Back
Gwaith celf i ddathlu Mis Hanes LHDTC+ wedi'i beintio ar Stryd y Castell

07.02.2022

A picture containing road, sky, outdoor, streetDescription automatically generated

 

I ddathlu Mis Hanes LHDTC+ eleni, datgelwyd gwaith celf newydd ar Stryd y Castell, gyda phedair baner balchder wedi'u peintio ar y lôn gerbydau i ddathlu a chofio hanes, bywydau a phrofiadau'r gymuned lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol+ yng Nghaerdydd.

Mae eleni'n nodi 50 mlynedd ers gorymdaith Pride gyntaf y DU ym 1972, sy'n garreg filltir allweddol o ran cydraddoldeb yn y Mudiad Hawliau Hoyw cynnar.

'Celf' yw'r thema eleni, gan archwilio syniadau o fynegiant creadigol er cynnydd gwleidyddol.  Y dewis bennawd yw, 'Mae'r Bwa yn Hir', a gymerwyd o ddyfyniad Dr Martin Luther King Jr, 'Mae bwa'r bydysawd moesol yn hir, ond mae'n gwyro tuag at gyfiawnder'.

Mae'r gwaith celf newydd ar Stryd y Castell yn adeiladu ar chwe lliw traddodiadol y faner balchder wreiddiol i gynnwys streipiau du a brown i gynrychioli cymunedau LHDTC+ croenliw, yn ogystal â phinc, glas golau a gwyn, sy'n cynrychioli'r gymuned drawsryweddol.

Mae'r gwaith celf yn gynrychiolaeth weledol i ddangos cefnogaeth y ddinas i gydraddoldeb ac amrywiaeth ym Mhrifddinas Cymru - nid croesfan i gerddwyr ydyw.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: 

"Ers Chwefror 1af, mae Castell Caerdydd wedi cael ei oleuo â lliwiau'r enfys i nodi dechrau Mis Hanes LHDTC+ eleni. Gan mai celf yw'r thema, roeddem am sicrhau bod y dyluniadau balchder blaengar newydd mor weladwy â phosibl i'r cyhoedd, felly dyma pam eu bod nhw wedi cael eu peintio ar Stryd y Castell, y prif dramwyfa drwy ganol y ddinas.

"Mae Caerdydd yn ddinas amrywiol sydd wedi ymrwymo i sicrhau cymdeithas deg i bawb ac rydym yn falch iawn o hynny. Waeth beth fo'chhil, credoau crefyddol, anabledd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, neu rywedd, mae ein gwasanaethau a'n cefnogaeth ar agor i bawb ac fel cymdeithas mae'n rhaid i ni gofleidio gwahaniaeth a phwysleisio pwysigrwydd cydraddoldeb a chynhwysiant i bawb.Bydd y Cyngor yn parhau i weithio gyda'r gymuned ac eraill i wneud Caerdydd mor ddiogel a chynhwysol â phosibl."