Back
Diweddariad COVID-19 Cyngor Caerdydd: 21 Rhagfyr

21/12/21

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: casgliadau gwastraff yn parhau dros wyliau'r Nadolig heb newid ond mae'r cyngor yn cynnig casgliad coed Nadolig ym mis Ionawr, ymgynghoriad ar gynlluniau i ddatblygu'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol, Addewid Caerdydd yn ennill Gwobr Flynyddol CCF 2021, cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd.


Casgliadau gwastraff Caerdydd ddim yn newid dros yr ŵyl ond bydd y cyngor yn cynnig casgliad coed Nadolig ym mis Ionawr

 

 

Er na fydd unrhyw newidiadau i ddiwrnodau casglu ailgylchu a gwastraff dros y Nadolig, mae Cyngor Caerdydd yn trefnu casgliadau coed Nadolig yn ystod pythefnos cyntaf mis Ionawr.

Gofynnwn i breswylwyr roi eu coed ar y stryd a pheidio â'u torri i fyny na'u rhoi yn y biniau olwynion gwyrdd neu sachau amldro gwyn.  Mae'r casgliadau arbennig hyn ar gyfer coed Nadolig yn unig, ac ni fydd unrhyw wastraff gardd arall yn cael ei gasglu fel rhan o'r gwasanaeth hwn.

Bydd pwynt gollwng coed Nadolig hefyd ar agor ym Mharc y Mynydd Bychan ar 8 a 9 Ionawr rhwng 10am a 4pm. 

Bydd coed Nadolig yn cael eu casglu o ymyl y ffordd o wardiau'r ddinas ar y diwrnodau canlynol:

4 Ionawr:  Y Tyllgoed, Sain Ffagan, Trelái a Chaerau

5 Ionawr:  Grangetown, Treganna a Glan-yr-afon

6 Ionawr:  Butetown, Adamsdown, Sblot a Phlasnewydd

7 Ionawr:  Pontprennau, Pentwyn a Phen-y-lan

11 Ionawr:  Creigiau, Pentyrch, Radur, yr Eglwys Newydd a Gorllewin y Mynydd Bychan

12 Ionawr:  Llandaf, Ystum Taf, Gabalfa, Cathays a Dwyrain y Mynydd Bychan

13 Ionawr:  Tredelerch, Llanrhymni, Trowbridge a Phentref Llaneirwg

14 Ionawr:  Llys-faen, Llanisien, Rhiwbeina a Chyncoed

Ac eithrio gwyliau banc, bydd y canolfannau ailgylchu yng Nghlos Bessemer a Ffordd Lamby yn parhau ar agor dros y gaeaf, felly gallwch ddod â gwastraff ailgylchu a gwastraff gardd i'r cyfleusterau hyn hefyd - https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/casgliadau-gwastraff-gardd/Pages/default.aspx

 

 

Dweud eich dweud ar gynlluniau'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol

 

Mae arolwg sy'n gwahodd aelodau o'r cyhoedd i ymateb i Uwchgynllun Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd (ISV), bellach ar agor.             

Mae'r ymgynghoriad 6 wythnos yn gofyn am farn ar gynlluniau Cyngor Caerdydd i ddatblygu'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol gan ddechrau gyda'r ddarpariaeth o hyb beicio canolog arfaethedig â chyfleusterau chwaraeon ychwanegol modern, addas i'r diben, gan gynnwys felodrom newydd, trac beiciau oddi ar y ffordd a chylched ffordd gaeedig.

Gwahoddir preswylwyr ac ymwelwyr i ateb arolwg byr sy'n cynnwys cwestiynau ar:
 

  • Adleoli Trac Beicio Maendy
  • cyfleusterau eraill yr hoffech eu gweld yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol
  • cyfleusterau yr hoffech eu gweld yn y felodrom
  • pa un o'r cyfleusterau newydd arfaethedig y Pentref Chwaraeon newydd yr ydych chi'n debygol o'i ddefnyddio?
  • sut rydych yn teithio i'r Pentref Chwaraeon ac y byddech yn teithio i'r cyfleusterau newydd arfaethedig

Darllenwch fwy yma: https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28232.html

 

Addewid Caerdydd yn ennill Gwobr Flynyddol CCF 2021

 

 

Mae Addewid Caerdydd wedi ennill y wobr Busnes a Phartner yng Ngwobrau Blynyddol Coleg Caerdydd a'r Fro (CCF) 2021, ar ôl cael eu dewis gan banel o feirniaid am eu cefnogaeth fel partner.

 

Mae'r Gwobrau Blynyddol yn dathlu llwyddiant a chyflawniad dysgwyr o'r flwyddyn academaidd flaenorol ac yn cydnabod partneriaid busnes CCF a'u haddewid parhaus i addysg a datblygiad.

 

Mae Addewid Caerdydd yn cefnogi'r weledigaeth y bydd y sectorau cyhoeddus a phreifat a'r trydydd sector yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion a darparwyr addysg i gysylltu plant a phobl ifanc ag amrywiaeth eang o gyfleoedd sydd ar gael yn y byd gwaith.

 

Nod tîm Cyngor Caerdydd yw rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar ddisgyblion ar ble bydd y swyddi ar gyfer y dyfodol, gan nodi'r sectorau twf ledled Caerdydd a gwella eu sgiliau i'w paratoi ar gyfer swyddi yn y dyfodol. 

 

Teimlai'r beirniaid fod y berthynas rhwng Coleg Caerdydd a'r Fro ac Addewid Caerdydd wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd diwethaf ac roedd am gydnabod y rôl y mae Addewid Caerdydd yn ei chwarae wrth gefnogi dysgwyr y coleg.

