Back
Preswylwyr newydd Crofts Street wrth eu bodd gyda’u cartref newydd


15/2/22

Mae tenantiaid newydd naw tŷ modiwlaidd cynaliadwy, hynod effeithlon o ran ynni yn y Rhath, wedi disgrifio eu cartrefi cyngor newydd fel rhai 'mawr a helaeth' gydag ystafelloedd ymolchi fel gwesty'r Hilton!

 

Casglodd trigolion yr eiddo teras dwy ystafell wely, sydd wedi'u datblygu fel rhan o bartneriaeth adeiladu tai Cartrefi Caerdydd rhwng Cyngor Caerdydd a Wates Residential, eu hallweddi dros y penwythnos diwethaf ac maent wedi bod yn brysur yn ymgartrefu ac yn troi eu tai newydd yn gartref.

 

Ymwelodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne, â'r trigolion i ddarganfod eu barn ar yr eiddo carbon-sero net, sy'n rhan o raglen ddatblygu uchelgeisiol y Cyngor i adeiladu mwy o dai fforddiadwy yn y ddinas.

 

Dywedodd y Cynghorydd Thorne:  "Rwyf wedi bod yn aros yn eiddgar am y diwrnod y gallai tenantiaid symud i'r cartrefi hardd, newydd hyn. Roeddwn i yma pan gafodd yr unedau cyntaf eu gosod i'w safle ar graen cyn y Nadolig ac mae wedi bod yn anhygoel gweld y llain fach hon o dir diffaith yn cael ei drawsnewid yn rhes o naw tŷ modern a fydd yn ein helpu i fynd i'r afael ag angen tai yn y ddinas."

 

 

A group of people standing in front of a red telephone boothDescription automatically generated with low confidence

Cymdogion Newydd: Cyng Thorne yn cwrdd â rhai o drigolion newydd Stryd Crofts.

 

 

Dywedodd Tenant, Krzysztof Kaniewski, sydd wedi symud i Crofts Street gyda'i bartner a'i ddwy ferch: "Maen nhw'n fawr ac yn helaeth, a rownd y gornel o ysgol fy merch, taith gerdded fer. Mae ganddynt ardd braf, mae'r ystafell ymolchi fel gwesty'r Hilton - rydym wrth ein bodd!

 

"Mae 'na baneli solar ar y to, mae popeth yn drydanol sy'n grêt achos mae prisiau nwy yn mynd drwy'r to felly dydyn ni ddim yn gwybod sut beth fydd y sefyllfa yn y dyfodol. Gyda'r holl dechnoleg yn y tŷ, gallaf addasu'r tymheredd ym mhob ystafell felly does dim rhaid iddo fod yr un fath ym mhob ystafell."

 

A bathroom with a toilet and sinkDescription automatically generated with medium confidence

Llun:  Lyndon Jones, trwy garedigrwydd of Rogers Stirk Harbour + Partners (RSHP).

 

 

 

Dywedodd Edward Rees, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Wates Residential: "Gobeithiwn y bydd y trigolion newydd sy'n symud i mewn yn hapus iawn yn y cartrefi newydd hyn sydd o'r radd flaenaf. Gan eu bod yn fodiwlaidd, maent wedi'u creu oddi ar y safle, sydd wedi galluogi Wates i'w hadeiladu'n gyflymach gan darfu llai ar bobl sy'n byw o amgylch y safle.

 

"Maen nhw hefyd yn defnyddio'r technolegau diweddaraf i leihau carbon, fel ar ein safleoedd eraill o fewn rhaglen datblygu Cartrefi Caerdydd. Ar hyd y ffordd yn Nhredelerch, yn Aspen Grove, rydym newydd ddechrau gwerthu cartrefi ynni effeithlon newydd, a fydd yn helpu i'w diogelu yn y dyfodol rhag cynnydd pellach mewn prisiau tanwydd hefyd." 

 

Adeiladwyd cartrefi newydd Crofts Street oddi ar y safle gan ddefnyddio dulliau adeiladu modern cyn eu gostwng i'w safle terfynol ar y safle ddiwedd y llynedd, gyda'r holl sylfeini a thirlunio caled a meddal allanol wedi'u cwblhau. 

