  • rhwydi dringo
  • rhaffau dringo
  • cerrig camu sffêr mawr
  • bydd meinciau, llwybrau ac offer chwarae dringo eraill hefyd yn cael eu hychwanegu at y gofod.

Darllenwch fwy yma:

https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/28497.html