Back
Hwb mawr i gyflenwad tai fforddiadwy'r ddinas


16/12/21

Caiff bron i 500 o dai fforddiadwy newydd eu hadeiladu yng Nghaerdydd, yn dilyn penderfyniadau gynllunio ar gyfer tri datblygiad yn rhaglen uchelgeisiol y Cyngor i adeiladu tai.


Ddoe, rhoddodd y Pwyllgor Cynllunio ganiatâd i adfywio deiliadaeth gymysg cyffrous ystâd Trem y Môr yn Grangetown a chynllun Byw yn y Gymuned newydd yng Nglan-yr-afon a fydd yn darparu cartrefi newydd cynaliadwy i bobl hŷn ochr yn ochr â neuadd gymunedol newydd, AChA a gardd gymunedol. Cafodd llety newydd a chyfnewidfa drafnidiaeth yn Waun Gron Road ei gymeradwyo gan y Pwyllgor hefyd, yn amodol ar gais galw-i-mewn a chytundeb cyfreithiol gan y datblygwr ar yr amodau sydd wedi'u gosod.

 

Mae'r penderfyniadau ar gyfer y cynlluniau hyn yn hwb sylweddol i raglen ddatblygu'r Cyngor sydd hyd yma wedi darparu mwy na 600 o gartrefi cyngor newydd i'r ddinas ac sy'n ceisio cyrraedd 1,000 o gartrefi newydd wedi'u hadeiladu erbyn diwedd y flwyddyn nesaf.

 

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu mwy na 3,500 o gartrefi y mae mawr eu hangen i helpu i fynd i'r afael â'r galw uchel am dai fforddiadwy o ansawdd da, carbon isel i bobl yng Nghaerdydd yn y blynyddoedd i ddod.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:  "Mae creu mwy o dai fforddiadwy i bobl sydd eu hangen yn y ddinas yn flaenoriaeth i'r Cyngor. Rydym yn adeiladu cartrefi newydd o ansawdd uchel, cynaliadwy a charbon-isel ledled y ddinas i helpu i fynd i'r afael ag angen uchel a symud tuag at ddarparu cartrefi carbon sero-net.

 

"Mae'r penderfyniadau gynllunio ddoe ar gyfer y tri chynllun hyn yn newyddion gwych ac rwyf wrth fy modd ein bod yn parhau i wneud cynnydd rhagorol yn erbyn ein targedau."

 

Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer Cam 1 adfywio Trem y Môr i gymryd lle'r bloc fflatiau uchel sydd ar yr ystâd ar hyn o bryd. Bydd y datblygiad Byw yn y Gymuned newydd yn disodli'r bloc tŵr, gan ddarparu 81 o gartrefi newydd cynaliadwy sy'n defnyddio ynni'n effeithlon iawn i bobl hŷn, yn ogystal â chaffi cymunedol, gerddi cymunedol a gwelliannau amgylcheddol cyfagos.

 

Rhoddwyd caniatâd cynllunio amlinellol hefyd ar gyfer yr uwchgynllun ailddatblygu ehangach ar gyfer yr ystâd a fyddai'n creu mwy na 300 o dai a fflatiau newydd - cymysgedd o gartrefi preifat a chartrefi'r Cyngor i gymryd lle'r eiddo presennol a chynnig yr opsiwn i bawb sy'n byw ar yr ystâd ar hyn o bryd symud i gartref newydd gyda'r ailddatblygiad.

 

Bydd y cynllun hefyd yn darparu mannau gwyrdd ychwanegol i'r gymuned a gwell cysylltedd â thrafnidiaeth gyhoeddus ac amwynderau, gan greu lle mwy deniadol i fyw ynddo i drigolion presennol a newydd. I gael rhagor o wybodaeth am Drem y Môr, ewch i https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28209.html

 

Yn amodol ar gais galw-i-mewn a chytundeb cyfreithiol gan y datblygwr ar yr amodau sydd wedi'u gosod, rhoddwyd caniatâd hefyd i ailddatblygu hen safle canolfan ailgylchu gwastraff y cartref yn Heol Waun-gron, Llandaf i greu datblygiad defnydd cymysg cynaliadwy o ansawdd uchel wedi'i integreiddio mewn hyb trafnidiaeth newydd ar gyfer gorllewin y ddinas. Bydd y datblygiad cyfan yn cyrraedd safon carbon isel, gan harneisio technoleg adnewyddadwy ar y safle gan gynnwys PV solar, storio batris a phympiau gwres o'r ddaear yn hytrach na boeleri prif gyflenwad nwy. 

 

Gan ddod â 44 o fflatiau, swyddfeydd a mannau masnachol newydd i'r ardal, ynghyd â gwell mynediad i feiciau a cherddwyr, bydd y cynllun hefyd yn darparu hyb drafnidiaeth newydd sy'n cyfuno cyfnewidfa fysus newydd â'r orsaf drenau bresennol, gan ganiatáu i bobl deithio ar fws ar draws Caerdydd heb orfod teithio i ganol y ddinas.

Mwy yma: https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28217.html

 

Cafodd 41 o gartrefi cyngor newydd ar safle Neuadd Gymunedol Treganna ar Heol Lecwydd eu cymeradwyo ddoe hefyd. Bydd y fflatiau un a dwy ystafell wely yn darparu llety hyblyg a chynaliadwy i breswylwyr hŷn er mwyn helpu i gynnal eu hannibyniaeth yn eu cartrefi eu hunain am fwy o amser. Bydd y cynllun yn darparu gofod cymunedol ar y llawr gwaelod, gardd gymunedol newydd ac Ardal Chwaraeon Aml-ddefnydd (AChA) wedi'i hadleoli. Fel gyda'n prosiectau eraill, mae safon carbon isel yn cael ei chynnig gan gynnwys PV solar, storio Batri, pympiau gwres o'r Ddaear a phwyntiau gwefru cerbydau trydan. I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun ewch i https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28203.html

 

Mae'r tri chynllun hyn yn rhan o raglen adeiladu ychwanegol y Cyngor, un o'r llwybrau sy'n cael ei ddefnyddio i ddarparu cartrefi mwy cynaliadwy, carbon isel a fforddiadwy i'r ddinas.