11/1/22
Mae cynllun
perchentyaeth â chymorth Cyngor Caerdydd, sy'n helpu prynwyr tro cyntaf yn y
ddinas i gymryd cam ar yr ysgol eiddo, wedi cael ei ail-lansio fel Cartrefi
Cyntaf Caerdydd.
Nod Cartrefi
Cyntaf Caerdydd yw helpu prynwyr tro cyntaf sy'n byw neu'n gweithio yn y ddinas
ac sy'n methu fforddio prynu cartref cyntaf, drwy gynnig eiddo sydd newydd ei
adeiladu i'w werthu ar sail ecwiti wedi ei rannu ar ddatblygiadau ledled y
ddinas.
Yn ogystal ag
enw newydd ar gyfer y cynllun, mae meini prawf cymhwysedd Cartrefi Cyntaf
Caerdydd hefyd wedi'u hehangu i ganiatáu i fwy o bobl elwa.
Dywedodd yr
Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Ers lansio'r cynllun perchentyaeth â
chymorth tua 18 mlynedd yn ôl, rydyn ni wedi helpu tua 600 o ymgeiswyr i brynu
eiddo. Dyna 600 o aelwydydd na fydden nhw fel arall wedi gallu fforddio prynu
eiddo ar y farchnad agored, wedi dod yn berchnogion tai.
"Nawr,
wrth i ni ail-lansio'r cynllun fel Cartrefi Cyntaf Caerdydd, rydyn ni am
sicrhau bod mwy o bobl, na allan nhw fforddio'r math o flaendal sydd ei angen
fel arfer i brynu cartref, ond sy'n gallu fforddio ymrwymiad parhaus morgais,
yn cael y cyfle hwnnw hefyd.
"Mae galw
mawr am dai fforddiadwy o ansawdd da yn y ddinas a thrwy ein rhaglen
datblygiadau tai uchelgeisiol, rydyn ni'n darparu llawer o gartrefi cyngor
newydd yn gyflym ledled y ddinas. Bydd rhai o'r cartrefi newydd hyfryd hyn ar
gael i'w prynu drwy Cartrefi Cyntaf Caerdydd tra bydd y gweddill yn gartrefi
newydd i bobl ar restr aros tai'r ddinas."
I fod yn gymwys
ar gyfer y cynllun, rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed ac yn brynwyr tro cyntaf
neu brynwyr tro cyntaf yn eu rhinwedd eu hunain. Mae angen i ymgeiswyr drefnu
morgais a darparu blaendal o bump y cant o leiaf o'r pris prynu. Bydd maint y
blaendal yn dibynnu ar y morgais a phris yr eiddo. Mae meini prawf o ran cymhwysedd
yn berthnasol. Nid yw pobl sy'n gallu fforddio prynu eiddo addas ar y farchnad
agored heb gymorth, neu'r rhai sydd wedi bod yn berchen ar gartref o'r blaen
ond sy'n dymuno symud i ardal wahanol yn gymwys ar gyfer y cynllun.
Yn rhan o'r
ail-lansio, mae meini prawf cymhwysedd y cynllun yn cael eu hehangu i gynnwys
ymgeiswyr nad ydynt efallai'n gweithio neu'n byw yng Nghaerdydd ar hyn o bryd
ond sy'n symud yn ôl i Gaerdydd am resymau personol neu broffesiynol ac sydd â
chysylltiad lleol cryf â'r ddinas.
Ychwanegodd y
Cynghorydd Thorne: "Gall bod yn berchen ar eu cartref eu hunain fod yn
rhywbeth na fydd llawer o bobl wedi ei ystyried, oherwydd eu bod yn credu y
byddai allan o'u cyrraedd. Ond gyda chymorth Cartrefi Cyntaf Caerdydd, gall bod
yn berchen ar gartref fod yn fwy fforddiadwy nag y mae pobl yn ei feddwl ac yn
debygol o fod yn rhatach na rhentu'n breifat felly byddem yn annog pobl i
gysylltu i gael gwybod mwy."
Mae Cartrefi
Cyntaf Caerdydd yn gweithredu ar sail ecwiti a rennir. Ecwiti a rennir yw pan
fydd prynwr yn prynu cyfran, fel arfer 70 y cant o werth marchnad agored yr
eiddo, gyda'r gyfran ecwiti sy'n weddill yn cael ei sicrhau fel tâl, gan y
Cyngor neu Gymdeithas Dai.
I gael rhagor o
wybodaeth am y cynllun, ewch i: