Back
Sicrhau newid gwirioneddol ym mywydau pobl: Cynllun digartrefedd a chymorth tai Caerdydd


14/1/22

Mae blaenoriaethau allweddol Caerdydd ar gyfer atal digartrefedd a rhoi cymorth tai dros y pedair blynedd nesaf wedi'u hamlinellu mewn strategaeth ddrafft newydd.

 

Mae Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai Caerdydd ar gyfer 2022 - 2026 wedi'i datblygu yn dilyn asesiad cynhwysfawr o anghenion ac wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid ac mae'n adeiladu ar y cynnydd sylweddol a wnaed o ran lleihau digartrefedd dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r strategaeth yn nodi sut y bydd y Cyngor a'i bartneriaid yn cefnogi pobl sydd mewn perygl o golli eu cartref a'r rheiny sy'n profi digartrefedd yn y ddinas dros y 5 mlynedd nesaf.

 

Mae'r strategaeth yn seiliedig ar weledigaeth y Cyngor sef dylid atal digartrefedd lle bynnag y bo modd a phan nad yw hynny'n bosibl, dylai profiadau o ddigartrefedd fod yn brin ac yn fyr ac ni ddylent gael eu hailadrodd.

 

Mae'r nodau allweddol yn cynnwys ymrwymiad i sicrhau bod pawb yn cael y cymorth a'r gefnogaeth gywir i fynd i'r afael â'u digartrefedd gan gynnwys cymorth i fynd i'r afael ag unrhyw faterion sylfaenol; y bwriad yw ailgartrefu pobl ddigartref yn gyflym a lleihau'r amser a dreulir mewn llety dros dro tra hefyd gynnig llety cymorth o ansawdd da i'r rheiny sydd ei angen.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:  "Rydym wedi gwneud cynnydd gwych dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Cafodd llawer o waith caled ei wneud i adolygu gwasanaethau cyn y pandemig, gan ddysgu o arfer gorau o bob cwr o'r byd. Gwnaeth y gwaith hwnnw greu sylfaen dda i sefydlu gwell gwasanaethau i bobl sengl a theuluoedd sy'n profi digartrefedd ac mae hynny wedi lleihau nifer y bobl sy'n cysgu ar strydoedd y ddinas yn sylweddol.

 

"Mae'r pandemig wedi ein hannog i wneud mwy o gynnydd yn gyflymach ac mae'r strategaeth ddrafft hon yn parhau i adeiladu ar y dull newydd yr ymrwymon ni iddo yr haf diwethaf sydd hyd yma wedi arwain at ddatblygu Canolfan Asesu Pobl Ddigartref Sengl newydd, at ehangu ein tîm Amlddisgyblaethol, at fodel newydd o wasanaethau iechyd a ddarperir yn uniongyrchol i hostelau, at lety cymorth ychwanegol o ansawdd gwell i bobl sengl ac at ddarpariaeth ddigartrefedd newydd i deuluoedd.

 

"Rydym wedi gwneud cynnydd mawr ond mae llawer o heriau o'n blaenau o hyd, gan gynnwys effaith economaidd y pandemig ar gyllidebau aelwydydd a chost uchel tai yng Nghaerdydd. Fodd bynnag, mae gennym y sylfaen gadarn honno a threfniadau gweithio mewn partneriaeth ardderchog i gefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein dinas gyda gwasanaethau a all sicrhau newid gwirioneddol ym mywydau pobl."

 

Canolbwyntir yn gryf ar ailgartrefu'n gyflym yn y strategaeth i leihau nifer y bobl sy'n dod yn ddigartref ac unrhyw amser a dreulir mewn llety dros dro drwy gynyddu llety rhent cymdeithasol yn y ddinas, cynyddu'r ddarpariaeth Tŷ yn Gyntaf, cynyddu'r opsiynau symud ymlaen i bobl sengl a gwneud mwy o ddefnydd o'r sector rhent preifat, drwy gynnig amrywiaeth o gymhellion a chynlluniau i landlordiaid preifat.

 

Er mwyn sicrhau bod nifer y bobl sy'n cysgu ar strydoedd y ddinas yn parhau'n isel, mae'r strategaeth yn ymrwymo i barhau i gefnogi pobl i gael a chynnal llety ac i ddatblygu'r Tîm Amlddisgyblaethol ymhellach. Bydd llwybrau arbenigol ar gyfer ffoaduriaid, pobl sy'n gadael y carchar a'r rheiny sy'n gadael yr ysbyty yn parhau i gael eu gwella.

 

Er mwyn helpu i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc, mae cynllun tai cymorth newydd ar gyfer pobl ifanc ag anghenion cymhleth yn cael ei gynllunio a chaiff gwasanaethau cynghori a chyfryngu, yn enwedig i bobl ifanc, eu gwella i helpu i atal teuluoedd rhag chwalu.

 

Caiff llety lloches yn y ddinas ei adolygu i sicrhau bod pawb sy'n profi cam-drin domestig yn gallu cael cymorth arbenigol.

 

Mae blaenoriaethau strategol eraill yn cynnwys annog mwy o bobl i fanteisio ar wasanaethau cynghori ac atal digartrefedd drwy wella'r gwaith o hyrwyddo darpariaeth a hygyrchedd y ddarpariaeth honno a datblygu gwell dealltwriaeth o sut mae digartrefedd yn effeithio ar grwpiau amrywiol fel dynion sengl, y rheiny o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a'r gymuned LHDT.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol ddatblygu Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai sy'n nodi'r cyfeiriad strategol ar gyfer gwasanaethau atal digartrefedd a gwasanaethau cymorth tai am y pedair blynedd nesaf.  Bydd y Cabinet yn ystyried strategaeth Caerdydd yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau 20 Ionawr.