Back
Plannu 1,700 o goed ym Mharc Tremorfa i ddathlu’r ffaith fod Caerdydd yn un o Ddinasoedd Pencampwr Canopi Gwyrdd y Frenh

14.02.2022

Mae dros 1,700 o goed wedi'u plannu ym Mharc Tremorfa ar gyfer Canopi Gwyrdd y Frenhines (QGC) mewn digwyddiad arbennig i ddathlu statws Caerdydd fel Dinas Bencampwr.

 

A picture containing grass, outdoorDescription automatically generated

Gwahoddwyd dros 150 o wirfoddolwyr o'r gymuned leol i "Blannu Coeden ar gyfer y Jiwbilî", mewn partneriaeth â Trees for Cities a'r QGC, ym Mharc Tremorfa ddydd Sadwrn 12 Chwefror.

Cychwynnodd plant ysgol lleol o Ysgol Gynradd Moorland ac Ysgol Gynradd Gatholig St Alban y plannu cyn y digwyddiad gwirfoddoli, gan blannu 250 o goed ddydd Gwener 11 Chwefror.

Bydd y coed yn helpu i gynyddu gorchudd canopi coed yn sylweddol yn y ddinas ac yn cefnogi cynefinoedd a bwyd ar gyfer bywyd gwyllt lleol.

Mae'r digwyddiad plannu coed hefyd yn cyfrannu at brosiect uchelgeisiol Coed Caerdydd y Cyngor, a fydd yn gweld dros 16,000 o goed yn cael eu plannu ar draws y ddinas eleni, dros 3x yn fwy nag a blannwyd gennym yn 2019.

Cynhaliwyd y digwyddiad gan David Elliott, Prif Weithredwr Trees for Cities,a gwnaeth Arglwydd Raglaw De Morgannwg, Mrs Morfudd Meredith, ymuno ag ef a chyflwyno'r darian Dinas Bencampwr i Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas.

Cynghorwyr lleol, aelodau o'r Adran Parciau a'r gymuned leol o ardal y Sblot.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd a Chynghorydd Sblot, y Cyng. Huw Thomas: "Rwy'n falch iawn bod Caerdydd wedi llwyddo i gyflawni statws Dinas Bencampwr o dan Ganopi Gwyrdd y Frenhines. Mae'n gydnabyddiaeth o'r hyn rydym wedi'i gyflawni dros y blynyddoedd diwethaf a'n cynlluniau gwyrdd ar gyfer y ddinas yn y dyfodol.

"Mae'n glir iawn, o weld nifer y gwirfoddolwyr sydd yma heddiw, pa mor bwysig yw parciau a mannau gwyrdd ffyniannus i bawb; mae hyn wedi dod i'r amlwg dros y blynyddoedd diwethaf pan ddaeth pawb i ddibynnu ar ein mannau cyhoeddus awyr agored. Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hanfodol yn llwyddiant unrhyw ddigwyddiad fel hwn, a hoffwn ddiolch i bawb am eu cyfraniad enfawr heddiw, yn enwedig drwy roi o'u hamser ar ddiwrnod gêm y Chwe Gwlad. Mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr.

"Bydd y coed newydd hyn yn cynyddu gorchudd canopi coed y Sblot o 1700 ac mae'nun o nifer o fentrau a gynhaliwyd gan y cyngor i gefnogi plannu coed. Mae 16,000 o goed ar draws y ddinas yn swm trawiadol a bydd yn dod â manteision enfawr - gan hybu bioamrywiaeth, gwella ansawdd aer a chael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles ein trigolion a'n hymwelwyr.

"Mae heddiw wedi bod yn enghraifft wych o sut y gallwn wneud gwahaniaeth mawr, gan greu dinas werddach, hapusach ac iachach i bawb ei mwynhau, tra'n cymryd camau breision i fynd i'r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd."