I gael gwybod mwy am Addewid Caerdydd ewch i'w gwefan yma

 

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 20 Rhagfyr

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 942,681 (Dos 1: 389,817 Dos 2:  354,832 DOS 3: 6,673 Dosau atgyfnertha: 191,309)

 

 

Data Cohort - Diweddarwyd ddiwethaf 13 Rhagfyr

 

  • 80 a throsodd: 20,094 / 94.7% (Dos 1) 19,945 / 94% (Dos 2 a 3*) 17,689 / 88.7% (Dosau atgyfnertha)
  • 75-79: 14,957 / 96.5% (Dos 1) 14,835 / 95.7% (Dos 2 a 3*) 13,232 / 89.2% (Dosau atgyfnertha)
  • 70-74: 21,395 / 95.9% (Dos 1) 21,284 / 95.4% (Dos 2 a 3*) 19,388 / 91.1% (Dosau atgyfnertha)
  • 65-69: 22,010 / 94.5% (Dos 1) 21,777 / 93.5% (Dos 2 a 3*) 19,254 / 88.4% (Dosau atgyfnertha)
  • 60-64: 26,149 / 92.6% (Dos 1) 25,834 / 91.4% (Dos 2 a 3*) 22,135 / 85.7% (Dosau atgyfnertha)
  • 55-59: 29,471 / 90.5% (Dos 1) 29,020 / 89.1% (Dos 2 a 3*) 19,772 / 68.1% (Dosau atgyfnertha)
  • 50-54: 29,184 / 88.3% (Dos 1) 28,588 / 86.5% (Dos 2 a 3*) 13,009 / 45.5% (Dosau atgyfnertha)
  • 40-49: 55,883 / 82.2% (Dos 1) 54,192 / 79.8% (Dos 2 a 3*) 18,453 / 34.1% (Dosau atgyfnertha)
  • 30-39: 61,892 / 76.7% (Dos 1) 58,480 / 72.4% (Dos 2 a 3*) 11,716 / 20% (Dosau atgyfnertha)
  • 18-29: 83,029 / 78.1% (Dos 1) 74,929 / 70.5% (Dos 2 a 3*) 10,007 / 13.4% (Dosau atgyfnertha)
  • 16-17: 4,181 / 75.7% (Dos 1) 2,543 / 46% (Dos 2 a 3*) 147 / 5.8% (Dosau atgyfnertha)
  • 12-15: 15,066 / 56.2% (Dos 1) 1,285 / 4.8% (Dos 2 a 3*)

 

  • Yn ddifrifol imiwno-ataliedig: 6,775 / 99.3% (Dos 1) 5,867 / 86% (Dos 2 a 3*) 26 / 0.4% (Dosau atgyfnertha)
  • Preswylwyr cartrefi gofal: 2,074 / 98.4% (Dos 1) 2,056 / 97.5% (Dos 2 a 3*) 1,838 / 89.4% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr cartrefi gofal: 3,706 / 98.9% (Dos 1) 3,639 / 97.1% (Dos 2 a 3*) 2,711 / 74.5% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr Gofal Iechyd: 27,160 / 98.1% (Dos 1) 26,863 / 97% (Dos 2 a 3*) 22,178 / 84.6% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr Gofal Cymdeithasol**: 7,590 / 76.4% (Dosau atgyfnertha)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,221 / 94.6% (Dos 1) 11,046 / 93.1% (Dos 2 a 3*) 6,041 / 54.7% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 46,021 / 90.5% (Dos 1) 44,603 / 87.7% (Dos 2 a 3*) 31,586 / 70.8% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol (12-15): 621 / 62.5% (Dos 1) 393 / 39.6% (Dos 2 a 3*)

 

 

  • Yn ddifrifol imiwno-ataliedig: 6,775 / 99.3% (Dos 1) 5,799 / 85% (Dos 2 a 3*) 26 / 0.4% (Dosau atgyfnertha)
  • Preswylwyr cartrefi gofal: 2,080 / 98.3% (Dos 1) 2,062 / 97.5% (Dos 2 a 3*) 1,815 / 88% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr cartrefi gofal: 3,693 / 98.9% (Dos 1) 3,627 / 97.2% (Dos 2 a 3*) 2,628 / 72.5% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr Gofal Iechyd: 27,137 / 98% (Dos 1) 26,844 / 97% (Dos 2 a 3*) 21,745 / 81% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr Gofal Cymdeithasol**: 7,289 / 73.4% (Dosau atgyfnertha)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,230 / 94.6% (Dos 1) 11,052 / 93.1% (Dos 2 a 3*) 5,867 / 53.1% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 46,022 / 90.5% (Dos 1) 44,579 / 87.6% (Dos 2 a 3*) 25,644 / 57.5% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol (12-15): 614 / 61.8% (Dos 1) 368 / 37.1% (Dos 2 a 3*)

 

*Y rhai sydd wedi derbyn dau ddos o frechlyn COVID-19, ac eithrio'r rhai sy'n ddifrifol imiwn ataliedig yr argymhellir eu bod yn cael tri dos.

 

**­Data gymerwyd o ffynhonnell amgen.

 

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (10 Rhagfyr - 16 Rhagfyr)

 

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
 

Mae'r data'n gywir ar:

20 Rhagfyr 2021, 09:00

 

Achosion: 2,461

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 670.7 (Cymru: 575 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 12,656

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 3,449.4

Cyfran bositif: 19.4% (Cymru: 18.7% cyfran bositif)