Mae'r ymgynghoriad 6 wythnos yn gofyn am farn
ar gynlluniau Cyngor Caerdydd i ddatblygu'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol gan ddechrau
gyda'r ddarpariaeth o hyb beicio canolog arfaethedig â chyfleusterau chwaraeon
ychwanegol modern, addas i'r diben, gan gynnwys felodrom newydd, trac beiciau
oddi ar y ffordd a chylched ffordd gaeedig.
Gwahoddir preswylwyr ac ymwelwyr i ateb arolwg
byrsy'n cynnwys cwestiynau
ar:
·
Adleoli
Trac Beicio Maendy
·
cyfleusterau eraill yr
hoffech eu gweld yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol
·
cyfleusterau yr hoffech
eu gweld yn y felodrom
·
pa un o'r cyfleusterau
newydd arfaethedig y Pentref Chwaraeon newydd yr ydych chi'n debygol o'i
ddefnyddio?
· sut rydych yn teithio i'r Pentref
Chwaraeon ac y byddech yn teithio i'r cyfleusterau newydd arfaethedig
Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod
Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden: Mae'n cynlluniau i ddatblygu'r Pentref
Chwaraeon Rhyngwladolyn rhan annatod o ymrwymiad y Cyngor i ddarparu cyfleuster o'r
radd flaenaf ar gyfer rhagoriaeth mewn chwaraeon a chyrchfan hamdden
gynaliadwy, hygyrch a chynhwysol i bawb ei mwynhau.
"Mae'r arolwg hwn yn bwysig
iawn i'n helpu i lunio'r manylebau ar gyfer y Pentref Chwaraeon, gan ddechrau
gyda datblygu felodrom newydd, trac beiciau oddi ar y ffordd a chylched ffordd
gaeedig.
"Mae
sefydliadau beicio allweddol gan gynnwys Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol,
Clybiau Beicio a chlybiau a grwpiau chwaraeon lleol wedi bod yn rhan o'r gwaith
o ddatblygu cynlluniau abyddwn ynannog
cymaint ohonoch â phosibl i ymateb i sicrhau ein bod yn cael eich adborth ar y
cynigion.
"Caiff
pob barn a gyflwynir cyn y dyddiad cau ei hystyried a'i defnyddio'n ofalus i
lywio penderfyniadau'r Cyngor ar y ffordd ymlaen."
Y dyddiad cau ar
gyfer ymateb yw hanner nos dydd Sul 30 Ionawr 2022.
Mae rhagor o wybodaeth am gefndir
y prosiect, adleoli Trac Beicio Maendy, y camau nesaf a'r arolwg i'w gweld yma:www.caerdydd.gov.uk/ymgynghoriadpchrh.