Back
Cynnal Gŵyl BBC Radio 6 Music 2022 yng Nghaerdydd

15.02.2022

Bydd Caerdydd yn cynnal Gŵyl BBC Radio 6 Music eleni, a gynhelir rhwng dydd Gwener 1af a dydd Sul 3ydd Ebrill. Cyhoeddwyd y perfformwyr bore yma ar 6 Music gan Huw Stephens a Mary Anne Hobbs.

A picture containing diagramDescription automatically generated

"newyddion gwych bod Gŵyl 6 Music yn dod i Gaerdydd. Rydyn ni wrth ein bodd â'n cerddoriaeth fyw yma; mae gigs a nosweithiau clybiau yn rhan enfawr o'r hyn sy'n gwneud Caerdydd yn arbennig, ac mae cerddoriaeth fyw yn llifo drwy ein gwaed. Rydyn ni hefyd wrth ein bodd gyda BBC Radio 6 Music ac mae cael yr ŵyl anhygoel hon yn digwydd yma ar yr adeg bwysig hon yn adferiad lleoliadau cerddoriaeth fyw yn gyffrous dros ben." Huw Stephens

Bydd yr ŵyl yn cynnwys perfformiadau byw, setiau DJ, Sgyrsiau a mwy ar draws nifer o leoliadau ym mhrifddinas Cymru, gan gynnwys Neuadd Dewi Sant, Y Neuadd Fawr ac Y Plas yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a Tramshed.

Mae'r perfformwyr yn cynnwys Little Simz, Khruangbin, Father John Misty ac aelodau o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, IDLES, Bloc Party, Johnny Marr a'r gwesteion arbennig iawn Pixies. Yn ogystal ag, audiobooks, beabadoobee, Big Joanie, Carwyn Ellis & Rio 18, Cat Power, Curtis Harding, David Holmes, Deyah, Elkka, Emma-Jean Thackray, Ezra Collective, Georgia Ruth, Green Gartside, Gruff Rhys, Gwenno, H. Hawkline, Ibeyi, Ibibio Sound Machine, Lucy Dacus, Mykki Blanco, Obonjayar, Orlando Weeks, OVERMONO, Porij, Self Esteem, Sherelle, Sports Team, The Bug Club, The Mysterines, Wet Leg a bydd rhagor yn perfformio hefyd.

Dywedodd Samantha Moy, Pennaeth BBC Radio 6 Music: "Ar ôl dwy flynedd, mae'n deimlad arbennig iawn cael dweud y bydd Gŵyl 6 Music yn ôl yng Nghaerdydd. Mae hon yn ddinas sydd wastad wedi cael sîn gerddoriaeth wych, ac rwy'n edrych ymlaen at ddod â theulu 6 Music, y cyflwynwyr a'r gwrandawyr, at ei gilydd i fwynhau Gŵyl 6 Music."

Dywed Mary Anne Hobbs: "Elfen fwyaf gyffrous Gŵyl 6 Music yw bod gwrandawyr ffantastig 6 Music a staff yr orsaf, ynghyd ag artistiaid rydyn ni'n eu hedmygu, yn cael dod at ei gilydd, mewn gofod ffisegol. Mae'r cyfnodau clo wedi ein cadw ar wahân ers 2020, felly mae'r gigs yng Nghaerdydd yn siŵr o fod yn llawn egni."

Dywed Huw Stephens: "Mae'n newyddion gwych bod Gŵyl 6 Music yn dod i Gaerdydd. Rydyn ni wrth ein bodd â'n cerddoriaeth fyw yma; mae gigs a nosweithiau clybiau yn rhan enfawr o'r hyn sy'n gwneud Caerdydd yn arbennig, ac mae cerddoriaeth fyw yn llifo drwy ein gwaed. Rydyn ni hefyd wrth ein bodd gyda BBC Radio 6 Music ac mae cael yr ŵyl anhygoel hon yn digwydd yma ar yr adeg bwysig hon yn adferiad lleoliadau cerddoriaeth fyw yn gyffrous dros ben."

