Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 11 Chwefror 2022 - Rhifyn Arbennig ar Addysg

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: Estyn yn canmol Gwasanaethau Addysg Caerdydd; gwaith adeiladu ar adeilad newydd Ysgol Uwchradd Fitzalan yn cyrraedd uchelfannau newydd; achosion COVID-19 a adroddwyd yn ysgolion Caerdydd yn ystod y saith diwrnod diwethaf. Hefyd, cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; a nifer achosion a phrofion Caerdydd.

 

Estyn yn canmol Gwasanaethau Addysg Caerdydd

Mae safon yr addysg y mae plant a phobl ifanc yn ei chael yn ysgolion Caerdydd yn parhau i wella o flwyddyn i flwyddyn ac - mewn sawl achos - ymhlith y gorau a gynigir yng Nghymru, yn ôl gwybodaeth a gyhoeddwyd yn adroddiad diweddaraf Estyn (Arolygiaeth Addysg Cymru).

Mae'r adroddiad, a gyhoeddwyd gan Estyn heddiw, yn tynnu sylw at y gwelliannau sylweddol a nodwyd gan dimau arolygu, ac yn canmol gwaith Cyngor Caerdydd a'i arweinyddiaeth wleidyddol am sbarduno newid ac ymdrin ag effeithiau'r pan demig ar y system addysg.

Dywedodd Estyn:

  • Mae uwch arweinwyr yn rhannu gweledigaeth feiddgar ac uchelgeisiol ar gyfer pob dysgwr, y maent yn ei chyfleu yn glir;
  • Mae'r cymorth a gynigir i bobl ifanc a'u teuluoedd yn amlwg iawn;
  • Mae arweinydd y cyngor, aelod cabinet a phrif weithredwr yn gosod disgwyliadau uchel ar gyfer swyddogion, ysgolion a darparwyr eraill;
  • Mae gan arweinwyr ysgolion a lleoliadau barch mawr at y cymorth a gânt gan y Cyngor;
  • Mae dyfarniadau rhagorol ar gyfer safonau mewn ysgolion uwchradd yn uwch na'r rhai yn genedlaethol;
  • Yn gyffredinol, mae deilliannau ar gyfer disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim wedi bod yn uwch na'r un grŵp yn genedlaethol.
  • Mae cyfran y disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim yn cyflawni graddau 5A/A* yn arbennig o uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol;
  • Mae'r Cyngor wedi gwneud cynnydd da o ran sicrhau bod yr ysgolion priodol, o'r math priodol ac yn y lleoedd priodol ar waith i ddiwallu anghenion eu dysgwyr;
  • Mae gwasanaeth ieuenctid Caerdydd yn cynnig darpariaeth o safon uchel mewn ardaloedd â blaenoriaeth yn y ddinas; ac
  • Roedd uwch swyddogion addysg ac iechyd a diogelwch yn trefnu eu gwaith yn effeithiol drwy gydol y pandemig.

 

Mae Estyn wedi gofyn i'r cyngor baratoi tair astudiaeth achos ar y gwaith arloesol y mae wedi'i wneud yn gweithio gyda busnesau i wella cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc (Addewid Caerdydd); ar ei gefnogaeth i blant ceiswyr lloches; a sut mae wedi mynd ati i drawsnewid gwaith ieuenctid.

Caiff yr astudiaethau achos eu defnyddio fel enghreifftiau o arfer da ar wefan Estyn.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae addysg yng Nghaerdydd wedi datblygu llawer dros y 10 mlynedd diwethaf. Pan gydiodd y weinyddiaeth hon yn yr awenau yn 2012 roedd gwasanaethau addysg yn y ddinas yn wan iawn ac mewn perygl o fod yn destun mesurau arbennig. Roeddem yn benderfynol o flaenoriaethu addysg a dyfodol ein pobl ifanc ac mae'n wych gweld bod y gwaith caled, y penderfyniad a'r arweinyddiaeth i wneud yn well yn cynhyrchu'r canlyniadau y mae ein plant a'n pobl ifanc yn eu haeddu. Mae addysg yng Nghaerdydd wedi gwella flwyddyn ar ôl blwyddyn o dan y weinyddiaeth hon.  Rwyf wrth fy modd bod Estyn wedi cydnabod yr ymdrechion aruthrol a wnaed yn gyffredinol i sicrhau bod cynnydd a gwelliannau wedi parhau, yn enwedig dros ddwy flynedd ddiwethaf y pandemig."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28470.html

 

Gwaith adeiladu ar adeilad newydd Ysgol Uwchradd Fitzalan yn cyrraedd uchelfannau newydd

Mae cartref newydd sbon Ysgol Uwchradd Fitzalan wedi cyrraedd carreg filltir arall, wrth i'r gwaith adeiladu gyrraedd y pwynt uchaf yn adeilad newydd yr ysgol yn Lecwydd.

Wedi'i ariannu ar y cyd gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, y cynllun gwerth £64 miliwn yw'r diweddaraf yn y ddinas i'w gyflwyno dan y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.

I nodi'r garreg filltir, roedd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas ac Aelod Cabinet Caerdydd dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry, ar safle'r ysgol newydd yng nghwmni Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles, AoS.

Ymhlith y gwesteion eraill oedd Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Uwchradd Fitzalan Debbie Morgan, disgyblion hŷn Ysgol Uwchradd Fitzalan Eshaan Rajesh a Maya Felani, Llysgenhadon Disgyblion yr Ysgol Newydd Sasha McGonigle a Wasif Mahmood, a Jason Taylor, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Kier, y contractwr a ddewiswyd i adeiladu'r ysgol newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "EinRhaglen Cymunedau Dysgu CynaliadwyBand B, gwerth £284m, yw'r buddsoddiad unigol mwyaf mewn ysgolion y mae Caerdydd erioed wedi'i weld ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae tair ysgol uwchradd newydd o'r radd flaenaf wedi'u darparu.

