9.2.22
Mae safon yr addysg y mae plant a phobl ifanc yn ei chael yn ysgolion Caerdydd yn parhau i wella o flwyddyn i flwyddyn ac - mewn sawl achos - ymhlith y gorau a gynigir yng Nghymru, yn ôl gwybodaeth a gyhoeddwyd yn adroddiad diweddaraf Estyn (Arolygiaeth Addysg Cymru).
Mae'r adroddiad, a gyhoeddwyd gan Estyn heddiwhttps://www.estyn.llyw.cymru/system/files/2022-02/Adroddiad%20arolygiad%20-%20Cyngor%20Caerdydd%202022_0.pdf, yn tynnu sylw at y gwelliannau sylweddol a nodwyd gan dimau arolygu, ac yn canmol gwaith Cyngor Caerdydd a'i arweinyddiaeth wleidyddol am sbarduno newid ac ymdrin ag effeithiau'r pan demig ar y system addysg.
Dywedodd Estyn:
Mae Estyn wedi gofyn i'r cyngor baratoi tair astudiaeth achos ar y gwaith arloesol y mae wedi'i wneud yn gweithio gyda busnesau i wella cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc (Addewid Caerdydd); ar ei gefnogaeth i blant ceiswyr lloches; a sut mae wedi mynd ati i drawsnewid gwaith ieuenctid. Caiff yr astudiaethau achos eu defnyddio fel enghreifftiau o arfer da ar wefan Estyn.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae addysg yng Nghaerdydd wedi datblygu llawer dros y 10 mlynedd diwethaf. Pan gydiodd y weinyddiaeth hon yn yr awenau yn 2012 roedd gwasanaethau addysg yn y ddinas yn wan iawn ac mewn perygl o fod yn destun mesurau arbennig. Roeddem yn benderfynol o flaenoriaethu addysg a dyfodol ein pobl ifanc ac mae'n wych gweld bod y gwaith caled, y penderfyniad a'r arweinyddiaeth i wneud yn well yn cynhyrchu'r canlyniadau y mae ein plant a'n pobl ifanc yn eu haeddu. Mae addysg yng Nghaerdydd wedi gwella flwyddyn ar ôl blwyddyn o dan y weinyddiaeth hon. Rwyf wrth fy modd bod Estyn wedi cydnabod yr ymdrechion aruthrol a wnaed yn gyffredinol i sicrhau bod cynnydd a gwelliannau wedi parhau, yn enwedig dros ddwy flynedd ddiwethaf y pandemig.
"Mewn perthynas â'n hymrwymiad o £284m i adeiladu ysgolion newydd ac ysgolion gwell dros y pum mlynedd nesaf yn ogystal â'n cyllideb sylweddol a ddirprwyir i ysgolion, mae'r adroddiad hwn yn newyddion da i Gaerdydd, yn newyddion da i rieni ac yn newyddion gwych i'n plant a'n pobl ifanc. Wrth gwrs, bydd mwy i'w wneud bob amser a ffyrdd y gallwn wella. Rydym wedi nodi pwyntiau Estyn o ran sut y gallem gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar addysg cyfrwng Cymraeg ymhellach ac rydym eisoes yn gweithio ar gynlluniau i hwyluso twf yn y maes hwn.
"Roedd yn arbennig o braf gweld Estyn yn nodi'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud i ddatblygu partneriaethau gyda busnesau a sefydliadau allanol eraill drwy Addewid Caerdydd, sydd wedi'i gynllunio i helpu pobl ifanc i gael gwaith, ac roedd hefyd yn wych gweld y gwaith a wnawn gyda phlant ceiswyr lloches a'r gwaith gwych y mae ein gwasanaethau ieuenctid yn ei wneud, i gyd yn cael eu cydnabod yn llawn. Rydym yn gwybod bod addysg yn bwysig i bawb ac rydym yn benderfynol bod plant, pobl ifanc a theuluoedd Caerdydd yn cael y cymorth a'r cyfleoedd gorau sydd ar gael iddynt."
Dwedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Mae addysg wastad wedi bod yn flaenoriaeth i'r weinyddiaeth hon. Rydym yn gwybod y bydd gwella safonau ar draws y ddinas yn gwella bywydau ein dinasyddion. Mae gwarantu gwell addysg i bawb yn helpu i warantu dyfodol gwell i bawb. Bydd yn gwneud mwy i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a sicrhau bod ein plant yn cael y dechrau gorau a'r cyfleoedd gorau mewn bywyd. Rwy'n falch iawn bod Estyn wedi cydnabod y cynnydd rydym yn parhau i'w wneud, ac yn arbennig yr arweinyddiaeth gref a'r weledigaeth rydym wedi'u gosod. Hoffwn ddiolch i bawb sy'n ymwneud â'r sector addysg am y gwaith gwych y maent yn ei wneud i wthio safonau yng Nghaerdydd yn uwch byth."
