Back
Treialu cyfleuster ailgylchu dros dro newydd yng ngogledd Caerdydd

01/02/22


Mae cyfleuster ailgylchu symudol newydd yn dod i ogledd Caerdydd.

Mae'r cyfleuster dros dro, a fydd ar gael mewn gwahanol leoliadau ar wahanol ddyddiadau, wedi'i gynllunio i helpu preswylwyr i ailgylchu eitemau mwy o faint yn nes at eu cartref.

Bydd y cyfleuster dros dro cyntaf yn agor yn yr hen swyddfeydd treth ym Mharc Tŷ Glas ddydd Sadwrn 5 Mawrthrhwng 9am a 3pm. Bydd yn dychwelyd bob dydd Sadwrn - yn ddibynnol ar alw - am wyth wythnos. Cyhoeddir rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth, a'r lleoliadau, wrth iddynt gael eu hychwanegu, drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol y cyngor.

Gall preswylwyr ollwng eu hailgylchu heb drefnu apwyntiad, ond bydd rhaid iddyn nhw ddangos prawf o'u cyfeiriad a'u bod yn byw yng Nghaerdydd er mwyn defnyddio'r cyfleusterau.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, yr Amgylchedd ac Ailgylchu: "Rydym yn awyddus i edrych ar opsiynau a fydd yn ei gwneud yn haws i bobl ailgylchu. Bydd y cyntaf o'r digwyddiadau symudol hyn yn cael eu cynnal yng ngogledd Caerdydd ac os bydd y cynllun yn llwyddiannus, byddwn yn edrych ar sut y gallem ehangu'r gwasanaeth i safleoedd addas eraill ar draws y ddinas."

Bydd preswylwyr yn gallu ailgylchu'r eitemau canlynol yn Nhŷ Glas:

  • Llyfrau, CD's a DVD's
  • Tecstilau a dillad
  • Batris y cartref
  • Plastig caled 
  • Metel sgrap
  • Gwastraff gardd
  • Coed a phren
  • Offer trydanol bach
  • Cardfwrd 

Gan mai cyfleuster dros dro yw hwn, ni ellir ailgylchu rhai eitemau sy'n cael eu hystyried yn 'wastraff peryglus', neu sy'n rhy fawr i'w cludo'n hawdd ar y safle hwn.

Ni ddylai preswylwyr ddod ag eitemau fel y rhain i'r safle dros dro:

  • Batris ceir
  • Bylbiau a goleuadau
  • Paent
  • Teiars
  • Poteli nwy
  • Nwyddau Gwyn
  • Monitorau teledu a sgriniau
  • Offer domestig mawr

Os oes angen i breswylwyr ailgylchu'r math hwn o wastraff, dylent drefnu apwyntiad naill ai yng nghanolfan ailgylchu Ffordd Lamby neu Clos Bessemer.

Yn unol â pholisi'r cyngor ym mhob canolfan ailgylchu, ni dderbynnir gwastraff bagiau du cymysg (cyffredinol) yn y cyfleuster hwn.

Ychwanegodd y Cynghorydd Michael: "O 14 Chwefror, bydd cyfleusterau ailgylchu hefyd yn cael eu darparu mewn pum hyb ledled y ddinas gan gynnwys Grangetown; Llanedern; Llaneirwg, yr Eglwys Newydd a Threlái a Chaerau. Bydd preswylwyr yn gallu ailgylchu llyfrau, CD's a DVD's; offer trydanol bach; Pecynnau Tetra, cetris argraffu a batris cartref yn y canolfannau hyn. Gobeithiwn y bydd y cyfleusterau lleol hyn yn helpu preswylwyr, nad oes ganddynt fynediad i gar, i ailgylchu eu gwastraff ychwanegol nad yw'n cael ei gasglu wrth ymyl y ffordd.

"Os byddant yn llwyddiannus, bydd cyfleusterau tebyg yn cael eu cyflwyno i bob hyb ledled y ddinas. Os ydym i gyd yn gweithio gyda'n gilydd ac yn ailgylchu cymaint o'n gwastraff â phosibl, gallwn barhau i fod y ddinas graidd sydd â'r gyfradd ailgylchu uchaf yn y DU a'n nod yw dod y gorau yn y byd."

Mae'r canolfannau ailgylchu newydd yn rhai dros dro a symudol, felly nid oes angen caniatâd cynllunio na thrwydded amgylcheddol arnynt.

Mae'r cyfleusterau ailgylchu ychwanegol hyn ar gyfer gwastraff cartref yn unig, felly ni chaniateir faniau ar y safle.