Back
Golau gwyrdd cynllunio i gam cyntaf gwaith adfywio mawr ar ystâd


15/12/21

Mae'r gwaith o greu cymuned wedi'i hadfywio, yn darparu cartrefi newydd ac amgylcheddau gwell i drigolion presennol yn ne'r ddinas, wedi cymryd cam mawr yn ei flaen heddiw.

 

Mae 80 o gartrefi cynaliadwy ac ynni-effeithlon newydd ar gyfer pobl hŷn wedi cael caniatâd cynllunio, rhan o Gam 1 uwchgynllun adfywio Trem y Môr fydd yn rhoi bywyd newydd i'r rhan hon o Grangetown yn ogystal â chynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy y mae mawr eu hangen yn y ddinas.

 

Mae pensaernïaeth drawiadol, seilwaith arloesol, gwyrdd, a phwyslais cryf ar greu lleoedd a gwella'r amgylchedd lleol yn agweddau allweddol ar gam cyntaf yr ailddatblygiad, sy'n ffocysu ar ddisodli'r bloc fflatiau uchel presennol.

 

Bydd dau floc newydd o fflatiau yn cael eu hadeiladu wrth ochr Afon Taf, yn manteisio ar olygfeydd gwych yr ardal dros y bae, gan ddarparu llety golau â digonedd o le i breswylwyr. Bydd y bloc mwyaf yn Gynllun Byw yn y Gymuned dynodedig gydag ystod eang o gyfleusterau cymunedol gan gynnwys caffi cymunedol ar y llawr gwaelod ac ystafelloedd gweithgareddau. Bydd y bloc llai yn darparu llety ar gyfer byw'n annibynnol, gyda mynediad i'r ardaloedd cymunedol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Bydd ein cynlluniau ar gyfer Trem y Môr yn creu cymdogaeth wyrddach, fwy cynaliadwy a mwy deniadol i bobl sy'n byw yn yr ardal, gyda mannau cymunedol o ansawdd uchel a gwell cysylltedd â thrafnidiaeth gyhoeddus, siopau a chyfleusterau lleol.

"Bydd Cam 1 yn darparu eiddo newydd cyfoes, cynaliadwy a hyblyg sy'n addas ar gyfer anghenion newidiol pobl wrth iddynt heneiddio, i gymryd lle'r bloc presennol o fflatiau. Gwn fod llawer o'r tenantiaid yn y bloc fflatiau uchel eisoes yn edrych ymlaen yn fawr at symud i'r cartrefi newydd hyn ac fe fyddan nhw wedi eu cyffroi cymaint ag yr ydw i gyda'r newyddion da heddiw.

"Dyma fydd y cam cyntaf yn ein huwchgynllun cyffrous, y darn cyntaf o'r jig-so, a fydd, dros y blynyddoedd nesaf, yn dod at ei gilydd i greu lle ffyniannus a dymunol i fyw ynddo yn Grangetown, gyda chyfuniad da o dai a fflatiau preifat yn ogystal â chartrefi cyngor ychwanegol y mae cymaint eu hangen i helpu i fynd i'r afael â phwysau cynyddol ar gartrefi fforddiadwy o ansawdd da."

Yn y Pwyllgor Cynllunio heddiw, rhoddwyd caniatâd cynllunio amlinellol hefyd ar gyfer ailddatblygu ac ymestyn ehangach ystâd Trem y Môr a fydd bron yn dyblu nifer y cartrefi ar y safle.

Bwriedir i fwy na 300 o fflatiau a thai newydd ddisodli'r 184 eiddo presennol yn ystod camau diweddarach, yn ogystal â mannau gwyrdd cymunedol llawer gwell, mannau chwarae, llwybrau beicio a llwybrau troed a gwell cysylltiadau trafnidiaeth.