Dywedodd David Elliott, Prif Weithredwr Trees for Cities: "Rydym yn falch iawn o ffurfio partneriaeth â Chanopi Gwyrdd y Frenhines a Chyngor Dinas Caerdydd i ddod â manteision amrywiol coed trefol i gymunedau lleol yng Nghaerdydd. Edrychwn ymlaen at weithio ochr yn ochr â thrigolion lleol sy'n torchi llewys i helpu'r ddinas fwyaf yng Nghymru i gyrraedd ei tharged o orchudd 25% ledled y ddinas dros y deng mlynedd nesaf!"

 

Drwy'r bartneriaeth, rydym yn annog pobl leol i ddod at ei gilydd i blannu coeden ar gyfer y jiwbilî fel etifeddiaeth i wasanaeth y frenhines, gan hefyd greu gwyrddni trefol fel rhan o fenter Coed Caerdydd i wneud Caerdydd yn lle gwyrddach ac iachach i fyw ynddo!"

Mae Trees for Cities hefyd yn gweithio gyda deg ysgol leol yng Nghaerdydd i gysylltu pobl ifanc â natur i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o blanwyr coed trefol.

Mae Strategaeth Un Blaned y Cyngor yn cynnwys nod o gynyddu'r gorchudd coed o 18.9% i 25% erbyn 2030. Er mwyn gwneud hyn, mae Cyngor Caerdydd wedi sefydlu rhaglen plannu coed hirdymor ar gyfer y ddinas o'r enw Coed Caerdydd. 

Yn ogystal â chynyddu gorchudd canopi Caerdydd, mae Coed Caerdydd hefyd am ysbrydoli trigolion drwy waith cymunedol i ddiogelu coed a chodi ymwybyddiaeth o'u pwysigrwydd. Dysgwch fwy yma:  www.outdoorcardiff.com/cy/bioamrywiaeth/coed-caerdydd/

Mae Canopi Gwyrdd y Frenhines yn fenter unigryw sy'n gwahodd pobl ledled y Deyrnas Unedig i "Blannu Coeden ar gyfer y Jiwbilî". Mae statws Dinas Bencampwr yn cydnabod yr holl waith y mae partneriaid wedi bod yn ei wneud ar draws y ddinas-ranbarth i blannu hyd yn oed mwy o goed lle byddant yn dod â'r budd mwyaf i'n cymunedau a'n hamgylchedd.

Gwybodaeth ychwanegol

  • Mae gorchudd canopi coed Caerdydd yn tua 2,658 hectar.
  • Yn ogystal, mae'r cyngor yn berchen ar 869 hectar o goetir.
  • Mae cyngor y ddinas yn berchen ar tua 1.4 miliwn o goed unigol. Mae hyn yn cynnwys coed mewn parciau a mannau agored, ar ymylon priffyrdd, ar ystadau tai, ar dir ysgolion, ac o amgylch cyfleusterau cymunedol.
  • Bydd Cyngor Caerdydd yn plannu 839 hectar o goed newydd erbyn 2030.
  • Plannwyd 371 o goed newydd rhwng Ebrill 2019 ac Ebrill 2021
  • Y tymor plannu hwn, mae Cyngor Caerdydd yn bwriadu plannu mwy na 16,000 o goed, gyda chefnogaeth ei wardeiniaid coed a gwirfoddolwyr cymunedol. 
  • Yn ystod Wythnos Genedlaethol y Coed, helpodd wardeiniaid coed Caerdydd, gwirfoddolwyr amgylcheddol a grwpiau corfforaethol i blannu dros 400 o goed bach ymMharc Celtic, Yr Eglwys Newydd; Gerddi Kitchener, Glan-yr-afon aPharc y Pentre,Rhiwbeina.
  • Mae Strategaeth Un Blaned Cyngor Caerdydd yn cynnwys nod o gynyddu'r gorchudd coed o 18.9% i 25% erbyn 2030. Er mwyn gwneud hyn, mae Cyngor Caerdydd wedi sefydlu rhaglen plannu coed hirdymor ar gyfer y ddinas o'r enw Coed Caerdydd.  Darllenwch fwy am Coed Caerdydd yma:www.outdoorcardiff.com/cy/bioamrywiaeth/coed-caerdydd/

 

Darllenwch fwy yma: