14.01.2022
Mae Cyngor Caerdydd yn edrych ar gyfres o fesurau i wella diogelwch ym mharciau poblogaidd y ddinas yn dilyn nifer o ddigwyddiadau, gan gynnwys un a welodd gwerth miloedd o bunnoedd o ddifrod a achoswyd i goed, planhigion, gwaith cerrig, gorchuddion tyllau a cheblau ffibr optig ym Mharc Bute ym mis Medi y llynedd.
Mae'r adroddiad, a gyflwynir ddydd Iau, 20 Ionawr, yn argymell y dylai'r Cabinet ystyried y canlynol:
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae parciau Caerdydd bob amser wedi bod yn lleoedd diogel lle gall pobl fynd i fwynhau'r awyr agored ac mae'n bwysig iawn eu bod yn aros felly.
"Bydd yr adroddiad hwn yn paratoi'r ffordd i'n helpu i ddeall yn llawn yr effaith bosibl y gallai goleuadau ac unrhyw fesurau diogelwch ychwanegol eraill fel teledu cylch cyfyng a chloi yn y nos ei chael ar ein parciau ac ar y bobl sy'n eu defnyddio.
"Mae ein grwpiau ‘Cyfeillion' a gwirfoddolwyr yn hanfodol wrth reoli a datblygu ein parciau a'n mannau gwyrdd, ac rydym am helpu i'w tyfu a'u cefnogi yn yr hyn a wnânt. Byddwn hefyd yn ymgynghori ac yn gweithio gyda phreswylwyr ar unrhyw newidiadau neu gynigion a allai effeithio arnynt,fel y gall pawb barhau i fwynhau ein parciau."