Back
Ymgynghoriad cyhoeddus cyn cynigion cyllideb Cyngor Caerdydd

07/01/22 

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn cyfarfod yr wythnos nesaf i ystyried adroddiad sy'n argymell y gall ymgynghoriad cyhoeddus ddechrau, cyn i gynigion ar gyfer cyllideb 2022/2023 gael eu cyflwyno fis nesaf.

Daw ar ôl i Setliad Ariannol Dros Dro Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru gael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr, lle byddai Cyngor Caerdydd yn cael cynnydd o 10.7% mewn cyllid refeniw cyffredinol. Er bod hyn yn cynrychioli £52.6 miliwn ychwanegol mewn termau arian parod, mae'n ofynnol i Gyngor Caerdydd dalu, o'r swm hwnnw, am gost nifer o feysydd gwariant ychwanegol, gan gynnwys y Cyflog Byw Go Iawn yn y sector gofal, cynnydd mewn Yswiriant Gwladol o fis Ebrill ymlaen, a phwysau parhaus sy'n gysylltiedig â COVID-19.

Ar hyn o bryd, gall cynghorau Cymru hawlio'r costau ychwanegol a'r golled mewn incwm sy'n gysylltiedig â phandemig COVID-19 o Gronfa Caledi Awdurdodau Lleol Llywodraeth Cymru, a sefydlwyd ym mlwyddyn ariannol 2020/21. Mae disgwyl i'r cyllid caledi hwnnw ddod i ben eleni, a bydd angen i gyllidebau cynghorau dalu am bwysau ariannol parhaus COVID-19 o fis Ebrill ymlaen.

Ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21, cyfanswm hawliadau cronfa galedi Cyngor Caerdydd oedd £47.7 miliwn ar gyfer gwariant, a £38.2 miliwn ar gyfer y golled mewn incwm. Ar gyfer dau chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol hon, o fis Ebrill i fis Tachwedd 2021, cyfanswm hawliadau gwariant caledi'r cyngor yw £18.7 miliwn, gyda hawliadau incwm yn £9.9 miliwn.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad:  "Mae cyhoeddi'r Setliad Ariannol Dros Dro ar gyfer Llywodraeth Leol gan Lywodraeth Cymru yn caniatáu i ni symud ymlaen i ymgynghoriad cyhoeddus nawr, fel y gall trigolion ddweud wrthon ni ble maent am weld y cyngor yn canolbwyntio ei adnoddau. Bydd canfyddiadau'r ymgynghoriad yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o lunio manylion cynigion cyllideb 2022/23 Cyngor Caerdydd. Bydd y cynigion hynny wedyn yn cael eu cyflwyno i bwyllgorau Cabinet a Chraffu'r cyngor fis nesaf, cyn pleidlais gan y Cyngor Llawn ym mis Mawrth."

Bydd angen i gyllidebau awdurdodau lleol hefyd dalu am bwysau ariannol cynyddol eraill, gan gynnwys talu'r Cyflog Byw Go Iawn yn y sector gofal, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr.

Ychwanegodd y Cynghorydd Weaver: "Mae'r setliad ariannol dros dro eleni o 10.7% ar gyfer Caerdydd i'w groesawu, gan ddod ar ôl degawd lle bu'n rhaid i'r cyngor ddod o hyd i £200m o arbedion. Rydym yn ddiolchgar bod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi awdurdodau lleol drwy'r pandemig ac yn y gyllideb hon. Fodd bynnag, gwyddom fod llawer o heriau cyllidebol o'n blaenau o hyd, gan fod y ddinas yn ymdrin ag effeithiau hirdymor y pandemig byd-eang a phwysau ariannol cynyddol mewn meysydd eraill, megis y sector gofal. Felly, rhaid i'r Cyngor barhau i gryfhau ei gadernid ariannol ac adeiladu sefyllfa gyllidebol gref i symud ymlaen ohoni.

"Mae'n bwysig ein bod yn clywed gan gynifer o bobl â phosibl, o ystod mor eang â phosibl o gefndiroedd, i'n helpu i lunio ein cynigion cyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod, a byddwn yn annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad pan fydd yn agor.

"Yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet, bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ddydd Iau, 13 Ionawr ac yn dod i ben ddydd Gwener, 4 Chwefror. Byddwn yn ceisio barn ystod eang o randdeiliaid, a bydd gennym bwyslais arbennig ar ymgysylltu â phlant a phobl ifanc, cam sy'n gyson â'n gwaith parhaus i wneud Caerdydd yn Ddinas Unicef sy'n Dda i Blant."

Bydd manylion llawn ar sut i gael mynediad i'r arolwg ymgynghori yn cael eu cyhoeddi yn dilyn cyfarfod y Cabinet ddydd Iau nesaf, 13 Ionawr.

Mae setliad dros dro Llywodraeth Cymru yn cynnwys manylion cychwynnol cyllid grant Cymru gyfan, gan gynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â chynllun a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru i ymestyn y ddarpariaeth Prydau Ysgol am Ddim; cynnydd i'r grant Gofal Plant; a chynnydd i'r Grant Datblygu Disgyblion. Disgwylir i ragor o fanylion ynghylch sut y caiff grantiau Cymru gyfan eu dyrannu i'r 22 awdurdod lleol unigol, gan gynnwys Cyngor Caerdydd, gael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

Yn ogystal â chyllid refeniw cyffredinol a chyllid grant, mae Setliad Cyfalaf dros dro Caerdydd yn gynnydd o 2.7% mewn Cyllid Cyfalaf Cyffredinol ar gyfer 2022/23, neu ychydig o dan £500,000.

Mae'r adroddiad sy'n cael ei ystyried gan y Cabinet ar gael i'w lawrlwytho'n llawn yn
www.caerdydd.gov.uk/cyfarfodydd.

 

Llinell Amser Pennu Cyllideb 2022/23 Cyngor Caerdydd

13 Ionawr tan 4 Chwefror 2022

Yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet, cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus i ddarganfod ble mae pobl am weld Cyngor Caerdydd yn canolbwyntio ei adnoddau

24 Chwefror 2022

Yn seiliedig ar ganfyddiadau'r ymgynghoriad cyhoeddus, ac yn dilyn cyfres o gyfarfodydd Pwyllgor Craffu, cyflwynir Cyllideb arfaethedig Cyngor Caerdydd ar gyfer 2022/23 i'r Cabinet

3 Mawrth 2022

Trafodir cyllideb arfaethedig 2022/23 mewn cyfarfod o'r Cyngor Llawn, ac wedyn bydd pleidlais ymhlith pob Cynghorydd sy'n bresennol