Back
Caniatâd cynllunio ar gyfer cartrefi Byw yn y Gymuned

15/12/21 

Mae cynllun tai sy’n rhan o raglen adeiladu newydd uchelgeisiol Cyngor Caerdydd - sy'n darparu llety hyblyg, cynaliadwy, carbon isel i drigolion hŷn er mwyn helpu i gynnal eu hannibyniaeth yn eu cartrefi eu hunain am fwy o amser - wedi cael sêl bendith heddiw.

Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer un o gynlluniau Byw yn y Gymuned arloesol y Cyngor yng Nglan-yr-afon, ar safle Neuadd Gymunedol Treganna, a fydd hefyd yn sicrhau cyfleusterau cymunedol o ansawdd da ar gyfer yr ardal leol.

Bydd y cynllun yn helpu i gynyddu nifer y cartrefi cyngor o ansawdd da yn y ddinas, gan gyfrannu at darged y Cyngor o 1,000 o gartrefi newydd erbyn 2022 a mwy na 2,500 yn y blynyddoedd i ddod, yn ogystal â chyfrannu at y targed o sicrhau rhaglen adeiladu tai carbon sero-net. 

 

Heddiw, mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd wedi cymeradwyo 41 o gartrefi newydd ar Heol Lecwydd.

D
ywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:  "Mae mwy o dai newydd cynaliadwy, fforddiadwy o ansawdd uchel ar eu ffordd i'r ddinas drwy ein rhaglen adeiladu ein hunain.  Gyda galw mawr parhaus am gartrefi cyngor newydd, sydd hefyd yn garbon isel, mae hyn yn newyddion da. 

"Bydd y datblygiad newydd hwn yn creu 41 o gartrefi hyblyg a hygyrch newydd mewn ardal lle mae diffyg cronig o dai fforddiadwy i bobl hŷn.  Mae'r cynllun wedi'i gynllunio'n feddylgar i helpu trigolion i gynnal annibyniaeth, meithrin ymdeimlad o gymuned a pherthyn ac annog rhyngweithio cymdeithasol.

“Gyda phoblogaeth sy'n heneiddio – a disgwyl i nifer y dinasyddion 65 i 84 oed gynyddu 44% dros yr 20 mlynedd nesaf, mae'n bwysig ein bod yn barod ac yn adeiladu cartrefi newydd a all nid yn unig fodloni anghenion trigolion hŷn pan fyddant yn symud i mewn ond hefyd wrth i'w hanghenion newid wrth heneiddio.”

Bydd y datblygiad yn cynnwys 39 o fflatiau un ystafell wely a dwy fflat dwy ystafell wely yn ogystal â neuadd gymunedol fodern a hyblyg i sicrhau bod yr ased cymunedol poblogaidd hwn yn cael ei gadw a bod ganddo ddyfodol hirdymor a chynaliadwy.  Bydd gan y neuadd gymunedol newydd wedi’i gwella’n sylweddol, gyda gardd gymunedol ac ardal gemau aml-ddefnydd newydd. 

Bydd y datblygiad hefyd yn cynnwys amrywiaeth o gyfleusterau cymunedol i gefnogi byw'n annibynnol a helpu i fynd i'r afael ag allgáu cymdeithasol ymhlith pobl hŷn sy'n byw yn y datblygiad newydd ac yn y gymuned ehangach. 

Bydd y cyfleusterau ychwanegol a gwell - y gall y gymuned ehangach eu defnyddio hefyd - yn helpu i gadw tenantiaid yn gysylltiedig â'u hardal leol tra’n sicrhau manteision i bobl sy'n byw gerllaw hefyd.

Mae'r cynllun wedi'i ddylunio i safon uchel iawn gyda phensaernïaeth drawiadol ac mae'n hynod gynaliadwy, gan wneud y defnydd gorau posibl o dechnoleg adnewyddadwy ar y safle gan gynnwys paneli solar a storfeydd batris, pwmp gwres cymunedol i sicrhau nad yw nwy'r prif gyflenwad yn cael ei ddefnyddio a mannau gwefru Cerbydau Trydan.  Bydd strategaeth Draenio Trefol Cynaliadwy o’r radd flaenaf, sy'n cynnig gwelliannau eithriadol i’r ardal gyhoeddus, ac amrywiaeth eang o seilwaith gwyrdd, gan gynnwys to gwyrdd, yn helpu i sicrhau bod dull cynaliadwy o drin dŵr ffo stormydd yn cael ei weithredu er mwyn lleihau'r effaith y bydd y datblygiad newydd yn ei chael ar y system ddraenio bresennol.