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd a Chadeirydd Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Rydyn ni'n falch iawn o groesawu Gŵyl BBC 6 Music i Gaerdydd y gwanwyn yma. 6 Music yw'r orsaf gerddoriaeth amgen orau yn y byd. Mae'n hyrwyddo cerddoriaeth fyw, artistiaid newydd ac ysbryd amgen mewn cerddoriaeth boblogaidd, ysbryd ac egni sydd wedi gwneud cerddoriaeth Brydeinig yn enwog ym mhedwar ban byd. Yma yng Nghaerdydd, rydyn ni wir yn falch o'r sîn gerddoriaeth annibynnol mae'r ddinas yn ei chynnig a thrwy ein strategaeth Caerdydd Dinas Cerdd, mae gennym gynlluniau i dyfu ac i harneisio'r egni hwnnw. Rydyn ni wedi gweithio gyda'r BBC i helpu i ddod â'r ŵyl i Gymru am y tro cyntaf, ac rydyn ni'n gwybod y bydd yn llwyfan ffantastig i ddangos yr hyn sydd gan Gaerdydd i'w gynnig. Mae hwn yn gyfle gwych i'r ddinas ac rydyn ni'n edrych ymlaen at weld yr ŵyl yn dechrau a chael gweld rhagor o bobl yn mynd allan i fwynhau cerddoriaeth fyw eto."

Bydd digwyddiadau yn ystod y dydd yn ogystal â gyda'r nos. Bydd digwyddiadau Dydd Gŵyl 6 Music yn cael eu cynnal yn Tramshed a bydd digwyddiadau'r Nos yn cael eu cynnal yn Neuadd Dewi Sant, y Neuadd Fawr ac Y Plas. Bydd Tramshed hefyd yn cynnal digwyddiadau Hwyr 6 Music, noson glwb a fydd yn cynnwys DJs 6 Music a gwesteion arbennig, a fydd yn dilyn gigs byw Nos 6 Music.

Bydd tocynnau ar gyfer pob digwyddiad y mae angen tocyn iddo ar gael o 10am ymlaen ddydd Iau 17eg Chwefror yn bbc.co.uk/6musicfestival.

Bydd cyflwynwyr 6 Music gan gynnwys AFRODEUTSCHE, Amy Lamé, Cerys Matthews, Chris Hawkins, Craig Charles, Don Letts, Gideon Coe, Gilles Peterson, Huey Morgan, Jamz Supernova, Lauren Laverne, Mark Radcliffe, Mary Anne Hobbs, Nemone, Steve Lamacq, Stuart Maconie a Tom Ravenscroft yn darlledu o Gaerdydd dros y penwythnos. Byddant yn cyflwyno cerddoriaeth fyw, cyfweliadau, setiau DJ a mwy o'r ŵyl i wrandawyr, lle bynnag y byddan nhw ar draws y DU. Bydd rhaglen a gyflwynir gan Huw Stephens (dydd Sul 3 Ebrill, 4-7pm) yn cael ei darlledu ar yr un pryd ar BBC Radio Wales. Hefyd, bydd rhifynnau arbennig o Indie Forever 6 Music (dydd Sadwrn 2il Ebrill, 3-4am), Ambient Focus (dydd Sadwrn 2il Ebrill, 4-6am) a Lose Yourself With... (Dydd Sul 3ydd Ebrill, 3-5am), wedi'u curadu gan artistiaid o Gymru. Bydd yr holl raglenni ar gael ar BBC Sounds ar ôl eu darlledu.

Bydd BBC Radio Wales hefyd yn darlledu uchafbwyntiau a nifer o'r digwyddiadau'n fyw, a bydd yn ailddarlledu rhaglen Gŵyl 6 Music Cerys Matthews nos Sul 3 Ebrill.

Ar BBC Radio Cymru, bydd Rhys Mwyn, Georgia Ruth, Lisa Gwilym a Huw Stephens yn darlledu uchafbwyntiau'r ŵyl.

Bydd BBC Four a BBC Cymru Wales yn ailymweld â rhai o uchafbwyntiau'r ŵyl gyda rhaglen arbennig, a fydd yn cynnwys uchafbwyntiau perfformiadau, i'w darlledu'n ddiweddarach.

Bydd uchafbwyntiau'r ŵyl ar gael i'w gwylio ar BBC iPlayer dros y penwythnos, ac am 30 diwrnod wedyn.

Bydd BBC Music Introducing, mewn partneriaeth â Gorwelion, yn paratoi ar gyfer yr ŵyl gyda gig arbennig yng Nghlwb Ifor Bach ddydd Mercher 30 Mawrth. Y cyflwynwyr fydd Tom Robinson o 6 Music a Bethan Elfyn o BBC Radio Wales, a bydd perfformiadau gan artistiaid o Gymru a ffefrynnau BBC Music Introducing gan gynnwys Panic Shack, Adwaith, Malan a Hemes. Cynllun gan BBC Cymru Wales mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru yw Gorwelion i ddatblygu cerddoriaeth gyfoes annibynnol, newydd yng Nghymru.

