10/12/21
Gallai pedair mil o gartrefi ledled Caerdydd gymryd rhan mewn cynllun peilot i brofi ffyrdd y gellid gwella cyfraddau ailgylchu ledled y ddinas.
Mae'r cynllun yn rhan o adolygiad o gasgliadau gwastraff ym mhrifddinas Cymru a gynlluniwyd i fwrw targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru erbyn 2025 a gwneud Caerdydd yn un o ddinasoedd gwyrddaf a glanaf y DU.
Ar hyn o bryd Caerdydd yw'r ddinas ranbarthol fawr yn y DU sy'n perfformio orau o ran ailgylchu. Ar gyfartaledd ers 2018, mae 58% o'r gwastraff a gynhyrchir yn y ddinas yn cael ei ailgylchu neu ei gompostio. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi tasg i Gaerdydd i gynyddu'r gyfradd hon i 64% cyn gynted â phosibl ac i 70% erbyn 2025.
Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn ystyried nifer o gynigion a gynlluniwyd i wella cyfraddau ailgylchu pan fydd yn cyfarfod ddydd Iau 16 Rhagfyr. Mae'r rhain yn cynnwys:
Dwedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, yr Amgylchedd ac Ailgylchu: "Wrth gymharu'r gyfradd ailgylchu a chompostio yng Nghaerdydd â'r un yn ninasoedd rhanbarthol mawr eraill y DU, mae ein ffigurau'n rhagorol ac yn rhywbeth y dylem i gyd fod yn falch ohono, yn enwedig ein trigolion, sy'n chwarae rhan bwysig o ran ein helpu i gyflawni'r niferoedd hyn.
"Fodd bynnag, yn ystod y blynyddoedd diwethaf nid yw ein cyfradd ailgylchu wedi gwella ac mae'n rhaid i ni edrych yn awr ar ffyrdd o'i gwella eto. Ers 2020, mae'r gyfradd ailgylchu gyffredinol ar gyfer y ddinas wedi gostwng oherwydd y pandemig. Mae hyn yn bennaf oherwydd yr angen ar ddechrau'r argyfwng i anfon yr holl wastraff i gyfleuster adfer ynni yn hytrach na'i drefnu i'w ailgylchu, a hynny er mwyn cadw ein gwasanaeth gwastraff ar waith. Felly ychydig iawn o wastraff neu dim gwastraff o gwbl a gafodd ei ailgylchu yn ystod misoedd cynnar y cyfnod clo.
"Roedd yn rhaid i ni wneud hyn er mwyn diogelu staff oedd yn gweithio'n agos at ei gilydd yn ein ffatri prosesu ailgylchu (Cyfleuster Adfer Deunyddiau). Ochr yn ochr â hyn, gorfodwyd canolfannau ailgylchu'r Cyngor yn Ffordd Lamby a Chlos Bessemer i gau dan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru. Dangosodd y penderfyniadau gweithredol hyn, a adroddwyd yn eang ar y pryd, frys y sefyllfa.
"Nawr ein bod wedi adfer ein holl wasanaethau ailgylchu mae'n rhaid i ni gymryd camau i fwrw targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru, ac rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i fwrw'r targed 70% ar gyfer 2024/25. Bydd hon yn her enfawr, yn enwedig gyda'r amrywiaeth eang o gartrefi a phreswylfeydd yn y ddinas, ond gyda chymorth ein trigolion rwy'n siŵr y gallwn fwrw ymlaen. Gwyddom i gyd ein bod yn wynebu argyfwng hinsawdd a dyma un o'r ffyrdd gorau a hawsaf y gallwn i gyd wneud gwahaniaeth.
"Bydd y cynllun peilot newydd, gan ddefnyddio'r dull casglu tair ffrwd, yn ein galluogi i ystyried a all math gwahanol o system gasglu wella ein cyfradd ailgylchu a lleihau swm y gwastraff halogedig sy'n cael ei roi allan i'w ailgylchu ar hyn o bryd.
"Er bod rhoi'r holl eitemau y gellir eu hailgylchu yn y bagiau gwyrdd, fel y gwnawn ar hyn o bryd, yn hawdd ei wneud, mae gormod o halogi wedi bod er gwaethaf rhaglenni addysg amrywiol. Ar hyn o bryd, pan edrychwn ar gyfanswm y gwastraff na ellir ei ailgylchu a brosesir, mae 8% yn cynnwys deunydd a wrthodwyd yn ystod ein proses casglu ailgylchu. Cyfartaledd y diwydiant yw 2%. Nododd dadansoddiad a gynhaliwyd yn 2019/20 fod 10,000 tunnell o ailgylchu wedi'u colli oherwydd halogiad. Gallai hyn ar ei ben ei hun fod wedi cynyddu ein cyfradd ailgylchu 3%.
