23/12/2021
Bydd nifer o atyniadau Nadolig Caerdydd yn cau ar ddiwedd y dydd ar Noswyl Nadolig yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru bod Cymru'n symud i Lefel Rhybudd 2.
Bydd atyniadau Gŵyl y Gaeaf yn Neuadd y Ddinas, Heol Sant Ioan a'r castell; Neuadd Dewi Sant, y Theatr Newydd ac Amgueddfa Caerdydd i gyd yn cau.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd, "Yn amlwg gyda chynnydd yn nifer yr achosion Omicron, yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw pobl yn ddiogel ac i helpu i arafu lledaeniad y feirws. Yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog ddydd Mercher, bydd Castell Caerdydd yn cau am 8pm ar Noswyl Nadolig yn yr un modd â'r llawr sglefrio a'r llwybr iâ. Bydd y castell yn aros ar gau dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd ac yna drwy gydol mis Ionawr ar gyfer gwaith cynnal a chadw hanfodol.
"Bydd Amgueddfa Caerdydd hefyd yn cau ar Noswyl Nadolig ac yn aros ar gau drwy gydol mis Ionawr, yn ogystal â Neuadd Dewi Sant. Byddwn yn ceisio aildrefnu perfformiadau lle bo hynny'n bosibl ar gyfer Neuadd Dewi Sant, a bydd swyddfa docynnau Neuadd Dewi Sant mewn cysylltiad â chwsmeriaid sydd eisoes wedi prynu tocynnau ynglŷn â'r opsiynau wrth symud ymlaen, gan gynnwys sioeau yr effeithir arnynt ym mis Ionawr.
"Bydd y Theatr Newydd yn cau ar ôl y perfformiad olaf ar Noswyl Nadolig tan 16 Ionawr. Bydd HQ Theatres, sy'n rhedeg y Theatr Newydd, yn gwneud unrhyw benderfyniad ar ailagor o'r dyddiad hwnnw yn seiliedig ar gyngor a chyfyngiadau Llywodraeth Cymru bryd hynny. Bydd HQ hefyd yn cysylltu â chwsmeriaid am eu hopsiynau o ran eu tocynnau ar gyfer unrhyw sioeau fydd yn cael eu canslo."
Bydd holl atyniadau Gŵyl y Gaeaf ar draws canol y ddinas yn cau erbyn 8pm ar Noswyl Nadolig. Bydd marchnad Nadolig y ddinas yn cau bryd hynny hefyd.Bydd holl docynnau Gŵyl y Gaeaf (gan gynnwys ffioedd archebu) ar gyfer sesiynau ar ôl 8pm, Rhagfyr 24, sydd wedi'u prynu ar-lein neu dros y ffôn drwy Ticketsource, yn cael eu had-dalu'n awtomatig i'r dull talu gwreiddiol, ac nid oes angen i chi gysylltu â Ticketsource/y lleoliad i wneud hyn. Gall ad-daliadau gymryd hyd at 10 diwrnod gwaith cyn ymddangos yn eich cyfrif, a gall gwyliau banc y Nadolig effeithio ar hyn. Ar gyfer unrhyw docynnau a brynwyd drwy ddulliau eraill, cysylltwch â'r trefnydd digwyddiadau'n uniongyrchol.
Bydd Syrcas NoFit State yn parhau gyda'r bwriad i redeg Lexicon yn y babell Big Top yng Ngerddi Sophia tan 15 Ionawr, ond mae wedi lleihau capasiti'r gynulleidfa ar gyfer pob perfformiad ar ôl 26 Rhagfyr i gydymffurfio â rheoliadau newydd Llywodraeth Cymru. Bydd yr holl berfformiadau ar ôl 26 Rhagfyr yn cael eu cynnal drwy gadw pellter cymdeithasol.
O ganlyniad i'r capasiti llai, bydd NoFit yn cysylltu â rhai o'r archebwyr diweddaraf i egluro na fyddant bellach yn gallu gweld y perfformiad o'u dewis a byddant naill ai'n cynnig tocynnau iddynt weld perfformiad gwahanol neu ad-daliad. Os nad ydych yn clywed gan NoFit yna mae eich tocynnau'n ddiogel a gallwch ymweld â'r Big Top yn y ffordd arferol.
Doedd dim cynlluniau ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau awyr agored cyhoeddus ar Nos Galan yng Nghaerdydd eleni.