Back
Mynegi eich barn ar gynlluniau Caerdydd i ehangu ac ad-drefnu darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwane


23/12/2021

Mae Cyngor Caerdydd yn ymgynghori ar gyfres o gynlluniau sylweddol iehangu'r ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), Anghenion Dysgu Cymhleth (ADC) ac anghenion iechyd a lles, i helpu i ateb y galw cynyddol am leoedd mewn ysgolion arbennig ac mewn Canolfannau Adnoddau Arbenigol (CAA) cynradd ac uwchradd mewn ysgolion ledled y ddinas.

Gwahoddir aelodau o'r cyhoedd i rannu eu barn ar y canlynol:

Darpariaeth iechyd a lles emosiynol;Newidiadau i ddarparu lleoedd o ansawdd uchel i ddysgwyr ag anghenion iechyd a lles emosiynol 11-19 oed

Er mwyn ateb y galw cynyddol am leoedd mewn ysgolion arbennig i ddysgwyr ag anghenion iechyd emosiynol a lles rhwng 11 a 19 oed, cynigir:

  • Cynyddu nifer y lleoedd disgyblion yn Ysgol Greenhill o 64 i 160
  • Trosglwyddo Ysgol Greenhill i adeiladau newydd ar draws dau safle ar safle'r Dutch Garden Centre, Maes y Bryn Road (ger yr M4, Cyffordd 30) a Tŷ Glas Road yn Llanisien, gydag 80 o ddisgyblion ar bob safle o fis Medi 2025.

Er mwyn ateb y galw am leoedd mewn canolfan adnoddau arbenigol i ddysgwyr 11-19 oed sydd ag anghenion emosiynol a lles, cynigir:

  • Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol ag 20 o leoedd yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd o fis Medi 2022
  • Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol ag 20 o leoedd yn Ysgol Uwchradd y Dwyrain o fis Medi 2022 

Cynhelir yr ymgynghoriad hwn tan 1 Chwefror 2022. Ewch iwww.caerdydd.gov.uk/cynigionysgolADY

Darpariaeth ar gyfer Anghenion Dysgu Cymhleth a Chyflyrau ar y Sbectrwm Awtistiaeth:Newidiadau i ddarparu lleoedd o ansawdd uchel i ddysgwyr 3-19 oed sydd ag anghenion dysgu cymhleth a Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistiaeth

Er mwyn ateb y galw cynyddol am leoedd mewn ysgolion arbennig a chanolfannau adnoddau arbenigol i ddysgwyr 3-19 oed sydd ag Anghenion Dysgu Cymhleth a Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistiaeth, mae'r Cyngor yn cynnig cynyddu nifer y lleoedd Anghenion Dysgu Ychwanegol mewn amrywiaeth o ysgolion arbennig, ysgolion cynradd ac uwchradd o fis Medi 2022.

Cynhelir yr ymgynghoriad hwn tan 1 Chwefror 2022. Ewch iwww.caerdydd.gov.uk/cynigionysgolADY

Ar hyn o bryd mae gan Gaerdydd 17 o Ganolfannau Adnoddau Arbenigol (CAA) mewn ysgolion cynradd ac uwchradd sy'n cynnig cymorth a chyfleoedd fel y gall disgyblion ag anawsterau dysgu lwyddo mewn amgylchedd ysgol prif ffrwd. Mae hefyd saith Ysgol Arbennig, pum dosbarth lles cynradd, Uned Cyfeirio Disgyblion arbenigol a dosbarth lleferydd ac iaith cynradd.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Rydym eisoes wedi cynyddu nifer y Canolfannau Adnoddau Arbenigol yn sylweddol yng Nghaerdydd ac mae cynlluniau i ehangu ac ailadeiladu ar gyfer Ysgolion Arbennig Glan yr Afon a Woodlands yn mynd rhagddynt.

"Fodd bynnag, mae twf poblogaeth disgyblion a chymhlethdod cynyddol anghenion rhai dysgwyr wedi golygu bod y gofyniad am ddarpariaeth arbenigol wedi cynyddu a bod nifer y disgyblion sydd angen lle mewn ysgol arbennig neu CAA yn parhau i dyfu.

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry:  "Bydd yr ymgynghoriadau diweddaraf hyn yn caniatáu i bobl ddweud eu dweud ar gynlluniau i gynyddu'r amrywiaeth o opsiynau i ddysgwyr, ffyrdd y gellir mynd i'r afael â chyflwr gwael rhai adeiladau ysgol ac addasrwydd amgylcheddau dysgu, a chynlluniau i sicrhau bod ein disgyblion mwyaf agored i niwed yn gallu cael mynediad i amgylcheddau arbenigol ac arbenigedd, fel y gallant ffynnu yn y dyfodol."