"Yng Nghaerdydd, mae gennym hefyd nifer fawr o dai amlfeddiannaeth, sy'n 30% o stoc tai'r ddinas. Yn hanesyddol, ychydig iawn y mae'r eiddo hyn yn ei ailgylchu, ac mae angen i hyn newid os ydym am fwrw ein targedau. Felly byddwn yn defnyddio ein timau allgymorth i ymgysylltu â'r trigolion hyn ynghylch yr angen i ailgylchu cymaint â phosibl."
Cynllun peilot casglu gwastraff tair ffrwd
Bydd y Cyngor, gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn edrych ar dreialu casgliad gwastraff tair ffrwd mewn 4,000 o gartrefi ledled y ddinas. Caiff y cynllun peilot ei dreialu mewn pedair ward yng Nghaerdydd: Radur, Llandaf, Pentwyn a Trowbridge. Caiff yr holl eiddo sy'n rhan o'r cynllun peilot lythyr gan y Cyngor ddechrau mis Rhagfyr, ac yna daflen fydd yn nodi'n fanwl yr hyn y mae angen iddynt ei wneud a chaiff y sachau amldro wedyn eu dosbarthu ym mis Ionawr 2022.
Amcanion y cynllun peilot yw:
Bagiau streipiau coch
Pan roddodd y Cyngor finiau olwynion 140 litr i drigolion i storio eu gwastraff cyffredinol i'w gasglu, nid oedd 10% o'r eiddo'n gallu eu defnyddio oherwydd diffyg lle i'w storio.
Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn rhoi 85,000 o roliau o fagiau streipiau coch plastig untro i drigolion nad oes ganddynt fin olwynion. Mae'n costio £50,000 y flwyddyn i brynu a dosbarthu'r bagiau hyn i drigolion am ddim. Caerdydd yw'r unig gyngor yng Nghymru i roi bagiau plastig am ddim ar gyfer casgliadau gwastraff cyffredinol. Bydd y Cabinet yn clywed argymhelliad y dylid atal hyn ar ddechrau 2022. Bydd rhoi terfyn ar ddosbarthu bagiau plastig am ddim yn cefnogi gweledigaeth y Cyngor i fod yn garbon niwtral erbyn 2030. Os caiff yr argymhelliad ei gymeradwyo, bydd trigolion yn prynu eu bagiau gwastraff cyffredinol eu hunain. Byddant yn gallu rhoi tri bag du o wastraff cyffredinol allan i'w casglu fel sy'n digwydd o amgylch gweddill Cymru.
System drefnu ymlaen llaw a pharhau'r polisi 'dim bag du' yn y canolfannau ailgylchu
Cyn y pandemig, daeth ychydig dros 33,000 tunnell o wastraff (19.5% o'r gwastraff y mae'r Cyngor yn delio ag ef bob blwyddyn), i'r canolfannau ailgylchu yn Ffordd Lamby a Chlos Bessemer. Nid oedd llawer o'r gwastraff hwn yn addas i'w ailgylchu, o ganlyniad cafodd effaith negyddol ar ffigurau ailgylchu'r Cyngor.
Cyn y pandemig roedd y gyfradd ailgylchu ac adfer yn y canolfannau yn 67%, yn sylweddol is na chyfartaledd Cymru sef 80%.
Er mwyn lleihau swm y gwastraff cyffredinol oedd yn dod i'r canolfannau ailgylchu, rhoddwyd rheolaethau ar waith i wella cyfraddau ailgylchu'r ddinas ac roedd staff wrth law i gynorthwyo trigolion i wahanu eu gwastraff er mwyn sicrhau bod yr hyn y gellid ei ailgylchu yn cael ei ailgylchu.
Pan ddechreuodd y pandemig a'r angen i gadw pellter cymdeithasol, nid oedd hyn yn bosibl mwyach, ac ynghyd â chanolfannau ailgylchu eraill yng Nghymru, caeodd y cyfleusterau hyn yn ystod y cyfnod clo.
Pan laciwyd cyfyngiadau'r cyfnod clo, rhoddwyd system drefnu ymlaen llaw ar waith i alluogi pobl i gadw pellter cymdeithasol ac i ganiatáu i 50 o gerbydau ddefnyddio pob safle fesul awr.
Effaith y mesurau hyn oedd:
Ers cyflwyno'r mesurau hyn, gostyngodd swm y gwastraff bagiau du na ellid ei ailgylchu a oedd yn dod i'r canolfannau gan 79%, o 7,925 tunnell i ychydig o dan 1,700 tunnell. Helpodd hyn i gynyddu'r gyfradd ailgylchu yn y ddwy ganolfan ailgylchu o 67% yn 2019/20 i 87% yn 2020/21.
Hefyd oherwydd y mesurau newydd, nid oedd gweithredwyr masnachol yn gallu mynd i'r canolfannau ailgylchu i ddympio eu gwastraff a bu'n rhaid iddynt ddefnyddio'r cyfleuster gwastraff masnachol yng Nghlos Bessemer yn lle. Gwnaeth hyn sicrhau llawer mwy o incwm i'r Cyngor.