6/1/21
Mae Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol ac Oedolion Cyngor Caerdydd yn awyddus i gael barn tenantiaid y Cyngor ledled y ddinas ar sut mae'r Cyngor yn rheoli ansawdd ei stoc dai.
Mae'r pwyllgor wedi lansio arolwg byr i denantiaid er mwyn deall barn a phrofiadau pobl am Uned Cynnal a Chadw Ymatebol y Cyngor, sydd ar gyfartaledd yn derbyn dros 100,000 o geisiadau am waith atgyweirio bob blwyddyn.
Dywedodd y Cynghorydd Shaun Jenkins, Cadeirydd Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol ac Oedolion: "Mae gwasanaeth tai'r Cyngor yn rheoli mwy na 13,000 o gartrefi Cyngor ar draws y ddinas ac mae Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol ac Oedolion am sicrhau bod gan bob tenant y Cyngor y cymorth a'r gwasanaeth digonol i fyw mewn cartref cyfforddus o ansawdd da."
"Rydym wedi llunio arolwg byr, ar-lein sy'n ceisio asesu effeithlonrwydd proses atgyweirio a chynnal a chadw'r Cyngor er mwyn helpu i nodi meysydd posibl i'w gwella. Os gall tenantiaid y Cyngor roi pum munud o'u hamser, byddant yn rhoi cipolwg beirniadol y gallwn wrando arno a'i gyfleu. Dyma'r amser i ddweud eu dweud ar eu cartref."
Mae Pwyllgorau Craffu Cyngor Caerdydd ar wahân i'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau yn yr awdurdod. Eu diben yw sicrhau bod mwy o Gynghorwyr ynghlwm wrth y broses o ddylanwadu ar bolisïau'r Cyngor a gwelliannau i wasanaethau, i gynrychioli llais a phryderon y cyhoedd a gwirio a chydbwyso'r penderfyniadau a wneir gan y Cabinet.
Bydd yr arolwg i denantiaid ar agor o ddydd Llun, 3 Ionawr i ddydd Gwener, 28 Ionawr ac mae ar gael yma: https://wh.snapsurveys.com/s.asp?k=163663367644
Bydd copïau caled o'r arolwg hefyd ar gael ym mhob un o hybiau'r Cyngor.
Bydd aelodau o'r Pwyllgor yn cyfarfod i drafod yr eitem hon ac i ddadansoddi'r ymatebion i'r arolwg ddydd Mercher 9 Mawrth am 4:30pm. Bydd y cyfarfod yn cael ei we-ddarlledu'n fyw i'r cyhoedd ei wylio yma:
https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListMeetings.aspx?CommitteeId=141