Edrychodd Estyn ar dri phrif faes a dadansoddwyd adborth gan arweinwyr ysgolion, swyddogion y Cyngor, athrawon, disgyblion a'u teuluoedd;
1) Deilliannau i ddysgwyr;Nododd arolygwyr bod ysgolion Caerdydd wedi cael canlyniadau cryf yn dilyn arolygiadau Estyn rhwng 2017 a 2020 ac yng Nghyfnod Allweddol 4, mae'r canlyniadau'n uwch na'r disgwyliadau yn y rhan fwyaf o ysgolion. Mae deilliannau ar gyfer disgyblion sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim yn uwch ar y cyfan na'r un grŵp yn genedlaethol ac mae lefelau presenoldeb yn dda.
Nodwyd hefyd bod ystod dda o weithgareddau wedi'u darparu i gefnogi lles pobl ifanc yn ystod y pandemig, gan gynnwys darpariaeth y Gwasanaeth Ieuenctid a'r rhaglen o ddigwyddiadau ledled y ddinas a gyflwynwyd fel rhan o Wên o Haf.
2) Gwasanaethau Addysg;Mae Estynyn cydnabod y berthynas gref sydd gan yr Awdurdod Lleol â'i ysgolion. Mae ffocws ar ymddiriedaeth a lles ac mae arweinwyr ysgolion yn parchu'r Cyngor yn fawr iawn.
Nodir y prosesau cadarn sydd ar waith i gefnogi ysgolion sy'n destun pryder, a'r cynnydd da sy'n cael ei wneud i gyflawni'r addewid i ddarparu amgylcheddau dysgu o ansawdd uchel.
Menter gan y Cyngor yw Addewid Caerdydd sy'n dwyn ynghyd y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion, diwydiant a darparwyr addysg, i godi ymwybyddiaeth am ehangder y cyfleoedd gyrfa sydd ar gael ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, o ran helpu i ddatblygu sgiliau plant a phobl ifanc gyda golwg ar saernïo twf y dyfodol ar gyfer swyddi'r dyfodol. Amlygwyd ei waith o ran sefydlu rhwydweithiau dinesig i gefnogi ymgysylltiad a chynnydd pobl ifanc, a chanfu arolygwyr fod addysg a chefnogaeth effeithiol i grwpiau agored i niwed a lleiafrifol, ac i bobl ifanc o ardaloedd difreintiedig yn y ddinas.
3) Arweinyddiaeth a Rheoli;Mae'r adroddiad yn nodi bod uchelgeisiau corfforaethol yn llywio gwaith y tîm addysg a bod ymrwymiad cryf i hunanarfarnu a bod diogelu yn flaenoriaeth uchel.
Lansiwyd Caerdydd 2030 yn 2019 ac mae wedi'i adeiladu ar y cynnydd a'r cyflawniadau a sicrhawyd ar draws system addysg y ddinas dros y pum mlynedd flaenorol.
Roedd yn cwmpasu dwy brif thema: Cyfrifoldeb a rennir dros addysg a dysgu yn y ddinas. Cyfranogiad ystyrlon gan blant a phobl ifanc. Mae'n bwriadu parhau â'r gwelliannau a wnaed yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda chwmpas ehangach a mwy o uchelgais ar gyfer dysgu yng Nghaerdydd ar gyfer y dyfodol. Amlinellodd ffocws clir ar ymgorffori hawliau plant a rhoi lles plant a phobl ifanc wrth wraidd addysg yn y ddinas.
Cynhaliodd Estyn arolygiad llawn o Wasanaethau Addysg Caerdydd ddiwethaf yn 2011.
Bydd y Cyngor yn ceisio adeiladu ar gynnydd a bydd yn mynd i'r afael â'r argymhellion a nodwyd yn ystod y broses arolygu gyda'r nod o wneud gwelliannau i wasanaethau cwnsela i blant a phobl ifanc, safon hunanarfarnu ar draws y gyfarwyddiaeth, sicrhau bod gwaith y consortiwm rhanbarthol yn canolbwyntio'n briodol ar flaenoriaethau strategol Caerdydd a sicrhau arweinyddiaeth strategol a throsolwg clir o ddatblygiad addysg cyfrwng Cymraeg.
