Back
Cau Parc Morfa’r Grange (Grangemoor Park) ar gyfer gwaith hanfodol

28/01/22


Bydd Parc Morfa'r Grange yn cau am o leiaf 12 wythnos o Ddydd Llun, 31 Ionawr, er mwyn cynnal gwaith cynnal a chadw hanfodol ar y safle tirlenwi sydd wedi'i adfer.

Mae angen gwaith i'r system trwytholch ac echdynnu nwy ar yr hen safle tirlenwi er mwyn sicrhau bod y sgil-gynhyrchion hyn yn cael eu casglu, eu rheoli a'u symud oddi yno mor effeithlon â phosibl.

Bydd offer trwm ar y safle, ac i sicrhau y gellir gwneud y gwaith yn ddiogel, bydd yr holl fynediad i'r parc ar gau tan o leiaf ganol Mehefin. Fodd bynnag, bydd y llwybr o amgylch y parc sy'n darparu mynediad i Lwybr Elái yn parhau ar agor drwy gydol y gwaith.

Hoffai'r cyngor ddiolch i'r cyhoedd am eu hamynedd tra bod y gwaith hanfodol hwn yn digwydd.

Dwedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Pan fydd gwastraff yn cael ei gladdu mewn safle tirlenwi, cynhyrchir dau sgil-gynnyrch - methan a thrwytholch. Mae'n bwysig bod y rhain yn cael eu rheoli'n gywir er mwyn sicrhau bod y cyhoedd a'r amgylchedd yn cael eu diogelu. Mae'r gwaith sydd ar y gweill ym Mharc Morfa'r Grange wedi'i gynllunio i ddiweddaru a gwella systemau ar y safle."

Cynhyrchir nwy methan pan fydd gwastraff yn pydru mewn safleoedd tirlenwi yn absenoldeb ocsigen. Mae'n cael ei echdynnu o'r safle tirlenwi i greu ynni. Hylif yw'r trwytholch ac mae'n cael ei dynnu o'r safle tirlenwi drwy gyfres o bympiau a gedwir mewn siambrau o amgylch y safle, cyn iddo gael ei bwmpio i orsaf lle caiff ei drin a'i wneud yn ddiogel.