Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: treialu cyfleuster ailgylchu dros dro newydd yng ngogledd Caerdydd; cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd.
Treialu cyfleuster ailgylchu dros dro newydd yng ngogledd Caerdydd
Mae cyfleuster ailgylchu symudol newydd yn dod i ogledd Caerdydd. Mae'r cyfleuster dros dro, a fydd ar gael mewn gwahanol leoliadau ar wahanol ddyddiadau, wedi'i gynllunio i helpu preswylwyr i ailgylchu eitemau mwy o faint yn nes at eu cartref.
Bydd y cyfleuster dros dro cyntaf yn agor yn yr hen swyddfeydd treth ym Mharc Tŷ Glas ddydd Sadwrn 5 Mawrthrhwng 9am a 3pm. Bydd yn dychwelyd bob dydd Sadwrn - yn ddibynnol ar alw - am wyth wythnos. Cyhoeddir rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth, a'r lleoliadau, wrth iddynt gael eu hychwanegu, drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol y cyngor.
Gall preswylwyr ollwng eu hailgylchu heb drefnu apwyntiad, ond bydd rhaid iddyn nhw ddangos prawf o'u cyfeiriad a'u bod yn byw yng Nghaerdydd er mwyn defnyddio'r cyfleusterau.
Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, yr Amgylchedd ac Ailgylchu: "Rydym yn awyddus i edrych ar opsiynau a fydd yn ei gwneud yn haws i bobl ailgylchu. Bydd y cyntaf o'r digwyddiadau symudol hyn yn cael eu cynnal yng ngogledd Caerdydd ac os bydd y cynllun yn llwyddiannus, byddwn yn edrych ar sut y gallem ehangu'r gwasanaeth i safleoedd addas eraill ar draws y ddinas."
Bydd preswylwyr yn gallu ailgylchu'r eitemau canlynol yn Nhŷ Glas:
Gan mai cyfleuster dros dro yw hwn, ni ellir ailgylchu rhai eitemau sy'n cael eu hystyried yn 'wastraff peryglus', neu sy'n rhy fawr i'w cludo'n hawdd ar y safle hwn.
Ni ddylai preswylwyr ddod ag eitemau fel y rhain i'r safle dros dro:
Os oes angen i breswylwyr ailgylchu'r math hwn o wastraff, dylent drefnu apwyntiad naill ai yng nghanolfan ailgylchu Ffordd Lamby neu Clos Bessemer.
Yn unol â pholisi'r cyngor ym mhob canolfan ailgylchu, ni dderbynnir gwastraff bagiau du cymysg (cyffredinol) yn y cyfleuster hwn.
Ychwanegodd y Cynghorydd Michael: "O 14 Chwefror, bydd cyfleusterau ailgylchu hefyd yn cael eu darparu mewn pum hyb ledled y ddinas gan gynnwys Grangetown; Llanedern; Llaneirwg, yr Eglwys Newydd a Threlái a Chaerau. Bydd preswylwyr yn gallu ailgylchu llyfrau, CD's a DVD's; offer trydanol bach; Pecynnau Tetra, cetris argraffu a batris cartref yn y canolfannau hyn. Gobeithiwn y bydd y cyfleusterau lleol hyn yn helpu preswylwyr, nad oes ganddynt fynediad i gar, i ailgylchu eu gwastraff ychwanegol nad yw'n cael ei gasglu wrth ymyl y ffordd.
"Os byddant yn llwyddiannus, bydd cyfleusterau tebyg yn cael eu cyflwyno i bob hyb ledled y ddinas. Os ydym i gyd yn gweithio gyda'n gilydd ac yn ailgylchu cymaint o'n gwastraff â phosibl, gallwn barhau i fod y ddinas graidd sydd â'r gyfradd ailgylchu uchaf yn y DU a'n nod yw dod y gorau yn y byd."
Mae'r canolfannau ailgylchu newydd yn rhai dros dro a symudol, felly nid oes angen caniatâd cynllunio na thrwydded amgylcheddol arnynt.
Mae'r cyfleusterau ailgylchu ychwanegol hyn ar gyfer gwastraff cartref yn unig, felly ni chaniateir faniau ar y safle.
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 01 Chwefror 2022
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 1,071,034 (Dos 1: 400,563 Dos 2: 373,953 DOS 3: 7,991 Dosau atgyfnertha: 288,417)
Data Cohort - Diweddarwyd ddiwethaf 31 Ionawr 2022
*Y rhai sydd wedi derbyn dau ddos o frechlyn COVID-19, ac eithrio'r rhai sy'n ddifrifol imiwn ataliedig yr argymhellir eu bod yn cael tri dos.
**Data gymerwyd o ffynhonnell amgen.
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (21 Ionawr - 27 Ionawr 2022)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
31 Ionawr 2022
Achosion: 2,390
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 651.4 (Cymru: 553.0 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 6,145
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,674.8
Cyfran bositif: 38.9% (Cymru: 35.1% cyfran bositif)