Ochr yn ochr â Gŵyl 6 Music, mae Cymru Greadigol - un o asiantaethau mewnol Llywodraeth Cymru sy'n hyrwyddo'r sectorau creadigol yng Nghymru - yn gweithio gyda lleoliadau lleol a phartneriaid cerddorol i greu Gŵyl Ymylol 6 Music, sy'n dangos yn union pam cafodd Caerdydd ei henwi'n ‘Ddinas Gerddoriaeth' gyntaf y DU yn 2021. Bydd yr Ŵyl Ymylol yn cael ei chynnal rhwng 28 Mawrth a 3 Ebrill a bydd yn cynnwys artistiaid a bandiau a fydd yn perfformio mewn lleoliadau ar draws y ddinas. Bydd y sioeau hyn yn arddangos hyd a lled doniau ac amrywiaeth artistiaid Caerdydd yn llawn, gan dynnu sylw at rôl hanfodol lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad ar draws y ddinas.

Dywedodd Gerwyn Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Cymru Greadigol: "Mae'n gyffrous iawn croesawu Gŵyl 6 Music y BBC i Gaerdydd, a chael cyfle i greu Gŵyl Ymylol sy'n cael ei chynnal mewn lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad ledled y ddinas. Mae llawer o ddigwyddiadau ar y gweill: perfformiadau jazz yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru; gigs roc yn Fuel, hip-hop yn Porter's a llawer mwy. Ar ben hynny, mae Cymru Greadigol wedi ffurfio partneriaeth â Chyngor Caerdydd, Caerdydd Greadigol a Phrifysgol De Cymru i greu cyfres o ddigwyddiadau yn ystod y dydd a mynediad i fyfyrwyr newyddiaduraeth brofi'r ŵyl, ysgrifennu amdani yn eu geiriau eu hunain a chyhoeddi eu gwaith. Ar ôl cwpl o flynyddoedd mor anodd i'r sîn gerddoriaeth yn y brifddinas, bydd yn bleser cael gweld pawb sy'n ymweld yn mwynhau'r dathliad arbennig hwn."

Mae Gŵyl 6 Music yn rhan o BBC 100 - blwyddyn eithriadol o gynnwys, digwyddiadau a chynlluniau addysg uchelgeisiol i hysbysu, addysgu a diddanu'r genedl, gan nodi 100 mlynedd o'r BBC yn 2022.

Clwb Ifor Bach

  • Hemes, Malan, Adwaith, Panic Shack (Dydd Mercher 30ain Mawrth, Noson BBC Music Introducing/Gorwelion)

Neuadd Dewi Sant

  • Deyah, Curtis Harding, Mykki Blanco, Little Simz (Dydd Gwener 1af Ebrill)
  • Ibibio Sound Machine, Ezra Collective, Khruangbin (Dydd Sadwrn 2il Ebrill)
  • audiobooks, Gruff Rhys, Cat Power, Father John Misty ac aelodau o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC (Dydd Sul 3ydd Ebrill)

Y Neuadd Fawr

  • Pixies, Lucy Dacus, IDLES (Dydd Gwener 1af Ebrill)
  • beabadoobee, Sports Team, Bloc Party (Dydd Sadwrn 2il Ebrill)
  • Wet Leg, Self Esteem, Johnny Marr (Dydd Sul 3ydd Ebrill)

Y Plas

  • Obongjayar, Porij, Ibeyi (Dydd Gwener 1af Ebrill)
  • Gwenno, Orlando Weeks (Dydd Sadwrn 2il Ebrill)
  • The Bug Club, Big Joanie, The Mysterines (Dydd Sul 3ydd Ebrill)

Tramshed

  • Setiau DJ gan Elkka, Tom Ravenscroft, AFRODEUTSCHE, OVERMONO, Sherelle (Dydd Gwener 1af Ebrill, 6 Music Hwyr)
  • Carwyn Ellis & Rio 18 (perfformiad), Sgwrs Jamz Supernova gydag Elkka, Stuart Maconie Mewn Sgwrs gyda Manic Street Preachers, Don Letts (Set DJ)
  • Sgwrs Gilles Peterson gyda Khruangbin, Emma-Jean Thackray (perfformiad) a rhagor i'w gadarnhau (Dydd Sadwrn 2il Ebrill, 6 Music Dydd)
  • Setiau DJ gan Jamz Supernova, David Holmes, Craig Charles, Nemone (Dydd Sul 2il Ebrill, 6 Music Hwyr)
  • Georgia Ruth (perfformiad), Sgwrs gyda Jon Ronson, Sgwrs gyda Green Gartside, Gruff Rhys (perfformiad acwstig), H. Hawkline (perfformiad) a Rhagor i'w gadarnhau (Dydd Sul 3ydd Ebrill, 6 Music Dydd)

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ynwww.bbc.co.uk/6musicfestival