Back
Datblygiad Fflatiau Cyngor a Hyb Trafnidiaeth Newydd Wedi’i Gymeradwyo


17/12/21

Cymeradwywyd datblygiad cynllun defnydd cymysg cynaliadwy fydd yn cynnwys tai newydd, manwerthu a chyfnewidfa fysus ar Heol Waun-gron  gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd yr wythnos hon, yn amodol ar gais galw i mewn a chytundeb cyfreithiol gan y datblygwr ar yr amodau a bennwyd.

 

Bydd y cynllun, ar safle'r hen ganolfan ailgylchu yn Llandaf, yn darparu 44 o gartrefi cyngor, swyddfeydd a mannau masnachol newydd yn ogystal â ffordd fynediad newydd a gynlluniwyd i integreiddio'r hyb trafnidiaeth arfaethedig â'r datblygiad preswyl.

 

Bydd yr eiddo newydd, sy'n rhan o raglen ddatblygu'r Cyngor i gynyddu argaeledd cartrefi fforddiadwy yn y ddinas, yn effeithlon iawn o ran ynni, gan ddefnyddio technolegau adnewyddadwy fel gwres o'r ddaear a phaneli solar i gyflawni gwelliannau sylweddol ar y gofynion perfformiad ynni presennol.

 

Bydd tua hanner y fflatiau un ystafell wely a dwy ystafell wely yn cael eu defnyddio i letya pobl ar restr aros tai'r ddinas, a bydd gweddill y cartrefi yn llety dros dro â chymorth i bobl sydd wedi profi digartrefedd o'r blaen ond sy'n barod i symud ymlaen i fyw'n fwy annibynnol gyda'u tenantiaeth eu hunain. Bydd cymorth lefel isel yn cael ei ddarparu i'r tenantiaid hyn ar y safle.

 

Mae integreiddio'r datblygiad preswyl â'r hyb trafnidiaeth yn cynnig manteision i drigolion presennol yr ardal a'r tenantiaid newydd, gan alluogi mynediad mwy cyfleus i rannau eraill o'r ddinas, ac annog dewisiadau teithio llesol drwy well cyfleusterau i gerddwyr a beicio.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:  "Mae ein rhaglen datblygu tai nid yn unig yn ceisio sicrhau ein bod yn cynyddu nifer y tai fforddiadwy yn y ddinas, ond hefyd yn darparu'r math cywir o lety i'r bobl sydd ei angen. Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran mynd i'r afael â digartrefedd yn y ddinas dros y blynyddoedd diwethaf ac mae darparu llety addas i bobl, fel y gallant barhau i gael eu bywydau'n ôl ar y trywydd iawn, gyda chymorth ysgafn iawn gan staff ar y safle, yn hanfodol.

 

"Bydd yr eiddo arall ar y safle yn cael ei ddyrannu i bobl ar ein rhestr aros tai, gan ddarparu cartrefi fforddiadwy y mae mawr eu hangen gyda mynediad rhagorol i amwynderau lleol."

 

Bydd y gyfnewidfa drafnidiaeth newydd yn cael ei hadeiladu wrth wraidd y datblygiad newydd a bydd yn sicrhau bod trigolion ac ymwelwyr yn gallu cyfnewid rhwng trenau, bysus a theithio llesol yn haws a bydd yn caniatáu i bobl deithio ar draws y ddinas ar fws heb deithio i ganol y ddinas.

 

Bydd mynediad cynaliadwy i'r datblygiad yn cael ei wella ymhellach drwy ddarparu nifer o lwybrau beicio strategol yn y dyfodol a gwell cysylltiadau cerdded a nodwyd ar Fap Rhwydwaith Teithio Llesol drafft y Cyngor sy'n cysylltu'r safle â'r rhwydwaith teithio llesol ehangach.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Mae'r datblygiad hwn yn enghraifft wych o'r ffordd orau o ddefnyddio safle tir llwyd, gyda chymysgedd o dai dwysedd uchel i greu tai cymdeithasol y mae mawr eu hangen yn agos at gyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus newydd.

 

"Bydd y gyfnewidfa fysus newydd nid yn unig o fudd i'r rhai sy'n byw yn y datblygiad newydd hwn, ond hefyd i bawb sy'n teithio ar fws o'r dwyrain i'r gorllewin ac i'r gwrthwyneb, gan wella'n sylweddol yr amser teithio ar gyfer y defnyddwyr bysus hyn."

 

Mae'r cais yn destun "cais galw i mewn" i Lywodraeth Cymru, a gafodd ei gydnabod yn argymhelliad y swyddog a'r drafodaeth yng nghyfarfod y Pwyllgor ar Ddydd Mercher.  Mae cais galw i mewn yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod Cynllunio Lleol beidio â phenderfynu ar y cais nes y bydd Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau a ydynt yn dymuno galw'r cais i'w ystyried gan Weinidogion Cymru. Mae Canllawiau'r Llywodraeth yn awgrymu y bydd penderfyniad i alw'r cais i mewn yn cael ei wneud o fewn 21 diwrnod, oni ofynnir am estyniad. Mae'r Cyngor yn aros am y ffurflen benderfynu, a than bryd hynny, bydd yn dal y cais yn ôl.