"Mae Ysgol Uwchradd Fitzalan ar fin dilyn yr un llwyddiant ac rwy'n falch o gael gweld yn uniongyrchol, y cynnydd a wnaed ar y safle er gwaethaf heriau'r 18 mis diwethaf. 

"Mae ein hymrwymiad i barhau i fuddsoddi mewn ysgolion ac addysg ar draws y ddinas yn parhau i fod yn flaenoriaeth, gan roi mynediad i bobl ifanc at addysg dda, cyfleusterau modern ac amgylcheddau dysgu o safon fel y gallant ffynnu a gwireddu eu potensial."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28476.html

 

Achosion COVID-19 a adroddwyd yn ysgolion Caerdydd yn ystod y 7 diwrnod diwethaf (04/02/22 i 10/02/22)

Cyfanswm y nifer a adroddwyd = 517

  • Disgyblion a myfyrwyr = 436
  • Staff, gan gynnwys staff addysgu = 81

 

Yn seiliedig ar y ffigurau diweddaraf, mae ychydig o dan 56,000 o ddisgyblion a myfyrwyr wedi'u cofrestru yn ysgolion Caerdydd.

Cyfanswm nifer staff ysgolion Caerdydd, heb gynnwys staff achlysurol, yw ychydig dros 7,300.

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 08 Chwefror 2022

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  1,074,604  (Dos 1: 401,066 Dos 2:  374,908 DOS 3: 8,036 Dosau atgyfnertha: 290,483)

Data Cohort - Diweddarwyd ddiwethaf 07 Chwefror 2022

 

  • 80 a throsodd: 22,248 / 95% (Dos 1) 22,089 / 94.3% (Dos 2 a 3*) 20,516 / 92.9% (Dosau atgyfnertha)
  • 75-79: 16,782 / 96.5% (Dos 1) 16,669 / 95.9% (Dos 2 a 3*) 15,456 / 92.7% (Dosau atgyfnertha)
  • 70-74: 21,153 / 95.9% (Dos 1) 21,025 / 95.3% (Dos 2 a 3*) 19,588 / 93.2% (Dosau atgyfnertha)
  • 65-69: 22,740 / 94.2% (Dos 1) 22,498 / 93.2% (Dos 2 a 3*) 20,741 / 92.2% (Dosau atgyfnertha)
  • 60-64: 27,020 / 92.2% (Dos 1) 26,660 / 91% (Dos 2 a 3*) 24,311 / 91.2% (Dosau atgyfnertha)
  • 55-59: 29,697 / 90.2% (Dos 1) 29,235 / 88.8% (Dos 2 a 3*) 26,357 / 90.2% (Dosau atgyfnertha)
  • 50-54: 29,052 / 87.9% (Dos 1) 28,451 / 86.1% (Dos 2 a 3*) 25,059 / 88.1% (Dosau atgyfnertha)
  • 40-49: 56,558 / 81.9% (Dos 1) 54,801 / 79.3% (Dos 2 a 3*) 45,490 / 83% (Dosau atgyfnertha)
  • 30-39: 62,245 / 77.1% (Dos 1) 59,645 / 72.7% (Dos 2 a 3*) 42,989 / 72.1% (Dosau atgyfnertha)
  • 18-29: 82,296 / 79.2% (Dos 1) 75,136 / 71.4% (2nd& 3rd*Dose) 46,235 / 61.5% (Dosau atgyfnertha)
  • 16-17: 4,021 / 70.9% (Dos 1) 2,296 / 51.6% (Dos 2 a 3*) 49 / 1.7% (Dosau atgyfnertha)
  • 13-15: 13,758 / 56.5% (Dos 1) 7,954 / 32.7% (Dos 2 a 3*)

 

  • Yn ddifrifol imiwno-ataliedig: 6,896 / 98% (Dos 1) 6,181 / 87.9% (Dos 2 a 3*) 18 / 0.3% (Dosau atgyfnertha)
  • Preswylwyr cartrefi gofal: 1,997 / 98.6% (Dos 1) 1,981 / 97.8% (Dos 2 a 3*) 1,829 / 92.3% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr cartrefi gofal: 3,694 / 99% (Dos 1) 3,642 / 97.6% (Dos 2 a 3*) 2,904 / 79.7% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr Gofal Iechyd: 27,163 / 98.2% (Dos 1) 26,901 / 97.2% (Dos 2 a 3*) 24,180 / 89.9% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr Gofal Cymdeithasol**: 8,155 / 82.2% (Dosau atgyfnertha)
  • Yn glinigol agored i niwed: 10,787 / 94.7% (Dos 1) 10,626 / 93.3% (Dos 2 a 3*) 6,120 / 57.6% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 46,310 / 90.8% (Dos 1) 44,996 / 88.2% (Dos 2 a 3*) 38,168 / 84.8% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol(12-15): 649 / 62.5% (Dos 1) 464 / 44.7% (Dos 2 a 3*) 41 / 8.8% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol(5-11): 445 / 32.3% (Dos 1)

*Y rhai sydd wedi derbyn dau ddos o frechlyn COVID-19, ac eithrio'r rhai sy'n ddifrifol imiwn ataliedig yr argymhellir eu bod yn cael tri dos.

**­Data gymerwyd o ffynhonnell amgen.

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (31 Ionawr - 06 Chwefror 2022)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

10 Chwefror 2022

Achosion: 1,757

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 478.9 (Cymru: 400.3 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 4,888

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,332.2

Cyfran bositif: 35.9% (Cymru: 31.2% cyfran bositif)