Back
Gwaith i ddechrau ar Ffordd Churchill i ailagor camlas gyflenwi’r dociau

28/01/22

Bydd gwaith i agor camlas gyflenwi'r dociau, rhan o uwchgynllun ehangach i greu Cwr y Camlas bywiog newydd yn rhan ddwyreiniol canol y ddinas, yn dechrau ar Ffordd Churchill ddydd Llun, 7 Chwefror.

Bydd y gwaith, y disgwylir iddo bara deuddeg mis, yn golygu y bydd Ffordd Churchill, i'r gogledd o Stryd Ogleddol Edward, ar gau i draffig yn ystod y cyfnod hwnnw.

Bydd agor y gamlas yn creu mannau gwyrdd cyhoeddus newydd, gyda gerddi glaw i reoli draeniad dŵr wyneb, seddi awyr agored ac ardal perfformiadau awyr agored ar ffurf amffitheatr.

Cafodd yr uwchgynllun ehangach ar gyfer Cwr y Gamlas, sy'n cynnwys ymestyn y gamlas ymhellach i lawr at gamlas gyflenwi dociau'r de ar Stryd Tyndall, ei gymeradwyo gan Gabinet Cyngor Caerdydd ym mis Mai y llynedd.

Nod yr uwchgynllun hwn yw creu ardal newydd, fywiog yn nwyrain y ddinas, gan gysylltuHeol y Bont, Heol David, Heol Charles, Stryd Tredegar, Cilgant Guildford a Lôn y Barics i greu datblygiad defnydd-cymysg, dwysedd uchel gan ddenu cartrefi, gwestai, lletygarwch, swyddfeydd o ansawdd uchel, unedau hamdden a manwerthu.

Fel rhan o'r cynllun hwn, ni all traffig drwodd ddefnyddio Rhodfa'r Orsaf mwyach. Dim ond tacsis a bysus fydd yn cael defnyddio'r ffordd hon i'r naill gyfeiriad neu'r llall er mwyn rhoi blaenoriaeth i fysus deithio i mewn ac allan o'r gyfnewidfa fysus newydd ar ochr ddwyreiniol y ddinas pan fydd wedi'i chwblhau.

Gyda chyllid gan y Fargen Ddinesig a Llywodraeth Cymru, bydd gwelliannau sylweddol hefyd yn cael eu gwneud i'r ardal gyhoeddus, gyda llwybr beicio newydd ar Rodfa'r Orsaf, palmentydd ehangach a chyfleusterau croesi gwell o amgylch gorsaf drenau Heol y Frenhines Caerdydd, a chyffordd well newydd rhwng Stryd Adam a Ffordd Churchill.

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar gam cyntaf ailagor y gamlas a'r cynllun trafnidiaeth gyda thrigolion a busnesau cyn i'r pandemig ddechrau ac aseswyd yr holl adborth a gafwyd cyn cytuno ar y dyluniad terfynol. 

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, yr Amgylchedd ac Ailgylchu: "Bydd agor camlas gyflenwi'r dociau a'r cynllun trafnidiaeth newydd nid yn unig yn creu canolfan ardal newydd ar gyfer y ddinas ac yn gweithredu fel catalydd ar gyfer buddsoddiad newydd, ond hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth reoli llif traffig a draeniad dŵr wyneb yng nghanol y ddinas.

"Bydd cyfres o erddi glaw yn cael eu hadeiladu, gyda phridd a phlanhigion penodol sy'n trin y dŵr wyneb a chael gwared ar lygryddion cyn i'r dŵr lifo i mewn i'r gamlas. Bydd hyn yn sicrhau bod 3,700 m2o ddŵr yn cael ei ddargyfeirio o'r system garthffosiaeth bob blwyddyn, gan leihau cost ac ynni trin dŵr drwy'r orsaf bwmpio carthion ym Mae Caerdydd."

Bydd y datblygiad newydd hwn a'r uwchgynllun ehangach yn dod â swyddi y mae mawr eu hangen yn ystod y cyfnod adeiladu, yn ogystal â chyfleoedd cyflogaeth hirdymor pan fydd y cynllun wedi'i gwblhau. 

Ni fydd y gwaith hwn yn effeithio ar fynediad i fusnesau ar Ffordd Churchill a bydd y safle tacsis yn cael ei symud i Stryd Ogleddol Edward, lle bydd pwyntiau gwefru trydan newydd yn cael eu gosod at ddefnydd masnachol.