Wedi'i gynllunio gan y penseiri Rogers Stirk Harbour a Phartneriaid, wedi'u peiriannu gan AECOM a'u cyflwyno gan @HOME a Wates Residential, dyma'r tro cyntaf i'r dull hwn o adeiladu oddi ar y safle gael ei ddefnyddio gan y Cyngor i ddarparu cartrefi parhaol i deuluoedd sy'n byw yn y ddinas.

Meddau Ivan Harbour, Uwch Bartner Dylunio, Rogers Stirk Harbour a Phartneriaid: "Mae hanes cyfoethog i dai cyhoeddus ac rwy'n falch fy mod wedi cael y cyfle i ychwanegu at hynny. Mae llawer iawn o le y tu fewn i'r tai tref hyn, maent yn fforddiadwy ac yn gadarnhaol o ran yr hinsawdd. Yn yr amgylchedd presennol, mae eu heffeithlonrwydd ynni yn arbennig o berthnasol. Roedd y teras hwn o dai yn gyflym iawn i'w adeiladu, heb darfu bron dim ar y cymdogion. Gobeithio y gall wneud newid bach i'r ffordd rydyn ni'n mynd ati i adeiladu tai yn y dyfodol."

 

Meddai John Lewis, Cyfarwyddwr, AECOM:"Mae'n wych gweld tenantiaid yn symud i'r tai tref perfformiad uchel newydd hyn ar ôl y gwaith cyflym o'u gosod yn Crofts Street. Mae'r cyflymder y cawsant eu hadeiladu oddi ar y safle wedi lleihau gwastraff a gweithgarwch ar y safle, gan gynnwys lefelau llawer llai o draffig adeiladu. Mae ein dyluniad gyda RSHP yn dangos sut y gall dull modiwlaidd o adeiladu ddarparu cartrefi o ansawdd uchel, gwydn a charbon isel yn gyflym ac yn effeithlon."

 

Dywedodd Andrew Partridge, Partner Cyswllt, Rogers Stirk Harbour a Phartneriaid (RSHP):"Mae wedi bod yn gyfle gwych i weithio gyda Chyngor Caerdydd, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy eu rhaglen Tai Arloesol wedi'i hwyluso gan Wates, gan osod meincnod newydd ar gyfer tai Cyngor yn y DU. Mae'r prosiect hwn yn hynod o arbennig i mi oherwydd cefais fy magu yn yr ardal."

Yn ogystal â galluogi'r unedau i gael eu hadeiladu a'u gosod yn eithriadol o gyflym, mae'r dull adeiladu hwn hefyd yn defnyddio'r dechnoleg a'r deunyddiau adeiladu diweddaraf i greu adeiladau carbon sero net sydd 90% yn fwy effeithlon o ran ynni na chartrefi safonol a adeiladwyd i'r Rheoliadau Adeiladu presennol. Mae'r cartrefi'n hynod aerglos, sy'n golygu eu bod wedi'u hinswleiddio'n dda a bydd trigolion yn gweld arbedion enfawr ar eu biliau.

Mae'r cartrefi wedi cyflawni sgôr Effeithlonrwydd Ynni ac Effaith Amgylcheddol (CO2) Gradd A, mae ganddynt baneli solar ar eu toeau a system Adfer Gwres MEV gydag elfennau gwresogi trydan, fel na fydd yn ofynnol iddynt gysylltu â'r gwasanaeth nwy o'r prif gyflenwad a byddant yn gollwng llawer llai o CO2 na chartref safonol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Thorne: "Rydyn ni wedi gwneud cylchdro llawn ar Crofts Street. Yn ôl yn y 1940au, roedd rhes o 9 tŷ yn y fan hon cyn iddyn nhw gael eu bomio yn yr Ail Ryfel Byd a bu'n rhaid eu dymchwel.

 

"Mae'r holl denantiaid newydd rydw i wedi cwrdd â nhw wedi dweud wrthyf eu bod yn hapus iawn gyda'u cartrefi ac yn edrych ymlaen at ymgartrefu gyda'u teuluoedd yma."