9/2/2022
Dewiswyd dau ddisgybl Blwyddyn 11o Ysgol Uwchradd Willows i gynrychioli'r DU yn Expo'r Byd yn Dubai fis nesaf.
Sicrhaodd Marzooq Subhani a Crystal Tran eu lleoedd drwy ennill cystadleuaeth y Dubai Expo Factor y llynedd, cystadleuaeth ddadlau genedlaethol lle'r oedd pob un ohonynt yn trafod, cyflwyno a chynnig yr hyn sy'n gwneud Prydain yn rhyfeddol, yn erbyn myfyrwyr eraill o bob rhan o'r DU.
Mae Expo'r Byd yn ddathliad byd-eang o ddiwylliant, cydweithredu ac arloesi lle mae 190 o wledydd yn dod at ei gilydd i ddangos sut y gallwn, gyda'n gilydd, adeiladu byd gwell i bawb. Cynhelir Diwrnod Cenedlaethol y DU ar 10 Chwefror a bydd yn gweld y DU yn cymryd drosodd yr holl safle Expo am ddiwrnod.
Fel dau o'r pedwar enillydd, bydd Marzooq a Crystal yn helpu i lunio agenda'r diwrnod ac yn arwain y sgwrs yn y cynulliad byd-eang mwyaf erioed. Byddant yn ymwneud â thrafod materion sy'n bwysig i bob un ohonom gan gynnwys cynaliadwyedd, addysg, cyfle, technoleg a chreadigrwydd.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae hwn yn gyflawniad gwych iMarzooq a Crystalsydd wedi cael eu dewis i gynrychioli ein gwlad ar lwyfan byd-eang.
"Mae Ysgol Uwchradd Willows yn un o nifer o ysgolion sydd wedi'u cyflwynoi lwyfan DebateMate gan Addewid Caerdydd. Mae hyn wedi dangos ei fod yn helpu i hyrwyddotrafod, gan roi'r hyder i ddisgyblion trafod a chymryd rhan mewn cystadlaethau a rhoi cyfleoedd, profiad gwerthfawr a sgiliau trosglwyddadwy iddynt ar gyfer eu dyfodol.
"Mae Addewid Caerdydd yn gweithio i gysylltu cyfleoedd o ddiwydiant ag ysgolion yng Nghaerdydd, gan helpu i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen yn ein pobl ifanc sy'n gysylltiedig â'n sectorau twf."
Dywedodd Chris Norman, Pennaeth Ysgol Uwchradd Willows: "Rwyf mor falch o Crystal a Marzooq, maent yn ddisgyblion anhygoel, yn dyst i'r disgwyliadau uchel sydd gennym ar gyfer ein disgyblion yn Ysgol Uwchradd Willows a'n hymgyrch i wella llythrennedd a llafaredd ar draws yr ysgol."
"Maen nhw wedi gweithio'n galed iawn ac yn llawn haeddu'r wobr wych hon. Hoffwn ddiolch i Addewid Caerdydd am ein cyflwyno i DebateMate, edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda nhw yn y dyfodol."
Cyflwynodd Addewid Caerdydd DebateMate i ysgolion i ddechrau, ar ôl cefnogi trafodaeth rhwng disgyblion o Ysgol Uwchradd Cantonian ac Ysgol Uwchradd Fitzalan ym mis Mehefin 2021. Dyfeisiwyd y digwyddiad gan Dechnoleg Ariannol Wales a'i drefnu mewn partneriaeth â DebateMate, Addewid Caerdydd, tîm Datblygu Economaidd Cyngor Caerdydd a Rhwydwaith Seren.
Gyda chefnogaeth Tîm Datblygu Economaidd (Cyfoethogi Caerdydd), Cyfarwyddiaeth Addysg Cyngor Caerdydd, First Campus a Thechnoleg Ariannol Cymru, bydd Addewid Caerdydd yn cefnogi DebateMate i gyflwyno rhaglen drafod 12 wythnos ar draws 8 ysgol uwchradd yng Nghaerdydd yn ddiweddarach yng ngwanwyn eleni.
I gael gwybod mwy am Ddiwrnod Cenedlaethol y DU yn Expo Byd Dubai, ewch i:https://www.events.great.gov.uk/website/3127/