03.02.22
Bydd cam nesaf Gaeaf Llawn Lles Cyngor Caerdydd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn dechrau'n fuan mewn pryd ar gyfer hanner tymor mis Chwefror, a bydd yn rhedeg tan ddiwedd mis Mawrth.
Yn dilyn gŵyl Gwên o Haf y llynedd, a roddodd amrywiaeth o brofiadau a gweithgareddau i filoedd o blant a phobl ifanc Caerdydd, mae'r rhaglen Gaeaf Llawn Lles yn cynnig cyfleoedd a gweithgareddau am ddim i blant 0 i 25 oed ledled y ddinas.
Dechreuodd y Gaeaf Llawn Lles yng Nghaerdydd ym mis Rhagfyr, gan roi'r cyfle i filoedd o deuluoedd fanteisio ar yr holl berfformiadau a digwyddiadau Nadolig byw ledled y ddinas am ddim. Wedi'i gydlynu gan dîm Caerdydd sy'n Dda i Blant y Cyngor, mae cam nesaf y rhaglen yn parhau tan 31 Mawrth.
Mae i'r cam sydd ar ddod o Gaeaf Llawn Lles dair prif elfen:
Mae mwy o fanylion am y rhaglen yn cael eu hychwanegu'n rheolaidd at wefan Caerdydd sy'n Dda i Blant:https://www.caerdyddsynddaiblant.co.uk/
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae'n bwysig parhau i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc ar ôl dwy flynedd o darfu ar eu bywydau. Helpodd Gwên o Haf i ail-ymgysylltu â phlant ar draws y ddinas a'u galluogi i fwynhau pethau unwaith eto. Mae'r Gaeaf Llawn Lles yn adeiladu ar hynny, gan ganolbwyntio ar wella profiadau pobl ifanc drwy gynnig cyfleoedd newydd a gwahanol iddynt a fydd yn helpu i lunio eu diddordebau yn ogystal â'u lles corfforol, meddyliol ac emosiynol."
Nod y rhaglen yw gwella lles plant, pobl ifanc a'u teuluoedd drwy gefnogi lles cymdeithasol, emosiynol, meddyliol a chorfforol cenedlaethau'r dyfodol. Bydd detholiad o fentrau rhyngweithiol, creadigol a chwarae yn y gymuned i blant a phobl ifanc o bob oedran. Bydd y rhain yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau cymdeithasol plant a phobl ifanc ymhellach, i fynegi eu hunain drwy chwarae a gweithgarwch corfforol.
Mae Gaeaf Llawn Lles yn rhan o Adferiad sy'n Dda i Blant Caerdydd ac mae'n cyd-fynd yn agos ag uchelgais y ddinas i ddod yn Ddinas sy'n Dda i Blant a gydnabyddir yn rhyngwladol, fel yr argymhellwyd gan Bwyllgor y DU ar gyfer UNICEF.
Tair elfen cam nesaf y Gaeaf Llawn Lles