Nodiadau allweddol o adroddiad Estyn:
Rhwng mis Medi 2017 a mis Mawrth 2020, arolygodd Estyn saith ysgol uwchradd, 43 ysgol gynradd a dwy ysgol arbennig. Yn ogystal, bu'n arolygu dau leoliad nas cynhelir. Barnodd bod y safonau'n rhagorol mewn dwy ysgol uwchradd, yn dda mewn dwy arall ac yn ddigonol mewn tair. Roedd o'r farn bod safonau'n dda mewn llawer o ysgolion cynradd ac yn rhagorol mewn pedair. Mewn pum ysgol arall, barnwyd bod safonau'n ddigonol. Roedd y safonau mewn ysgolion arbennig a gynhelir yn dda mewn un ysgol ac yn ddigonol yn y llall. Mewn lleoliadau nas cynhelir, roedd safonau'n dda mewn un. Yn y llall nid oedd digon o blant i wneud sylwadau.
Mae dyfarniadau rhagorol o ran y safonau mewn ysgolion uwchradd yn uwch na'r rhai yn genedlaethol ac mewn ysgolion cynradd yn unol ag ysgolion eraill ledled Cymru. Ni dderbyniodd yr un ysgol arbennig ddyfarniad rhagorol o'i gymharu ag ychydig o dan draean yn genedlaethol.
Yn gyffredinol, mae deilliannau ar gyfer disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim (PYADD) wedi bod yn uwch na'r un grŵp yn genedlaethol. Mae cyfran y disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim yn cyflawni graddau 5A/A* yn arbennig o uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol
Y Pandemig
Yn ystod cyfnod y pandemig, atgyfnerthodd yr awdurdod lleol ei berthynas â'i ysgolion yn sylweddol. Drwy gydol y cyfnod hwn, creodd trefniadau cyfathrebu gwell a ffocws cryf ar les penaethiaid ymdeimlad o bartneriaeth a chyd-ymddiriedaeth a chefnogaeth.
Ysgolion yr 21ainGanrif
Mae'r awdurdod lleol wedi buddsoddi'n dda mewn amrywiaeth o brosiectau cyfalaf yn ystod cam cyntaf Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru rhwng 2014 a 2019. Mae hyn wedi galluogi'r Cyngor i wneud cynnydd da o ran sicrhau bod yr ysgolion priodol, o'r math priodol ac yn y lleoedd priodol ar waith i ddiwallu anghenion eu dysgwyr; Mae'r awdurdod lleol wedi cynyddu'r buddsoddiad arfaethedig i dros £284miliwn ar gyfer y cyfnod o bum mlynedd o 2019.
Addewid Caerdydd
Mae Addewid Caerdydd wedi bod yn sbardun pwerus i ddenu buddsoddiad gan fusnesau a diwydiant mewn cyfleoedd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth i bobl ifanc. Mae nodau'r strategaeth hirdymor hon wedi esblygu'n briodol mewn ymateb i flaenoriaethau addysgol cenedlaethol a heriau'r pandemig.
Gwasanaeth Ieuenctid
Mae gwasanaeth ieuenctid Caerdydd yn cynnig darpariaeth o safon uchel mewn ardaloedd â blaenoriaeth yn y ddinas sy'n cynnwys cymysgedd o fynediad agored a gwaith wedi'i dargedu. Mae pobl ifanc, yn yr ardaloedd a wasanaethir, wrth wraidd y gwaith o ddatblygu gwasanaethau.
Mae gweithwyr ieuenctid yn hyblyg, yn ddyfeisgar ac yn gymwys iawn ar gyfer yr amrywiaeth eang o rolau y maent yn eu cyflawni. Mae gwaith partneriaeth cryf a sefydledig ar waith megis gyda'r gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid, y gwasanaethau cymdeithasol, a thrwy ddatblygu grwpiau gweithredu ieuenctid. Mae pobl ifanc o ardaloedd difreintiedig yn y ddinas yn cael eu targedu'n effeithiol.
Diogelu
Mae dealltwriaeth gorfforaethol gref bod diogelu yn bryder i bawb, ac adlewyrchir hyn ym mholisïau ac arferion yr awdurdod lleol.
Ffeithiau Caerdydd
Dros gyfartaledd o dair blynedd, mae 24.5% o ddisgyblion 5 i 15 oed yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd ychydig yn uwch na chyfartaledd Cymru, sef 20.4%. Yn unol â bron pob awdurdod arall yng Nghymru, mae canran y disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim wedi cynyddu dros y tair blynedd diwethaf.
Mae 11.8% o ddisgyblion 5 oed neu hŷn yn rhugl yn y Gymraeg, sy'n sylweddol is na chyfartaledd Cymru, sef 16.2%
Mae 35.1% o ddisgyblion 5 oed neu hŷn o leiafrifoedd ethnig, sy'n sylweddol uwch na chyfartaledd Cymru, sef 12.2%
Mae gan 16.6% o ddisgyblion anghenion addysgol arbennig, sydd ychydig yn is na chyfartaledd Cymru, sef 19.5%
Roedd 132 o blant ym mhob 10,000 yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol ar 31 Mawrth 2021, sy'n is na chyfartaledd Cymru, sef 115 o blant ym mhob 10,000.