Back
Newyddion gan Gyngor Caerdydd dros y 7 diwrnod diwethaf y gallech fod wedi'i golli 17/01/22

 

14/01/22 - Sicrhau newid gwirioneddol ym mywydau pobl: Cynllun digartrefedd a chymorth tai Caerdydd

Mae blaenoriaethau allweddol Caerdydd ar gyfer atal digartrefedd a rhoi cymorth tai dros y pedair blynedd nesaf wedi'u hamlinellu mewn strategaeth ddrafft newydd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28313.html

 

14/01/22 - Bydd Strategaeth Gweithgarwch Corfforol a Chwaraeon Caerdydd yn helpu i wella bywydau

Strategaeth newydd, sy'n anelu i Gaerdydd fod y 'ddinas gorfforol weithgar orau yn y DU', yn cael ei thrafod fel rhan o gynllun i helpu dinasyddion i wella eu hiechyd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28309.html

 

14/01/22 - Gwella diogelwch ym mharciau Caerdydd

Bydd gosod teledu cylch cyfyng, edrych ar gyfleoedd i wella goleuadau, cloi gatiau penodol y parc gyda'r nos, a chynnig gwobrau i helpu i ddal fandaliaid i gyd yn cael eu trafod fel rhan o gynlluniau sy'n cael eu llunio i wella diogelwch ym mharciau Caer

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28307.html

 

11/01/22 - Cartrefi Cyntaf Caerdydd: Helpu Prynwyr Tro Cyntaf

Mae cynllun perchentyaeth â chymorth Cyngor Caerdydd, sy'n helpu prynwyr tro cyntaf yn y ddinas i gymryd cam ar yr ysgol eiddo, wedi cael ei ail-lansio fel Cartrefi Cyntaf Caerdydd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28285.html