Back
Daw’r Gwanwyn ar Ddwy Olwyn

08/02/22


Mae ymgyrch Daw'r Gwanwyn ar Ddwy Olwyn - ymgyrch a gynlluniwyd i annog mwy o bobl i feicio a pharatoi eu beiciau ar gyfer y ffordd erbyn y Gwanwyn - yn dod i Gaerdydd.

Bydd y digwyddiadau sy'n addas i deuluoedd, a redir gan Gyngor Caerdydd a'i bartneriaid, yn cynnwys adloniant, cerddoriaeth fyw a rhoddion ar ffurf cit beicio.  Bydd modd i drigolion gael eu beiciau wedi'u gwirio gan weithwyr proffesiynol, cael mân atgyweiriadau wedi'u gwneud, a chael tagiau diogelwch gan Heddlu De Cymru mewn pedwar digwyddiad am ddim a gynhelir yn Grangetown, Treganna, Sblot a chanol y ddinas.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Mae mwy a mwy o bobl yn beicio yng Nghaerdydd a chyda'r Gwanwyn ar y gorwel mae'n amser da i bobl fynd i nôl eu hen feiciau o'r garej.

Yn ystod y pandemig mae'r cyngor wedi bod yn gweithio'n galed yn adeiladu cyfres o lwybrau beicio ar wahân newydd sbon a gwneud gwelliannau i'r seilwaith, felly rydym am i bobl ddod draw i baratoi eu beiciau a gweld beth sydd ar gael i feicwyr ledled y ddinas y dyddiau hyn.

"Bydd y rhain yn ddigwyddiadau hwyliog i'r teulu cyfan gyda llawer o adloniant a rhoddion ac, yn ogystal â sicrhau bod eich beic yn ddiogel, byddwch yn gallu dysgu am yr holl lwybrau beicio newydd, sut maen nhw'n gweithio a gweld mapiau o'r holl lwybrau."

Cynhelir y pedwar digwyddiad yn y lleoliadau canlynol rhwng 11am a 3pm:

  • Dydd Sadwrn, Chwefror 12 - Gerddi'r Faenor
  • Dydd Sadwrn, Chwefror 19 - Parc Fictoria.                   
  • Dydd Sadwrn, Chwefror 26 - STAR Hyb.                       
  • Dydd Sadwrn, Mawrth 5 - Castell Caerdydd 

Cynhelir amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys y canlynol: 

  • Dr Bike yn cynnig gwiriadau cynnal a chadw am ddim a Gweithdy Beicio Caerdydd  yn gwneud mân atgyweiriadau
  • Heddlu De Cymru yn rhoi marciau diogelwch am ddim ar feiciau
  • Pedal Emporium yn cynnig hwyl a gemau sy'n cael eu pweru gan feiciau gan gynnwys peiriant swigod sy'n cael ei bweru gan feic. Po gyflymaf y byddwch yn beicio po fwyaf o swigod y byddwch yn eu creu.
  • Bydd cerddoriaeth fyw gan Wonderbrass ym Mhafiliwn Grangetown a Chastell Caerdydd, Capra Mamei ym Mharc Fictoria.
  •  Bydd Beiciau OVO yn cefnogi'r digwyddiad drwy gynnig 30 munud o feicio am ddim i’r orsaf agosaf ar gyfer pob diwrnod a sicrhau bod y gorsafoedd yn cynnwys cyflenwad da o feiciau. I fanteisio ar y cynnig hwn, rhaid i feicwyr ddychwelyd eu beiciau OVO i’r gorsafoedd hyn yn ystod amseroedd y digwyddiad i gael 30 munud o feicio am ddim.

Dywedodd y Cynghorydd Wild: "Rydym am greu awyrgylch teuluol go iawn yn y digwyddiadau hyn fel y gall trigolion ddod draw i fwynhau'r gweithgareddau a'r cynigion. Bydd bagiau o nwyddau am ddim hefyd ar gael i'r rhai sy'n cymryd rhan gyda chrysau T wedi'u brandio, gorchuddion sedd, tabiau diogelwch a goleuadau beiciau ar gael."